Cyfraith Ewrop

Cod y Modiwl
CT30720
Teitl y Modiwl
Cyfraith Ewrop
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Semester
Semester 2
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Dr Nathan Gibbs
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Rhagofynion
CT10120 neu CT10420 neu CT20120 neu LC10120 neu LC10420 neu LC20120
Rhagofynion

CT10620, LC10620 LC20620, CT20620, LC30620 neu CT30620 Public Law / Cyfraith Gyhoeddus
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
CT20720 neu LC20720
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
LC30720
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
No staff with Userid: MAC21

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Traethawd: 2000 o eiriau 50%
Arholiad Semester Arholiad: 2 Awr 2 Awr 50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd: 2000 o eiriau 50%
Arholiad Ailsefyll Arholiad: 2 Awr 2 Awr 50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Egluro a dadansoddi arwyddocâd strwythurau cyfansoddiadol a sefydliadol sylfaenol yr Undeb Ewropeaidd.
  2. Dangos tystiolaeth o fod wedi cwblhau ymchwil gyfreithiol er mwyn dangos lefel uwch o gymhwysedd wrth ganfod a defnyddio ffynonellau cynradd ac eilaidd cyfraith Ewrop yn ogystal â safbwyntiau athrawiaethol a damcaniaethol ar gyfraith Ewrop.
  3. Dangos dealltwriaeth feirniadol a datblygedig o sut y mae gwahanol gategorïau cyfraith Ewrop yn rhyngweithio a systemau cyfreithiol cenedlaethol.
  4. Egluro, mewn modd cynhwysfawr, yr egwyddorion y seilir y farchnad fewnol arnynt a sut yr adlewyrchir y rhain yn narpariaethau Cytuniadau a'u datblygu yn neddfwriaeth a chyfraith achosion eilaidd Llys Cyfiawnder Ewrop.
  5. Defnyddio'r egwyddorion cyfreithiol perthnasol wrth ddatrys ac egluro problemau damcaniaethol a / neu ymarferol sy'n codi cwestiynau sy'n ymwneud ag agweddau ar Gyfraith yr Undeb Ewropeaidd.

Disgrifiad cryno

Mae cyfraith yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn gorff sylweddol o reolau sy'n rheoli sbectrwm eang o weithgareddau masnachol a chymdeithasol aelod-wladwriaethau. Mae'r cwrs yn ymdrin a chyfraith sylwedd a chyfraith sefydliadol.

Cynnwys

Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno deunyddiau a methodolegau gorchmynion cyfreithiol Ewropeaidd ac yn egluro prif nodweddion y drefn gyfreithiol sy'n seiliedig ar yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r modiwl yn canolbwyntio'n arbennig ar brosesau deddfu; gweithredu a gorfodi cyfraith a pholisi'r UE; atebolrwydd cyfreithiol sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd; y berthynas rhwng yr UE a systemau cenedlaethol, ynghyd â’r rheolau cyfreithiol sy'n llywodraethu'r farchnad fewnol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cyfathrebu Bydd trafodaethau seminar yn datblygu sgiliau cyflwyno a sgiliau dadlau llafar y myfyrwyr, fel unigolion ac fel grwp.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Gofyniad ar gyfer ymarfer cyfreithiol proffesiynol ac ar gyfer cyd-destun trawswladol ymarfer cyfreithiol modern.
Datrys Problemau Trafod mewn seminarau/gwaith paratoi ac wrth ddadlau.
Gwaith Tim Gweithgareddau grwp a thrafodaethau yn y seminarau.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd cymryd rhan mewn seminarau a’r arholiad yn datblygu gwahanol agweddau o ymchwil academaidd, o ddeall a chyfeirnodi ffynonellau i ledaenu syniadau i eraill ar lafar, a datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig.
Rhifedd Amherthnasol.
Sgiliau pwnc penodol Darllen a deall deunyddiau perthnasol ym maes Cyfraith Ewropeaidd yn enwedig cyfraith achosion a dadansoddi academaidd.
Sgiliau ymchwil Wrth ymchwilio a pharatoi ar gyfer y traethawd, y seminarau a’r arholiad.
Technoleg Gwybodaeth Mae sgiliau llyfrgell ac ymchwil yn sylfaenol wrth baratoi ar gyfer seminarau a’r arholiad.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6