Beirdd a Llenorion o 1900 hyd heddiw
- Cod y Modiwl
- CY11220
- Teitl y Modiwl
- Beirdd a Llenorion o 1900 hyd heddiw
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 2
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Eurig Salisbury
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Dr Eurig Salisbury
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Traethawd: 1500 o eiriau | 40% |
| Arholiad Semester | Arholiad ysgrifenedig: 2 Awr | 60% |
| Asesiad Ailsefyll | Traethawd: 1500 o eiriau | 40% |
| Arholiad Ailsefyll | Arholiad ysgrifenedig: 2 Awr | 60% |
| Arholiad Ailsefyll | 2 Awr | % |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- dangos dealltwriaeth o themâu ac o genres llenyddiaeth fodern a chyfoes y Gymraeg (barddoniaeth a rhyddiaith);
- dangos dealltwriaeth o brif fudiadau llenyddol y cyfnod fel yr amlygant eu hunain yng ngwaith llenorion y cyfnod: Moderniaeth, Ôl-foderniaeth, Dadeni’r Gynghanedd, Ffeminyddiaeth;
- medru trafod detholiad o destunau unigol yn feirniadol, ynghyd â’u gosod yng nghyd-destun canon yr awdur, ynghyd â’u cyd-destun hanesyddol a chymdeithasol priodol.
Disgrifiad cryno
Mae’r modiwl craidd hwn yn rhoi trosolwg beirniadol i fyfyrwyr o themâu ac o genres llenyddiaeth fodern a chyfoes y Gymraeg (barddoniaeth a rhyddiaith), yn ogystal â’u galluogi i werthfawrogi detholiad o destunau unigol yn feirniadol.
Nod
Mae’r modiwl craidd hwn yn rhoi trosolwg beirniadol i fyfyrwyr o themâu ac o genres llenyddiaeth fodern a chyfoes y Gymraeg, yn ogystal â’u galluogi i werthfawrogi detholiad o destunau unigol yn feirniadol.
Cynnwys
Rhoddir sylw i ddetholiad o nofelau, straeon byrion a cherddi gan ystod o awduron.
Wythnos 1
Troad yr ugeinfed ganrif (canu telynegol)
Wythnos 2
Saunders Lewis, Monica
Wythnos 3
Barddoniaeth R. Williams Parry
Wythnos 4
Kate Roberts, Ffair Gaeaf a Storïau Eraill
Wythnos 5
Barddoniaeth T.H. Parry-Williams
Wythnos 6
T.H. Parry-Williams: Ysgrifau
Wythnos 7
Barddoniaeth Bobi Jones
Wythnos 8
Islwyn Ffowc Elis, Marwydos
Wythnos 9
Barddoniaeth Gerwyn Williams
Wythnos 10
Robin Llywelyn, Seren Wen ar Gefndir Gwyn
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Anogir myfyrwyr i fynegi eu syniadau yn eglur ac yn argyhoeddiadol yn yr aseiniadau ysgrifenedig. |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygir sgiliau hanfodol (megis delio â llif gwaith yn wythnosol, trefnu amser yn effeithiol a chyflawni ymchwil yn annibynnol) drwy gydol y modiwl. |
| Datrys Problemau | Trwy ymwneud yn feirniadol, ar lafar ac ar bapur, â chysyniadau deallusol sy’n codi o’r cyd-destun hanesyddol ac o destunau llenyddol penodol. |
| Gwaith Tim | Trwy gyfrannu at drafodaethau grŵp ynghylch y testunau a’r cysyniadau allweddol. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Trwy ymchwil annibynnol; adborth eu twtoriaid ar waith ysgrifenedig a chyfraniadau llafar; ymwneud â chymheiriaid yn ystod trafodaethau grŵp; datblygu sgiliau trefnu amser/gwaith; myfyrio ar sgiliau cyflwyno a gwaith ysgrifenedig arall. Bydd modd i fyfyrwyr wella eu gallu i ddarllen a dehongli testunau hanesyddol. |
| Rhifedd | amherthnasol |
| Sgiliau pwnc penodol | Trwy feithrin gallu myfyrwyr i ddarllen a deall testunau, a thrwy hynny ddysgu mwy am ddatblygiad yr iaith Gymraeg a nodweddion generig y testunau a astudir. |
| Sgiliau ymchwil | Trwy gyfrwng ymchwil annibynnol ar gyfer aseiniadau ysgrifenedig (traethawd) a chyfraniadau i drafodaethau grŵp. Hefyd, trwy ddefnyddio ymchwil electronig ac adnoddau electronig a llyfryddol. |
| Technoleg Gwybodaeth | At ddibenion ymchwil (aseiniad a thrafodaethau); prosesu geiriau. Defnyddio ymchwil electronig ac adnoddau llyfryddol; cael mynediad i adnoddau’r modiwl ar y BwrddDu |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4
Welsh and Celtic Studies,Aberystwyth University, Parry-Williams Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622137 : +44 : +44 (0)1970 622021
cymraeg@aber.ac.uk: cymraeg@aber.ac.uk
