Cyfraith Contract
- Cod y Modiwl
- CT23820
- Teitl y Modiwl
- Cyfraith Contract
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 2
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Nathan Gibbs
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
LC23820
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
CT13820 neu LC13820
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Traethawd: 2000 o eiriau | 40% |
| Asesiad Semester | Perfformiad Seminar: | 20% |
| Arholiad Semester | Arholiad nas gwelir ymlaen llaw (Amlddewis MCQ): 2 Awr 2 Awr | 40% |
| Asesiad Ailsefyll | Adolygiad yn lle perfformiad seminar: 1000 o eiriau | 20% |
| Asesiad Ailsefyll | Traethawd: 2000 o eiriau | 40% |
| Arholiad Ailsefyll | Arholiad nas gwelir ymlaen llaw: 2 Awr 2 Awr | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Nodi ac egluro egwyddorion sylfaenol cyfraith contractau a dadansoddi eu perthnasedd a’r modd y’u defnyddir.
- Nodi, dadansoddi a chloriannu’r elfennau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer contract sy’n gyfreithiol-rwym.
- Dangos dealltwriaeth dda o’r modd y caiff contract ei lunio a’i orfodi.
- Cloriannu a dadansoddi cwmpas cyfraith contractau, gan nodi problemau ac ystyried dewisiadau ar gyfer diwygio.
- Llunio dadleuon argyhoeddiadol ar sail y gyfraith a ffeithiau o achosion perthnasol er mwyn datblygu sgiliau i ddarllen, deall a chymhwyso’r testunau cyfreithiol perthnasol (achosion neu ddeddfwriaeth) i broblemau cyfreithiol; ac i ddehongli a dadansoddi rheolau a thestunau cyfreithiol mewn modd soffistigedig ac effeithiol.
Disgrifiad cryno
Mae’r modiwl yn egluro’r gofynion cyffredinol ar gyfer contract dilys. Mae hefyd yn edrych ar annhegwch gweithdrefnol a’r partïon i’r contract. Astudir hefyd wahanol agweddau ar delerau’r contract. Yn ogystal, mae’r modiwl yn edrych ar gyflawni a thorri contract, a’r rhwymedïau sydd ar gael.
Cynnwys
Noder - mae myfyrwyr lefel 2 yn mynychu’r darlithoedd Lefel 1 yn y modiwl hwn. FODD BYNNAG, er mwyn adlewyrchu eu statws Lefel 2, bydd (i) eu harholiadau, a (ii) eu gwaith seminar yn wahanol ac wedi’u gosod ar lefel uwch.
Nod y modiwl yw cyflwyno’r myfyrwyr i egwyddorion allweddol yr amrywiol feysydd a amlinellir uchod, yn ogystal ag ystyried elfennau cyfreithiol penodol yr egwyddorion hyn, yn bennaf trwy astudio’r gyfraith achosion berthnasol yn ogystal â deddfwriaeth.
Cynnwys
Cyflwyniad i Gyfraith Contractau
Ffurfio Contract
Cydnabyddiaeth
Gorfodaeth
Cymhwystra & Chyfreithlondeb
Preifatrwydd Contract
Telerau Pendant ac Ymhlyg
Dosbarthiadau Telerau
Ymgorffori Telerau
Dehongli Telerau
Cymalau Eithrio
Camliwio Contract
Camgymeriad
Dylanwad Gormodol
Llesteirio Contract
Cyflawni a Thorri Contract
Rhwymedïau
Adferiad
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Bydd y modiwl yn datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig y myfyrwyr trwy gyfrwng yr arholiad. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau cyfathrebu llafar trwy ymatebion unigol a grŵp i waith penodol a osodir ar sail y seminarau. |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Pwnc a argymhellir ar gyfer unrhyw un sy’n ystyried gweithio ym maes trosedd/y system cyfiawnder troseddol |
| Datrys Problemau | Bydd y modiwl yn datblygu sgiliau datrys problemau y myfyrwyr mewn nifer o ffyrdd. Bydd gofyn i fyfyrwyr ddadansoddi ystod o ffynonellau a thestunau er mwyn ateb cwestiynau datrys problemau yn y seminarau; AC yn yr arholiad. |
| Gwaith Tim | Bydd y seminarau yn cynnwys datrys problemau a thrafodaethau grŵp a fydd yn rhoi cyfleoedd i’r myfyrwyr ddatblygu sgiliau gweithio mewn tîm a thrafod eu syniadau â gweddill y dosbarth. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae cymryd rhan mewn seminarau a pharatoi ar gyfer arholiadau yn datblygu gwahanol agweddau ar ymchwil academaidd, o ddeall a chyfeirio at ffynonellau i ledaenu syniadau i eraill ar lafar, a datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig. |
| Sgiliau pwnc penodol | Ymchwil gyfreithiol: defnyddio cronfeydd data cyfreithiol fel adnodd ar gyfer cyfraith statudau a chyfraith achosion Darllen ffynonellau gwreiddiol ar ffurf achosion a deddfwriaeth Bydd ymarferion datrys problemau mewn seminarau yn cynorthwyo â chwestiynau datrys problemau mewn arholiadau, ac yn ehangach ym mhroffesiwn y gyfraith. |
| Sgiliau ymchwil | Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio a chyfuno ystod o ddeunyddiau ffynhonnell academaidd wrth baratoi ar gyfer eu seminarau ac ar gyfer eu harholiad. |
| Technoleg Gwybodaeth | Mae sgiliau llyfrgell ac ymchwil yn hanfodol er mwyn paratoi ar gyfer seminarau a gwaith sy’n cael ei asesu. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5
Law & Criminology,Aberystwyth University, Hugh Owen Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622712 : +44 : +44 (0)1970 622021
law@aber.ac.uk: law@aber.ac.uk
