Cyflwyniad i Gymraeg Proffesiynol

Cod y Modiwl
CY12700
Teitl y Modiwl
Cyflwyniad i Gymraeg Proffesiynol
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Semester
Semester 1 Dysgwyd dros 2 semester
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Dr Rhianedd Jewell
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Rhagofynion

Fel arfer 'B', Safon A Cymraeg (Iaith Gyntaf)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dr Bleddyn Huws
Dr Eurig Salisbury
Dr Cathryn Charnell-White
Professor Mererid Hopwood
Dr Rhianedd Jewell

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Cyfweliad i 'Y Ddraig': Trefnu, cynnal, recordio, trawsysgrifo a golygu cyfweliad gyda ffigwr llenyddol neu ddiwylliannol ar gyfer 'Y Ddraig'. 1000 o eiriau 30%
Asesiad Semester Cyfraniad llafar: 2 Awr Asesu parhaus o gyfraniad llafar i'r Noson Llen a Chan (Semester 1) a'r ffug-gyfweliad (Semester 2). 10%
Asesiad Semester Portffolio o dasgau: 4 tasg ysgrifenedig cyfwerth.1. crynodeb (100 gair)2. datganiad i'r wasg (350 gair)3. cofnodion (750 gair)4. adroddiad (800 gair) 2000 o eiriau 60%
Asesiad Ailsefyll Cyfraniad llafar: Sylwebaeth hunanarfarnol o berfformiad ar y modiwl ar ffurf recordiad llafar (MP3). 10 Minutes 10%
Asesiad Ailsefyll Cyfweliad i 'Y Ddraig': Trefnu, cynnal, recordio, trawsysgrifo a golygu cyfweliad gyda ffigwr llenyddol neu ddiwylliannol ar gyfer 'Y Ddraig'. 1000 o eiriau 30%
Asesiad Ailsefyll Portffolio o dasgau: 4 tasg ysgrifenedig cyfwerth.1. crynodeb (100 gair)2. datganiad i'r wasg (350 gair)3. cofnodion (750 gair)4. adroddiad (800 gair) 2000 o eiriau 60%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Dangos dealltwriaeth o sut mae'r Gymraeg yn cael ei defnyddio yn y byd cyfoes.
  2. Dangos sgiliau llafar proffesiynol priodol.
  3. Dangos sgiliau ysgrifennu proffesiynol priodol.

Disgrifiad cryno

Astudiaeth o ddefnydd a chyweiriau'r iaith gyfoes mewn amgylchiadau amrywiol, e.e. ysgrifennu academaidd, newyddiaduraeth, cyfieithu ar y pryd, addasu a chyfieithu, cadw cofnodion ffurfiol, ysgrifennu adroddiadau, ysgrifennu datganiadau i'r wasg.

Nod

Mae'r modiwl hwn yn paratoi myfyrwyr rhugl yn y Gymraeg ar gyfer gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg ar lefel broffesiynol yn y Brifysgol ac yn y gweithle. Anelir at fyfyrwyr sydd am ddatblygu eu sgiliau iaith proffesiynol.

Cynnwys

Trafodir y pynciau canlynol:
1 Y Gymraeg yn y Cynulliad
2 Gweinyddu drwy'r Gymraeg; cymryd cofnodion
3 Llunio adroddiadau, ysgrifennu llythyron ffurfiol, a gwneud precis
4 Llunio c.v. a chynnal cyfweliadau
5 Cyfieithu ar y pryd, chyfieithu ar bapur a chyfeithu ar y cyfrifiadur
6 Y Gymraeg mewn newyddiaduraeth; ysgrifennu datganiadau i'r wasg
7 Y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru
8 Cyfieithu ac addasu deunyddiau ysgrifenedig o iaith arall
9 Golygu a pharatoi ar gyfer y wasg; cysodi a chywiro proflenni
10 Sgiliau llafar proffesiynol

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cyfathrebu Drwy gyfrannu ar lafar mewn seminarau a dosbarthiadau a thrwy sefyll profion.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Drwy ddatblygu ymwybyddiaeth o fedrau personol ac ymwybyddiaeth o ofynion byd gwaith
Datrys Problemau Drwy werthuso'n feirniadol broblemau a osodir yn ystod y cwrs.
Gwaith Tim Drwy gyfrannu'n effeithiol i weithgareddau grw^p
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Drwy werthuso adborth gan ddarlithwyr a thiwtoriaid
Sgiliau ymchwil Drwy ddod o hyd i wybodaeth berthnasol yn y llyfyrgell, ar y We, ac yn y cyfryngau perthnasol.
Technoleg Gwybodaeth Drwy ddefnyddio pecynnau meddalwedd berthnasol megis Cysill, Cysgair a Google Translate, ac offer cyfieithu.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4