Trosedd & Chyfiawnder Ieuenctid
- Cod y Modiwl
- CT36120
- Teitl y Modiwl
- Trosedd & Chyfiawnder Ieuenctid
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 1
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Miss Demi John
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Rhagofynion
-
CT12220 neu CT22220 neu CT32220 neu LC12220 neu LC22220 neu LC32220
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
CT26120 neu LC36120
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Miss Demi John
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Cyfathrebu am isafswm oedran cyfrifoldeb troseddol i blant.: Ymateb creadigol i gyfathrebu am isafswm oedran cyfrifoldeb troseddol, a fyddai’n cynnwys rhywbeth wedi’i anelu at blant i hwyluso eu dealltwriaeth o’u beiusrwydd troseddol yn 10 oed (felly byddai angen bod yn briodol i’w hoedran, a gallai fod - ond nid ydynt yn gyfyngedig i - fideo, taflen, poster, cân, rap ac ati). 2000 o eiriau | 50% |
| Arholiad Semester | Arholiad nas gwelir ymlaen llaw: 2 Awr 2 Awr | 50% |
| Asesiad Ailsefyll | Cyfathrebu am isafswm oedran cyfrifoldeb troseddol i blant: Ymateb creadigol i gyfathrebu am isafswm oedran cyfrifoldeb troseddol, a fyddai’n cynnwys rhywbeth wedi’i anelu at blant i hwyluso eu dealltwriaeth o’u beiusrwydd troseddol yn 10 oed (felly byddai angen bod yn briodol i’w hoedran, a gallai fod - ond nid ydynt yn gyfyngedig i - fideo, taflen, poster, cân, rap ac ati). 2000 o eiriau | 50% |
| Arholiad Ailsefyll | Arholiad nas gwelir ymlaen llaw: 2 Awr - ailsefyll os methwyd 2 Awr | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Dangos dealltwriaeth o ba mor gyffredin yw troseddau ieuenctid ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol.
- Disgrifio sut y mae troseddau ieuenctid, ymddygiad gwyrdroedig ac erledigaeth yn cael eu llunio’n gymdeithasol ac yn gyfreithiol.
- Dadansoddi’r rhesymau y tu ol i droseddau ieuenctid ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol trwy gyfeirio at ymchwil i agweddau seicolegol a chymdeithasegol llencyndod a’r newid i fod yn oedolyn.
- Gwerthfawrogi sut y mae trafodaethau gwleidyddol penodol, barn boblogaidd a’r cyfryngau torfol yn dylanwadu ar drafodaethau polisi’n ymwneud a throseddau ieuenctid.
- Adnabod y prif faterion, polisïau, prosesau a sefydliadau mewn perthynas a throseddu ieuenctid a’r modd y caiff troseddwyr ifanc eu trin.
- Esbonio i ba raddau y mae’r prif ddamcaniaethau a phersbectifau troseddegol wedi llwyddo i egluro’r rhesymau dros droseddau ieuenctid a sut i fynd i’r afael a’r broblem.
- Disgrifio a chloriannu polisïau ac ymyriadau o fewn y system cyfiawnder troseddol a gynlluniwyd i leihau troseddau ieuenctid a newid patrymau troseddu ieuenctid.
- Dangos ymwybyddiaeth o wahanol ddulliau a thechnegau ymchwil a ddefnyddir i archwilio natur troseddau ieuenctid a pha mor gyffredin yw troseddau o’r fath.
- Disgrifio sut y mae strwythurau swyddogol ac answyddogol, dulliau a phrosesau gorfodi’r gyfraith droseddol, polisïau cyhoeddus a systemau cosbi yn cyfrannu at yr ymgais i reoli ac atal troseddau ieuenctid ac ymddygiad gwyrdroedig.
Disgrifiad cryno
Mae pobl ifanc yn cael eu cysylltu fwyfwy ag ymddygiad troseddol a gwrth-gymdeithasol. Bydd y cwrs hwn yn edrych ar y cysylltiad hwnnw ac yn mynd i’r afael a’r materion cymdeithasol a rheoli cymhleth sy’n gysylltiedig a’r maes astudio hwn. Bydd yn adeiladu ar wybodaeth a ddysgwyd ar y cyrsiau sylfaen cynharach ynglyn a pham fod pobl yn troseddu, a’u rhoi yng nghyd-destun cyfiawnder ieuenctid a dangos sut y’u defnyddir i gefnogi mentrau polisi. Bydd yn cloriannu llawer o’r mentrau cyfiawnder ieuenctid yn ogystal a chyflwyno’r myfyrwyr i gysyniad a realiti gweithio rhyngasiantaethol.
Cynnwys
Deall plentyndod a datblygiad plant
Pryd y mae plentyn yn blentyn?
Datblygiad cyfiawnder ieuenctid
‘Troseddu ieuenctid’ – lluniad cymdeithasol?
Persbectifau datblygiadol a chwrs bywyd
Damcaniaethau am Ffactorau Risg
Persbectifau strwythurol a systemig ar droseddu ieuenctid
Trais ieuenctid a gangiau
Ymdrin a throseddu ieuenctid: atal a dargyfeirio, cyfiawnder a lles, a dulliau sy’n canolbwyntio ar risgiau
Ymdrin a throseddu ieuenctid: dulliau adferol
Ymdrin a throseddu ieuenctid: seiliedig ar hawliau, a Phlant yn Gyntaf, Troseddwyr yn Ail
Ieuenctid yn y ddalfa ac ailsefydlu effeithiol
‘Ymataliad’ mewn cyfiawnder ieuenctid
Beth yw’r dyfodol i gyfiawnder ieuenctid?
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Llafar: Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfathrebu llafar trwy gymryd rhan mewn trafodaethau gweithdy. Byddant yn dysgu i fod yn glir ac yn uniongyrchol wrth drafod. (Dim asesiad). Ysgrifenedig: Bydd disgwyl i'r myfyrwyr gyflwyno eu gwaith wedi’i eirbrosesu ac asesir eu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig ar sail eu gallu i fynegi syniadau’n effeithiol, sgiliau iaith da a dadl resymegol |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd paratoi ar gyfer yr aseiniadau asesedig yn datblygu sgiliau rheoli amser. Bydd coladu ffynonellau ar gyfer asesiadau yn datblygu sgiliau ymchwil. Bydd meithrin gwerthfawrogiad o faterion damcaniaethol cymhleth yn datblygu sgiliau meddwl beirniadol. Bydd yr holl sgiliau hyn yn cyfrannu at eu portffolio o sgiliau trosglwyddadwy |
| Datrys Problemau | Bydd cymhathu ystod o ddamcaniaethau cymhleth yn datblygu gallu myfyrwyr i ddatrys problemau, a bydd ystod o ymarferion rhyngweithiol yn y darlithoedd, y gweithdai a'r aseiniadau yn annog meddwl ochrol. |
| Gwaith Tim | Bydd gweithio mewn grwpiau bach o fewn y gweithdai yn meithrin sgiliau gweithio mewn tim. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd darlithoedd a seminarau rhyngweithiol yn annog myfyrwyr i feddwl yn feirniadol ac yn ochrol, gydag ymarferion a gynlluniwyd i ddarparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu cysyniadau haniaethol, a chaniatáu i fyfyrwyr fyfyrio ynghylch eu dysgu eu hunain. |
| Rhifedd | Bydd myfyrwyr yn adolygu casgliadau astudiaethau sy’n gysylltiedig a’r maes, ac yn mynd i’r afael a nhw. |
| Sgiliau pwnc penodol | Amherthnasol |
| Sgiliau ymchwil | Bydd sgiliau ymchwil yn cael eu datblygu trwy ddod o hyd i destunau perthnasol a’u dadansoddi’n feirniadol er mwyn llunio a chyflwyno trafodaeth wybodus ar gyfer yr asesiadau. Bydd y myfyrwyr hefyd yn datblygu sgiliau ymchwil wrth y gweithdai, fel unigolion ac fel grwp. |
| Technoleg Gwybodaeth | Bydd chwilio am ddeunydd o ffynonellau gwybodaeth electronig ar-lein a chyrchu gwybodaeth o gyfnodolion electronig yn gyfle i ymarfer sgiliau TG. Defnyddir sgiliau TG i gael gafael ar wybodaeth ar Blackboard. Bydd myfyrwyr yn cyflwyno gwaith i’w asesu wedi’i baratoi ar brosesydd geiriau. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6
Law & Criminology,Aberystwyth University, Hugh Owen Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622712 : +44 : +44 (0)1970 622021
law@aber.ac.uk: law@aber.ac.uk
