Gloywi Iaith
- Cod y Modiwl
- CY20100
- Teitl y Modiwl
- Gloywi Iaith
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 1 Dysgwyd dros 2 semester
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Bleddyn Huws
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Dr Bleddyn Huws
- Dr Eurig Salisbury
- Professor Mererid Hopwood
- Dr Llewelyn Hopwood
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Prawf llafar: 10 Munud | 15% |
| Asesiad Semester | Ymarferion Wythnosol (8 Semester 1; 8 Semester 2): 1500 o eiriau | 45% |
| Arholiad Semester | Arholiad: 2 Awr 2 Awr | 40% |
| Asesiad Ailsefyll | Tasg Ysgrifenedig Estynedig: 1500 o eiriau | 45% |
| Asesiad Ailsefyll | Prawf Llafar: 10 Munud | 15% |
| Arholiad Ailsefyll | Arholiad Atodol: 2 Awr 2 Awr | 40% |
Canlyniadau Dysgu
- O fanteisio i'r eithaf ar y modiwl hwn byddwch yn meddu ar ymwybyddiaeth o deithi'r Gymraeg ac yn medru ei defnyddio'n raenus ac yn gywir yn ysgrifenedig ac ar lafar.
- Bydd myfyrwyr a fydd yn rhagori yn medru arddangos meistrolaeth o nodweddion megis orgraff yr iaith, ffurfiau ac amserau berfau, cenedl enwau, y treigladau, llunio cymalau ac adnabod gwahanol fathau o frawddegau.
Disgrifiad cryno
Modiwl yw hwn a fwriadwyd i feithrin gallu myfyrwyr i ysgrifennu'r Gymraeg yn safonol a chywir ac i'w llefaru'n raenus. Fe'i dysgir ar sail grwpiau dan ofal tiwtor, a gosodir tasg ysgrifenedig yn wythnosol. Yn ogystal â thrafod cynhyrchion yr wythnos flaenorol, bydd elfen o hyfforddiant ieithyddol a fydd yn annibynnol ar hynny yn wedd ar bob dosbarth hefyd. Bydd prif bwyslais y dosbarthiadau ar yr iaith ysgrifenedig, ond rhoddir peth sylw hefyd i feithrin ymwybyddiaeth o iaith raenus fel paratoad ar gyfer y Prawf Llafar a fydd yn rhan o asesiad y modiwl.
Cynnwys
Dysgir y modiwl ar ffurf grŵp neu weithdy iaith wythnosol o dan ofal tiwtor. Trafodir y gwallau cyffredin sy’n ymddangos yng ngwaith y myfyrwyr o wythnos i wythnos, a chyfeirir y myfyrwyr at yr adran berthnasol yn y Gramadeg. Gosodir ymarferion iaith yn y dosbarth o bryd i’w gilydd er mwyn hyfforddi dan gyfarwyddyd.
Bydd y pynciau gramadegol penodol hyn yn cael eu trafod:
Orgraff
Cenedl Enwau
Treigladau
Cyweiriau’r iaith
Gwahaniaethu rhwng defnydd safonol ac ansafonol o’r iaith
Cystrawennau
Cymalau
Priod-ddulliau
Diarhebion Cymraeg
Cyfieithu
Yn ogystal â hyn, cynhelir gweithdy a fydd yn paratoi’r myfyrwyr ar gyfer sefyll y Prawf Llafar.
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Addasrwydd a gwydnwch | Bydd mireinio eu Cymraeg ysgrifenedig a llafar yn fanteisiol i fyfyrwyr yn ystod eu gyrfa yn y brifysgol, ac wrth fynd i’r gweithle proffesiynol Cymraeg ei iaith. |
| Cydlynu ag erail | Bydd cyfle i gydweithio wrth wneud rhai ymarferion yn y dosbarth. |
| Cyfathrebu proffesiynol | Bydd disgwyl i’r myfyrwyr allu cyfathrebu yn gywir ac yn effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig. |
| Datrys Problemau Creadigol | Bydd myfyrwyr yn gallu cywiro gwallau gramadeg a’u hesbonio. |
| Gallu digidol | Bydd cyfle i ddefnyddio rhai adnoddau electronig perthnasol. |
| Meddwl beirniadol a dadansoddol | Bydd gofyn i’r myfyrwyr allu chwilio am esboniadau gramadegol a defnyddio adnodd electronig megis Geiriadur Prifysgol Cymru Ar-lein |
| Myfyrdod | Bydd disgwyl i’r myfyrwyr allu gweld pa wallau rheolaidd y maent yn eu gwneud a sut i’w cywiro |
| Sgiliau Pwnc-benodol | Trin y Gymraeg yn unol â rheolau gramadegol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5
Welsh and Celtic Studies,Aberystwyth University, Parry-Williams Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622137 : +44 : +44 (0)1970 622021
cymraeg@aber.ac.uk: cymraeg@aber.ac.uk
