Yr Heddlu, Plismona a'r Gymdeithas

Cod y Modiwl
CT21020
Teitl y Modiwl
Yr Heddlu, Plismona a'r Gymdeithas
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Semester
Semester 1
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Miss Demi John
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Rhagofynion
CT12220 neu CT22220 neu LC12220 neu LC22220
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
CT31020 neu LC31020
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
LC21020
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Miss Demi John

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Vlog mewn Grwp: 20 Munud 50%
Asesiad Semester Traethawd Ysgrifenedig: 2000 o eiriau 50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd Ysgrifenedig: 2000 o eiriau 50%
Asesiad Ailsefyll Aseiniad: Aseiniad yn lle'r Vlog 2000 o eiriau 50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Dangos ymwybyddiaeth a dealltwriaeth gadarn o’r prif ddamcaniaethau, persbectifau a chysyniadau’n ymwneud a phlismona.
  2. Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o lywodraethu ac atebolrwydd yr heddlu, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
  3. Deall y berthynas rhwng damcaniaethau troseddegol, seicolegol a chymdeithasegol ac arferion plismona cyfredol.
  4. Nodi’r gwahanol ffyrdd y mae plismona wedi cael ei drawsffurfio yn gymdeithasol, yn wleidyddol ac yn gyfreithiol; dehongli sut y mae’r newidiadau hyn wedi effeithio ar bolisiau, arferion a thrafodaethau.
  5. Esbonio a dadansoddi sut y mae prosesau ‘lluosoli’ a ‘globaleiddio’ wedi effeithio ar wahanol randdeiliaid a rhannau penodol o’r cyhoedd.
  6. Dangos eu bod yn ymwybodol o gysyniadau cynnil plismona lluosol a llywodraethu diogelwch o safbwynt cyfreithiol-gymdeithasol.

Disgrifiad cryno

Mae’r modiwl hwn yn rhoi i fyfyrwyr wybodaeth a dealltwriaeth o rol a swyddogaethau’r heddlu a ffurfiau eraill o blismona. Mae’n cyflwyno’r myfyrwyr i gysyniadau ehangach ‘llywodraethu diogelwch’ a ‘plismona lluosol’ o safbwyntiau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Trwy archwilio’r berthynas rhwng yr Heddlu a phlismona, mae’r modiwl yn egluro newidiadau hanesyddol allweddol a weddnewidiodd blismona, ac effaith a chanlyniadau’r newidiadau hynny i’r gymdeithas gyfoes. Mae ffocws rhyngddisgyblaethol y modiwl yn ystyried y themâu hyn o safbwyntiau troseddegol, cyfreithiol, seicolegol, a chymdeithasegol.

Cynnwys

1. ​Llywodraethu’r Heddlu yn y Deyrnas Unedig

- Modelau a Swyddogaethau
- Llywodraethu/ Atebolrwydd
- Dilysrwydd
- Plismona Democrataidd

2. Cymdeithaseg yr Heddlu

- Diwylliant yr Heddlu
- Disgresiwn
- Allgau Cymdeithasol

3. Plismona Lluosol

- Plismona Cymunedol
- Partneriaethau
- Plismona Preifat
- Plismona wedi’i ymgorffori

4. Plismona mewn Cyd-destun Byd-eang
- Plismona Cymharol
- Plismona Trawswladol

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cyfathrebu Anogir cyfathrebu ar lafar yn ystod trafodaethau mewn seminarau rhyngweithiol ac mewn gwaith grŵp a wneir yn y gyfres o seminarau. Bydd cyfathrebu ysgrifenedig yn cael ei ddatblygu a’i asesu yn y gwaith cwrs.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd astudio annibynnol wrth baratoi ar gyfer darlithoedd a seminarau yn datblygu gallu’r myfyrwyr i reoli eu dysgu eu hunain. Bydd gwaith grŵp yn arfogi myfyrwyr â’r sgiliau cyfathrebu i gydweithio ag eraill yn y gweithle. Bydd y gwaith paratoi sydd ei angen ar gyfer aseiniad y traethawd yn annog myfyrwyr i fynychu pob darlith a seminar a chymryd rhan weithredol yn y tasgau.
Datrys Problemau Bydd gofyn i fyfyrwyr ystyried amrywiaeth eang o faterion sy’n codi mewn perthynas â’r heddlu, plismona, llywodraethu a rheolaeth gymdeithasol. Bydd hyn yn gwella ac yn datblygu sgiliau datrys problemau a dadansoddi beirniadol.
Gwaith Tim Bydd gwaith mewn grwpiau bach yn y seminarau yn meithrin gwaith tîm ac yn datblygu cyfnewid gwybodaeth rhwng y myfyrwyr a’r tiwtoriaid.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd darlithoedd a seminarau rhyngweithiol yn annog myfyrwyr i feddwl yn feirniadol ac yn ochrol. Bydd tasgau ac ymarferion a bennir yn y seminarau yn hwyluso dysgu cysyniadau haniaethol a’u cymhwyso i sefyllfaoedd go iawn. Bydd aseiniad y traethawd yn datblygu sgiliau trefniadol ac yn annog myfyrwyr i fyfyrio ynghylch dysgu ac addysgu cynnwys y modiwl mewn modd blaengar.
Rhifedd Trwy ddadansoddi’n feirniadol ganfyddiadau ymchwil bydd y myfyrwyr yn datblygu gwerthfawrogiad o’r ffordd y mae damcaniaethau ac ymarfer yn cyfuno yng nghyd-destun yr heddlu.
Sgiliau pwnc penodol Bydd y myfyrwyr yn datblygu sgiliau adfyfyriol a byddant hefyd yn cael eu hannog i feddwl yn feirniadol ynglyn a’r modd y cymhwysir polisïau’r heddlu i ymarfer yr heddlu.
Sgiliau ymchwil Datblygir sgiliau ymchwil trwy ddefnyddio a dadansoddi testunau ar themâu’n ymwneud â phlismona er mwyn paratoi a chwblhau’r gwaith a asesir.
Technoleg Gwybodaeth Bydd chwilio cronfeydd data electronig a chyfnodolion ar-lein yn gyfle i ymarfer sgiliau TG. Bydd cynnwys craidd y modiwl a thaflenni’r darlithoedd ar gael ar Blackboard.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5