Lleoliad Gwaith Cyfiawnder Troseddol

Cod y Modiwl
CT32520
Teitl y Modiwl
Lleoliad Gwaith Cyfiawnder Troseddol
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Semester
Semester 2 Dysgwyd dros 2 semester
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Miss Demi John
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Rhagofynion
CT12220 neu CT22220 neu CT32220 neu LC12220 neu LC22220 neu LC32220
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
LC32520
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
CT22520 neu LC22520
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Hyd Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Portffolio lleoliad gwaith: Sylwebaeth adlewyrchol, gyda therfyn gair uchaf o 2000 o eiriau, ond heb derfyn ar gynnwys deunyddiau eraill (e.e. llawlyfrau hyfforddi, canllawiau asiantaeth ayyb.) 25%
Asesiad Semester Adolygiad y lleoliad gwaith gan asiantaeth allanol: Adolygiad ac asesiad gan y sefydliad lle gwneir y lleoliad 20%
Asesiad Semester Cyflwyniad ar ôl y lleoliad gwaith: Cyflwyniad o 10-15 munund 25%
Asesiad Semester Adrodiad adfyfyriol: 1500 o eiriau 30%
Asesiad Ailsefyll Adrodiad adfyfyriol estynedig lleoliad gwaith: 5000 o eiriau 100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Cyflawni lleoliad gwaith am gyfnod gofynnol.
  2. Gweithio i amserlen benodol mewn asiantaeth cyfiawnder troseddol, amgylchedd llywodraeth neu academaidd.
  3. Gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm.
  4. Defnyddio gwybodaeth o’r astudiaethau academaidd mewn sefyllfa waith
  5. Ystyried sut gallant ddefnyddio eu sgiliau cyflogadwyedd i wella eu dysgu academaidd.
  6. Asesu a myfyrio ar wybodaeth a phrofiad a gafwyd o’r lleoliad a’u cynnwys mewn darn o waith academaidd.
  7. Asesu cyfraniad eu hyfforddiant sgiliau a’u profiad gwaith at ddatblygiad eu gyrfa.

Disgrifiad cryno

Byddai disgwyl i fyfyrwyr y modiwl hwn ddilyn hyfforddiant lleoliad gwaith yn un o’r asiantaethau cyfiawnder troseddol fel gwirfoddolwr neu am dâl. Ar ôl hyfforddi, byddai disgwyl iddynt wneud gwaith gwirfoddol neu waith am dâl am nifer penodol o

oriau o leiaf. Yna, byddent yn dychwelyd ac yn cwblhau traethawd estynedig fel rhan o’r asesiad. Rhan fechan o’r asesiad fyddai asesiad o’u perfformiad yn ystod y lleoliad a fyddai’n cael ei asesu gan y sefydliad lle gwneir y lleoliad.

Cynnwys

Cyn y Lleoliad
Adrannau rhagarweiniol i’w dysgu gan Staff y Brifysgol
1.Cyflwyniad i waith asiantaethau cyfiawnder troseddol
2.Cyflwyniad i waith maes a’i beryglon
3.Ymarfer Myfyriol
4.Ymddygiad Proffesiynol yn y Gweithle

Hyfforddiant Sgiliau Rhagarweiniol a gynigir gan Sefydliadau
Lleoliad
Ôl-drafodaeth a myfyrdod

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cyfathrebu Anogir a datblygu cyfathrebu llafar yn ystod trafodaethau seminar rhyngweithiol ac wrth ymwneud â chyd-weithwyr a/neu gleientiaid yn y lleoliad gwaith. Datblygir sgiliau ysgrifenedig drwy’r cynllun a’r traethawd estynedig byr.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae’r modiwl yn dda ar gyfer gwella dysgu myfyrwyr yn y meysydd hyn; yn wir dyma’r ethos y seiliwyd y modiwl arno.
Datrys Problemau Yn ystod y lleoliad bydd yn rhaid datrys llawer o broblemau ymarferol a fydd yn datblygu ac yn gwella sgiliau datrys problemau beirniadol ac ymarferol myfyrwyr.
Gwaith Tim Mae pob asiantaeth cyfiawnder troseddol yn dibynnu ar waith tîm felly bydd y modiwl o anghenraid yn gwella sgiliau gwaith tîm.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd trafodaethau seminar ac adborth ar waith yn galluogi myfyrwyr i fyfyrio ar eu dysgu eu hunain. Yn fwy gwerthfawr, efallai, fydd y posibilrwydd o fyfyrio ar weithrediad eu disgyblaeth mewn amgylchedd ymarferol ac ymwneud y ddisgyblaeth â pholisi ac ymarfer.
Rhifedd Mae llawer o asiantaethau cyfiawnder troseddol yn defnyddio gwaith ymchwil meintiol i bennu polisi ac mae llawer hefyd yn defnyddio materion meintiol i fesur effeithiolrwydd ymyrraethau yn gyffredinol ac ar unigolion penodol.
Sgiliau pwnc penodol Agwedd ar gyfer pob myfyriwr yn unigol fydd datblygu sgiliau pwnc-benodol ond bydd hyd a lled y sgiliau hyn yn amrywio yn ôl y lleoliad.
Sgiliau ymchwil Datblygir sgiliau ymchwil drwy fynediad at lenyddiaeth ar agweddau ar eu lleoliad.
Technoleg Gwybodaeth Bydd chwilio drwy gronfeydd data a chyfnodolion ar-lein yn ymarfer sgiliau TG. Yn amodol ar eu lleoliadau, bydd y myfyrwyr hefyd yn debyg o ddod ar draws systemau coladu cronfeydd data newydd ar gyfer gwybodaeth am gleientiaid.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6