Ecwiti a Chyfraith Ymddiriedolaethau
- Cod y Modiwl
- CT24920
- Teitl y Modiwl
- Ecwiti a Chyfraith Ymddiriedolaethau
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 1
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Nathan Gibbs
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Rhagofynion
-
CT10120 neu CT10420 neu CT20120 neu LC10120 neu LC10420 neu LC20120
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
LC24920
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
CT34920 neu LC34920
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Traethawd: 2000 o eiriau | 50% |
| Arholiad Semester | Arholiad: 2 Awr 2 Awr | 50% |
| Asesiad Ailsefyll | Traethawd: 2000 o eiriau | 50% |
| Arholiad Ailsefyll | Arholiad: 2 Awr 2 Awr | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Rhoi i fyfyrwyr ddealltwriaeth o’r rheolau cyfreithiol sy’n llywio dulliau sefydlu a rheoli Ymddiriedau.
- Cyflwyno’r myfyrwyr i sgiliau dadansoddi er mwyn gwerthfawrogi a chloriannu trafodion a chysyniadau eiddo cymhleth.
- Dysgu i ddatblygu sgiliau rhesymegol, gan gynnwys cymhwyso gwybodaeth berthnasol i ddatrys problemau cyfreithiol cymhleth.
Disgrifiad cryno
Sefydlir Ymddiriedau am lawer iawn o resymau, er enghraifft cydberchnogaeth ar y cartref priodasol, er mwyn osgoi talu treth; i ddarparu ar gyfer plant bach, yr henoed neu bobl sydd ag afiechyd meddwl, neu i amddiffyn pobl rhag mynd dros ben llestri neu'r hyn y canfyddir gan yr ymddiredwr fel mynd dros ben llestri. Yn yr achosion hyn, sefydlir yr ymddiriedau'n fwriadol ac fel arfer ar ôl cryn dipyn o ystyriaeth a chyngor ymlaen llaw. Mewn achosion eraill, mae'r rhoddi'r ddigymell ac yn y fan yma, mae'r gyfraith yn gorfod dod o hyd i fframwaith ar gyfer gweinyddu'r gronfa sy'n deillio ohono. Ystyrir hefyd swyddogaeth ymddiriedau wrth hybu polisi cyhoeddus a phwysigrwydd cynyddol ymddiriedau mewn cyfraith fasnachol. Hefyd, ystyrir swyddogaeth ac argaeledd rhwymediau ecwitiol.
Cynnwys
1(a). Egwyddorion a rhwymediau ecwitiol
datblygu ecwiti a rhwymediau ecwitiol
rhesymau am ddatblygu ymddiriedau
ymddiriedau fel dull o osgoi treth
ymddiriedau fel dyfeisiau diogelu
ymddiriedau ym myd masnach
(b). Rhwymediau a phwysigrwydd gweithdrefnau yng nghwrs achos yn ymarferol
gwaharddebau: yng nghwrs achos, terfynol a Mareva a
gorchmynion Anton Piller
cadw teitl ac olrhain
cyflawniad llythrennol
digollediad mewn ecwiti
cyfrif o elw
(c). Cyfraith Ymddiriedau
2. Ymddiriedau er budd personau
(a) Creu ymddiriedolaeth
Cymhwystra gofyn sicrwydd
bwriad i greu ymddiriedolaeth
ffurfioldebau bytholbarhadau
(b) Sicrwydd buddiolwyr
Ymddiriedau a Phwerau natur y buddiant llesiannol
(c) Sicrwydd eiddo
3. Etifeddiant
4. Ymddiriedau Elusennol
5. Cymdeithasau Anghorfforedig
6. Pwerau a Dyletswyddau Ymddiriedolwyr Safle Ymddiriedol Ymddiriedolwyr
7. Amrywio Ymddiriedau
Terfynu o dan Saunders yn erbyn Vautier
Amrywio ymddiriedau
Deddf Amrywio Ymddiriedau 1958
Ymddiriedolwyr
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Bydd trafodaethau seminar yn datblygu sgiliau cyflwyno a sgiliau dadlau llafar fel unigolion ac fel grwp. |
| Datrys Problemau | Trafodaeth seminar/darlithoedd ymarfer datrys problemau. |
| Gwaith Tim | Gweithgareddau grwp a thrafodaethau yn y seminarau. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd cymryd rhan mewn seminarau, ymarferion datrys problemau yn y dosbarth a’r arholiad yn datblygu gwahanol agweddau o ddatblygu academaidd personol, o ddeall a chyfeirnodi ffynonellau i ledaenu syniadau i eraill ar lafar, a thrwy ddefnyddio sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig. |
| Rhifedd | Amherthnasol |
| Sgiliau pwnc penodol | Darllen a deall deunyddiau perthnasol ym maes Cyfraith Ymddiriedau yn enwedig cyfraith achosion a dadansoddi academaidd. |
| Sgiliau ymchwil | Caiff y sgiliau hyn eu datblygu wrth baratoi ar gyfer seminarau, y traethawd a’r arholiad. |
| Technoleg Gwybodaeth | Mae sgiliau llyfrgell ac ymchwil yn sylfaenol wrth baratoi ar gyfer seminarau, y traethawd a’r arholiad. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5
Law & Criminology,Aberystwyth University, Hugh Owen Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622712 : +44 : +44 (0)1970 622021
law@aber.ac.uk: law@aber.ac.uk
