Troseddeg Feirniadol a Radical

Cod y Modiwl
CT37120
Teitl y Modiwl
Troseddeg Feirniadol a Radical
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Semester
Semester 1
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Miss Demi John
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Rhagofynion
CT12220 neu CT22220 neu CT32220 neu LC12220 neu LC22220 neu LC32220
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Miss Demi John

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Hyd Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Podlediad/Fideo: ar un Droseddeg Beirniadol 7 Munud 50%
Arholiad Semester Arholiad nas gwelir ymlaen llaw: 2 Awr 2 Awr 50%
Asesiad Ailsefyll Podlediad/Fideo: ar un Troseddeg Beirniadol 7 Munud 50%
Arholiad Ailsefyll Arholiad nas gwelir ymlaen llaw: 2 Awr 2 Awr 50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Dangos dealltwriaeth gadarn o’r prif theorïau, safbwyntiau, a chysyniadau wrth astudio troseddegau beirniadol a radical.
  2. Gwybod sut mae troseddegau beirniadol yn wahanol i ymagweddau traddodiadol a phrif ffrwd at astudio trosedd a throseddoldeb.
  3. Disgrifio sut mae theorïau beirniadol yn gweld trosedd a gwyriad fel cysyniadau a luniwyd yn gymdeithasol ac yn gyfreithiol.
  4. Egluro sut mae troseddegau beirniadol yn egluro twf a datblygiad polisïau rheoli trosedd.
  5. Adnabod y ddeinameg, prosesau a phroblemau allweddol sy’n wynebu safbwyntiau beirniadol cyfoes mewn troseddeg.
  6. Dangos ymwybyddiaeth o sut mae strwythurau a phrosesau swyddogol ac answyddogol gorfodi’r gyfraith a chosbi yn cael eu dylanwadu gan ffactorau gwleidyddol, athronyddol ac ideolegol.
  7. Dadansoddi a chloriannu i ba raddau y mae theorïau beirniadol yn herio neu’n cefnogi polisïau cyfoes a luniwyd i leihau trosedd a rheoli’r ‘broblem o droseddu’?
  8. Gwerthfawrogi’r cyfraniad y mae safbwyntiau ffeminyddol wedi’i wneud i droseddeg feirniadol.

Disgrifiad cryno

Mae Troseddeg yn bwnc sy’n rhyngweithio â strwythurau llywodraethol, gwleidyddol a grym. Mae’r modiwl hwn yn asesu i ba raddau y mae’r rhain yn effeithio ar drosedd, troseddwyr a dioddefwyr ac a ddylid ystyried eu bod yn achosi yn hytrach na datrys y broblem. Bydd felly yn ymchwilio i rôl y Wladwriaeth yn rheoli problemau trosedd, rôl y cyfryngau a safbwyntiau’r rhywiau. Bydd hefyd yn ystyried cosb a phynciau fel diddymiaeth a’r defnydd o adsefydlu fel offeryn cymathiadol.

Cynnwys

Cyflwyniad i safbwyntiau beirniadol

Theorïau gwrthdaro cynnar

Troseddeg Farcsaidd

Troseddeg radical

Realaeth y chwith

Troseddeg ddiwylliannol

Safbwyntiau ffeminyddol

Theori hiliau beirniadol a chroestoriadrwydd

Troseddeg werdd

Cyfiawnder adferol a datrys gwrthdaro

Troseddeg naratif

Troseddeg cadw’r heddwch

Safbwyntiau beirniadol a ddefnyddir ar gyfer yr isod: polisi trosedd; plismona; diwygio’r deddfau cosbi; ymyriadau troseddwyr

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cyfathrebu Anogir sgiliau cyfathrebu llafar a’u gloywi mewn seminarau a hefyd mewn darlithoedd (heb eu hasesu). Caiff sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig eu hymarfer drwy gymryd nodiadau mewn darlithoedd ac wrth astudio’n breifat ac wrth gyflwyno gwaith ysgrifenedig ffurfiol mewn aseiniadau ac arholiadau.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Gallu meddwl yn annibynnol ac yn feirniadol yn well. Sgiliau rheoli amser da wrth baratoi ar gyfer seminarau a chyflwyno gwaith yn brydlon.
Datrys Problemau Bydd myfyrwyr yn astudio ffynonellau cyfreithiol, damcaniaethol a chymdeithasegol i ganfod sut mae’r rhain yn cydadweithio i ddatrys rhai problemau cyfraith a rheoli trosedd anodd.
Gwaith Tim Yn ogystal â gwaith personol, bydd y seminarau yn cynnwys tasgau gwaith tîm a fydd yn galluogi myfyrwyr i gefnogi ei gilydd mewn dysgu rhyngweithiol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Disgwylir i fyfyrwyr ddarllen testunau dethol ac o’r deunyddiau hyn adeiladu ar eu darlithoedd a phrofi eu dysgu eu hunain, yn enwedig mewn seminarau. Bydd hyn yn eu galluogi i reoli eu dysgu yn well ac i ganfod meysydd sy’n peri problemau y byddant yn derbyn cefnogaeth i’w goresgyn.
Rhifedd Bydd deall a chloriannu data ymchwil meintiol perthnasol yn elfen o’r modiwl, o leiaf mewn perthynas â rhai theorïau.
Sgiliau ymchwil Disgwylir i fyfyrwyr ddod o hyd i ddeunyddiau ar lein ac yn y llyfrgell ar gyfer aseiniadau a pharatoi seminarau. Fe’u hanogir i ddatblygu sgiliau ymchwilio personol er mwyn perfformio’r tasgau hyn yn effeithiol.
Technoleg Gwybodaeth Bydd yn rhaid defnyddio cronfeydd data y llyfrgell a chronfeydd data electronig eraill er mwyn paratoi ar gyfer seminarau, yr aseiniadau a’r arholiad. Cyfeirir myfyrwyr at gyfeiriadau gwe defnyddiol ac fe’u hanogir i adalw data yn electronig (heb eu hasesu). Bydd myfyrwyr yn cyflwyno eu gwaith i’w asesu drwy Turnitin.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6