Cyfraith Tir
- Cod y Modiwl
- CT34820
- Teitl y Modiwl
- Cyfraith Tir
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 2
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- No staff with Userid: MAC21
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Rhagofynion
-
CT10120 neu CT10420 neu CT20120 neu LC10120 neu LC10420 neu LC20120
One of the above must be taken as a pre-requisite.Students are also advised to take either CT24920/ CT34920 Ecwiti ac Ymddiriedolaethau, LC24920/LC34920 Equity and Trusts as a pre-requisite for this module. - Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
CT24820 neu LC24820 neu LC34820
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Aseiniad drafftio cyfreithiol: 2000 o eiriau | 50% |
| Arholiad Semester | Arholiad: 2 Awr 2 Awr | 50% |
| Asesiad Ailsefyll | Aseiniad drafftio cyfreithiol: 2000 o eiriau | 50% |
| Arholiad Ailsefyll | Arholiad: 2 Awr 2 Awr | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Egluro mewn modd manwl yr egwyddorion cyfreithiol Cyfraith Tir
- Dadansoddi sefyllfaoedd ffeithiol yn ymwneud â chyfraith tir a chymhwyso’n feirniadol egwyddorion cyfraith tir i’r sefyllfaoedd hynny.
- Gwneud ymchwil annibynnol ar agweddau o’r gyfraith a chymryd rhan mewn modd beirniadol wrth drafodaethau a safbwyntiau gwahanol ynglŷn â’r gyfraith bresennol, y problemau posibl a’r diwygiadau posibl.
- Dangos tystiolaeth o allu dadansoddi’n feirniadol ystod eang o ddeunyddiau cyfreithiol a’u hintegreiddio i ffurfio persbectifau newydd.
- Dangos tystiolaeth o allu egluro sut mae’r gyfraith yn gweithio i’r rhai nad oes ganddynt gefndir cyfreithiol.
- Gallu dadlau sut i gymhwyso’r gyfraith i bartïon mewn anghydfod – gan gyflwyno achos y naill a’r llall a chloriannu pa un yw’r ddadl fwyaf argyhoeddiadol.
- Gallu cyfleu canlyniadau yn ysgrifenedig yn effeithiol ar lefel academaidd gan ddefnyddio’r derminoleg berthnasol a chyfeirnodi deunydd yn y modd priodol.
- Gallu cymhwyso mewn modd manwl yr wybodaeth sydd ganddynt eisoes i sefyllfaoedd newydd
- Deall agweddau allweddol o gyfraith tir, gan gynnwys dysgu gwybodaeth gydlynol a manwl, a bydd o leiaf peth o’r wybodaeth yn rheng flaenaf rhai agweddau diffinedig o’r ddisgyblaeth, neu wedi’i llywio ganddi.
- Defnyddio technegau dadansoddi ac ymchwil sefydledig yn gywir o fewn disgyblaeth
- Llunio a chynnal dadleuon manwl, a/neu ddatrys problemau, gan ddefnyddio syniadau a thechnegau, rhai ohonynt yn rheng flaenaf y ddisgyblaeth
- Disgrifio a rhoi sylwadau ar agweddau penodol o ymchwil cyfredol, neu ysgoloriaeth uwch cyfatebol, yn y ddisgyblaeth
- Gwerthfawrogi ansicrwydd, amwysedd a chyfyngiadau gwybodaeth
- Rheoli eu dysgu eu hunain, a defnyddio adolygiadau ysgolheigaidd a ffynonellau cynradd (er enghraifft, erthyglau ymchwil wedi eu dafarnu a/neu ddeunyddiau gwreiddiol sy’n briodol i’r ddisgyblaeth).
Disgrifiad cryno
Amcan y pwnc yw cyflwyno’r myfyrwyr i egwyddorion hanfodol perchnogaeth Tir yng Nghymru a Lloegr, a hawliau pobl eraill dros dir, a dulliau gorfodi’r hawliau hynny, gan gynnwys y cyd-berchennog ecwitïol, y prydleswr a’r morgeisiai, y cyfamodai a pherchennog y rhandir trech at ddibenion caniatáu hawddfraint.
Cynnwys
1. Beth yw tir?
2. Pa elfennau sydd i gyfraith tir?
3. Perchnogaeth a chydberchnogaeth tir
4. Prydlesi
5. Morgeisi
6. Hawddfreintiau
7. Cyfamodau
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Gwaith paratoi a thrafodaethau yn y seminarau |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd yr hyn a ddysgir ar y modiwl yn berthnasol i yrfa ym mhroffesiwn y gyfraith. |
| Datrys Problemau | Paratoi ar gyfer cwestiynau datrys problemau yn y seminar a’u trafod |
| Gwaith Tim | Gwaith seminar: paratoi a thrafod mewn grwpiau |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Gwaith seminar: paratoi a thrafodaethau grŵp. Asesiadau ffurfiannol trwy sesiynau ymarfer yn y dosbarth. |
| Rhifedd | Amherthnasol |
| Sgiliau pwnc penodol | Ymchwil cyfreithiol: defnyddio cronfeydd data cyfreithiol pwrpasol fel adnodd ar gyfer cyfraith statudau a chyfraith achosion. |
| Sgiliau ymchwil | Ymchwil ar ôl darlithoedd ac wrth baratoi ar gyfer seminarau. |
| Technoleg Gwybodaeth | Ymchwil ar ôl darlithoedd ac wrth baratoi ar gyfer seminarau. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6
Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Law & Criminology,Aberystwyth University, Hugh Owen Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622712 : +44 : +44 (0)1970 622021
law@aber.ac.uk: law@aber.ac.uk
Law & Criminology,Aberystwyth University, Hugh Owen Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622712 : +44 : +44 (0)1970 622021
law@aber.ac.uk: law@aber.ac.uk
