Traethawd Estynedig Empeiraidd Troseddeg

Cod y Modiwl
CT30140
Teitl y Modiwl
Traethawd Estynedig Empeiraidd Troseddeg
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Semester
Semester 2 Dysgwyd dros 2 semester
Cyd-gysylltydd y Modiwl
No staff with Userid: LAC48
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Rhagofynion

Rhagofynion
CT12220 neu CT22220 neu CT32220 neu LC12220 neu LC22220 neu LC32220
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
LC30140
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Hyd Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Traethawd estynedig: 10,000-12,000 o eiriau 85%
Asesiad Semester Cyflwyniad yng nghynhadledd y myfyrwyr: 8-10 munud 15%
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad poster a cyfiawnhad: 1500 o eiriau 15%
Asesiad Ailsefyll Traethawd estynedig: 10,000-12,000 o eiriau 85%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Cynllunio cwestiwn ymchwil y gellir ei brofi drwy brosiect empeiraidd
  2. Dangos gallu i osod y cwestiwn hwnnw o fewn cyd-destun damcaniaethol
  3. Dangos gallu i gynnal arolwg effeithiol o’r maes
  4. Dangos gallu i ddewis a chynllunio’r fethodoleg fydd yn taflu goleuni ar y cwestiwn/cwestiynau ymchwil orau
  5. Nodi a thrafod y problemau methodolegol cyffredin
  6. Casglu data
  7. Dadansoddi a gwerthuso data ymchwil yn feirniadol
  8. Dangos gallu i ddehongli canfyddiadau
  9. Dod i gasgliadau sy’n seiliedig ar y canfyddiadau
  10. Sicrhau bod y data’n cefnogi’r casgliadau yn glir
  11. Gosod canfyddiadau yng nghyd-destun ehangach damcaniaeth a pholisi
  12. Darparu cyflwyniad rhesymegol a chlir ac ysgrifennu eu canfyddiadau.
  13. Adolygu corff cydlynol o wybodaeth yn feirniadol a’i gyflwyno i gynulleidfa

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i ddylunio ac ysgrifennu prosiect ymchwil empirig trylwyr mewn Troseddeg.

Cynnwys

Dewisir y pwnc ymchwil gan y myfyriwr ar gyngor gan staff.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cyfathrebu Disgwylir i’r myfyrwyr gyflwyno gwaith ysgrifenedig ar ffurf traethawd estynedig ac asesir eu sgiliau cyfathrebu llafar trwy’r cyflwyniadau
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae’r traethawd estynedig empeiraidd yn ffordd dda o ddysgu’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer eu cyflogaeth a/neu yrfaoedd ôl-raddedig yn y dyfodol.
Datrys Problemau Canfod data ac adnoddau
Gwaith Tim Yn ystod y seminarau gall myfyrwyr gydweithio ar bwnc penodol
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Anogir y myfyrwyr i ymarfer a phrofi eu dysgu eu hunain a’u gallu i ddefnyddio a rhyngweithio â’r deunyddiau trwy ddysgu rhagweithiol yn y sesiynau
Rhifedd Disgwylir i fyfyrwyr gasglu a dadansoddi data
Sgiliau pwnc penodol Sgiliau ymchwil yn cynnwys: chwilio cronfeydd data, dulliau casglu, dadansoddi ac ysgrifennu
Sgiliau ymchwil Mae troseddeg o reidrwydd yn gofyn am ddull rhyngddisgyblaethol o weithio, felly bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i ddulliau ymchwil mewn nifer o feysydd pwnc gwahanol. Byddant yn cael eu cefnogi a'u hannog i ddatblygu sgiliau ymchwil yn y meysydd hyn. Fe'u hanogir i ddarllen yn eang ac i ddod o hyd i ddeunyddiau yn y llyfrgell ac ar-lein
Technoleg Gwybodaeth Wrth baratoi ar gyfer yr aseiniadau bydd gofyn i’r myfyrwyr ddefnyddio cronfeydd data’r llyfrgell a chronfeydd data electronig a meddalwedd eraill.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6