Sgiliau Astudio Iaith a Llên
- Cod y Modiwl
- CY13120
- Teitl y Modiwl
- Sgiliau Astudio Iaith a Llên
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 1
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Cathryn Charnell-White
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Dr Bleddyn Huws
- Dr Cathryn Charnell-White
- Professor Mererid Hopwood
- Dr Llewelyn Hopwood
- Dr Rhianedd Jewell
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Pecyn o dasgau wythnosol (4 eitem): 2000 o eiriau | 60% |
| Asesiad Semester | Traethawd ffurfiannol wedi ei gyfeirio’n llawn.: 1000 o eiriau | 40% |
| Asesiad Ailsefyll | Traethawd ffurfiannol wedi ei gyfeirio’n llawn.: 1000 o eiriau | 40% |
| Asesiad Ailsefyll | Pecyn: tasgau (4 eitem): 2000 o eiriau | 60% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Medru defnyddio Llyfrgell y Brifysgol a Llyfrgell Genedlaethol a’u adnoddau amrywiol, gan gynnwys adnoddau electronig, yn effeithiol.
- Paratoi, cynllunio a chyflwyno aseiniadau ysgrifenedig a thraethodau yn amserol ac yn effeithiol, yn unol â rheoliadau’r brifysgol.
- Cyflwyno dadl resymegol a herio rhagdybiaethau mewn modd effeithiol a theg, ar lafar ac ar bapur.
- Cyflwyno gwaith ysgrifenedig sy’n ufuddhau i gonfensiynau academaidd yr Adran neu’r Athrofa mewn perthynas â throednodi a darparu llyfryddiaeth, ac ati.
- Dangos dealltwriaeth o gywair academaidd priodol a chywirdeb ieithyddol.
Disgrifiad cryno
Mae’r modiwl hwn yn rhan o’r broses o gynefino â bywyd academaidd yn y Brifysgol ac o astudio iaith a llên yn benodol. Bydd y modiwl yn cyflwyno sgiliau trosglwyddadwy i fyfyrwyr ac yn eu paratoi ar gyfer llunio aseiniadau ysgrifenedig, gan atgyfnerthu eu hyder wrth iddynt feistroli’r cywair academaidd. Meithrinnir nifer o sgiliau angenrheidiol eraill hefyd: rheoli amser, meddwl yn feirniadol, ymagweddu’n hunanfeirniadol, ystyried materion gyrfaol ac ati.
Nod
Rhesymeg y modiwl hwn yw bod angen modiwl ar sgiliau astudio pwnc-benodol a chefnogaeth i ysgrifennu’n academaidd ar fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf; a hynny er mwyn hwyluso’r broses gynefino, er mwyn eu paratoi ar gyfer gwaith ysgrifenedig yn ystod eu cyfnod yn y Brifysgol, ac er mwyn atgyfnerthu eu hyder wrth feistroli’r cywair academaidd wrth ysgrifennu.
Cynnwys
1. Cynefino; rheoli amser a chymryd nodiadau mewn darlithiau. Defnyddio adnoddau dysgu: BwrddDu, rhestrau darllen Talis Aspire, adnoddau’r Porth (CCC).
2. Llyfrgell Hugh Owen 1: adnabod a defnyddio casgliadau’r llyfrgell. (Sesiwn gyda’r llyfrgellydd pwnc)
3. Llyfrgell Hugh Owen 2: chwilio electronig. (Sesiwn gyda’r llyfrgellydd pwnc mewn ystafell gyfrifiaduron).
4. Llyfrgell Genedlaethol Cymru: aelodaeth, cynllun gwirfoddoli LlGC, y casgliadau a’r adnoddau electronig.
5. Hunanofal ac arferion da ar gyfer astudio yn y brifysgol.
6. Paratoi a chynllunio aseiniadau ysgrifenedig a thraethodau; cyflwyno ac adeiladu dadl; defnyddio meini prawf.
7. Llên-ladrad ac ymddygiad annheg.
8. Cyfeirio a throednodi; llyfryddiaethau.
9. Golygu eich gwaith; cyweiriau iaith a chyflwyniad i nodweddion Cymraeg academaidd
10. (parhad o sesiwn 9…)
11. Cyflwyniadau llafar ac arholiadau llafar
12. Meddwl a darllen yn feirniadol 1
13. Meddwl a darllen yn feirniadol 2
14. Ymagweddu ac ysgrifennu'n hunanarfarnol
15. Astudio Llenyddiaeth: Darllenydd – Awdur – Testun – Amgylchiadau (DATA)
16. DATA
17. DATA
18. Sesiwn gyda Gwasanaethau Gyrfaoedd PAU
19. Ysgrifennu adolygiad neu werthfawrogiad (gwales.com)
20. Arholiadau: adolygu a chynllunio traethodau mewn arholiad.
Cynhelir 20 gweithdy 1 awr. Cyflwynir y pynciau, uchod, gan ddarlithwyr a staff eraill y Brifysgol a gosodir ymarferion a thasgau i fyfyrwyr er mwyn iddynt ymarfer a datblygu’r sgiliau perthnasol.
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Mae cyfathrebu yn effeithiol, yn gywir ac yn briodol (yn eu geiriau eu hunain) yn hanfodol i’r gweithdai a gynhelir ar y modiwl hwn. |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Trosglwyddir sgiliau ymarferol a fydd yn sylfaen ddefnyddiol i fyfyrwyr yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol ac yn y gweithle. |
| Datrys Problemau | Ni fydd datrys problemau, fel y cyfryw, yn rhan o’r modiwl hwn. Er, bydd disgwyl i fyfyrwyr lunio strategaeth ar gyfer rheoli amser yn effeithiol a threfnu deunydd. |
| Gwaith Tim | Cyd-drafod a mynegi barn mewn gweithdai wythnosol ac mewn ymarferion, e.e. ymarfer llên-ladrad |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Cynhyrchu tasgau ysgrifenedig effeithiol, a gwella cywirdeb ieithyddol. |
| Rhifedd | amherthnasol |
| Sgiliau pwnc penodol | Meithrinir sgiliau ymarferol ac ieithyddol trosglwyddadwy sy’n benodol i’r dyniaethau |
| Sgiliau ymchwil | Trwy’r cyflwyniad i gyweiriau’r iaith a nodweddion Cymraeg academaidd; trwy’r cyflwyniad i Lyfrgell Hugh Owen a Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’u hadnoddau. |
| Technoleg Gwybodaeth | Prosesu geiriau, cyrchu a defnyddio adnoddau electronig; defnyddio’r BwrddDu |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4
Welsh and Celtic Studies,Aberystwyth University, Parry-Williams Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622137 : +44 : +44 (0)1970 622021
cymraeg@aber.ac.uk: cymraeg@aber.ac.uk
