Y Cynfeirdd: o Taliesin i Heledd
- Cod y Modiwl
- CY23120
- Teitl y Modiwl
- Y Cynfeirdd: o Taliesin i Heledd
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 2
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Simon Rodway
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Hyd Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|---|
| Asesiad Semester | Traethawd 3000 Gair: | 40% | |
| Arholiad Semester | Arholiad: | 2 Awr | 60% |
| Asesiad Ailsefyll | Traethawd 3000 o eiriau: | 40% | |
| Arholiad Ailsefyll | Arholiad: | 2 Awr | 60% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Adnabod a thrafod y prif dueddiadau a genres yn y canu Cymraeg yn y cyfnod dan sylw.
- Medru gosod y tesunau a’r beirdd a astudir yn eu cyd-destun hanesyddol a llenyddol.
- Pwyso a mesur testunau yn feirniadol, gan roi sylw i ieithwedd, arddull, themâu a genre.
- Medru darllen a deall y testunau Hen Gymraeg a astudir.
Disgrifiad cryno
Dyma gwrs sy’n trafod amrywiaeth eang o gerddi a gyfansoddwyd rhwng y 7g. a c.1100 gan feirdd a adwaenwn heddiw fel y Cynfeirdd Diweddar. Ar ôl ystyried cyd-destun hanesyddol a diwylliannol y cyfnod byddwn yn astudio (yn y gwreiddiol) y cylchoedd englynol a gysylltir â’r cymeriadau Urien, Llywarch a Heledd. Ond byddwn yn edrych hefyd ar weithiau llai adnabyddus y cyfnod. Er enghraifft, rhoddir sylw i ganu crefyddol ac ysgrythurol ac edrychir hefyd ar ddarnau o ganu natur a diarhebol, canu mytholegol a chanu proffwydol.
Cynnwys
1. Rhagarweiniad: dosbarthiad o’r deunydd; llawysgrifau
2. Cyflwyniad i’r cyd-destun hanesyddol a diwylliannol
3. Cyflwyniad i’r cylchoedd englynol
4. Cylchoedd Urien, Llywarch a Heledd (detholiad)
5. Cyflwyniad i’r canu crefyddol
6. Canu crefyddol — testunau
7. Cyflwyniad i gerddi chwedlonol (Taliesin, Myrddin, Arthur)
8. Cerddi am Taliesin chwedlonol — testunau
9. Cyflwyniad i’r canu darogan
10. Armes Prydein — testun (detholiad)
Cynhelir 20 darlith 1 awr. Cyflwynir y pynciau, uchod, gan ddarlithwyr a gosodir ymarferion a thasgau i fyfyrwyr er mwyn iddynt ymarfer a datblygu’r sgiliau perthnasol.
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Anogir myfyrwyr i fynegi eu syniadau yn glir yn yr aseiniadau ysgrifenedig. Bydd darlithiau yn cynnwys elfen gref o drafod ond nid asesir trafodaethau grŵp yn ffurfiol. |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygir sgiliau hanfodol (megis delio â llif gwaith yn wythnosol, trefnu amser yn effeithlon a chyflawni ymchwil yn annibynnol) drwy gydol y modiwl. |
| Datrys Problemau | Trwy ymwneud yn feirniadol, ar lafar ac ar bapur, â chysyniadau deallusol sy’n codi o’r cyd-destun hanesyddol ac o destunau penodol. |
| Gwaith Tim | Trwy gyfrannu at drafodaethau grŵp ynghylch y testunau. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Trwy ymchwil annibynnol; adborth eu tiwtoriaid ar waith ysgrifenedig a chyfraniadau llafar; ymwneud â chymheiriaid yn ystod trafodaethau grŵp; datblygu sgiliau trefnu amser/gwaith; myfyrio ar sgiliau cyflwyno a gwaith ysgrifendig arall. Bydd modd i fyfyrwyr wella eu gallu i ddarllen a dehongli testunau hanesyddol. |
| Rhifedd | Amherthnasol. |
| Sgiliau pwnc penodol | Trwy feithrin gallu myfyrwyr i ddarllen a deall testunau mewn Cymraeg Canol a Chymraeg Modern Cynnar, a thrwy hynny ddysgu mwy am ddatblygiad yr iaith Gymraeg. |
| Sgiliau ymchwil | Trwy gyfrwng ymchwil annibynnol ar gyfer asesiadau ysgrifenedig (traethawd) a chyfraniadau i drafodaethau grŵp. Hefyd, trwy ddefnyddio ymchwil electronig ac adnoddau llyfryddol. |
| Technoleg Gwybodaeth | At ddibenion ymchwil (aseiniadau a chyflwyniadau); prosesu geiriau. Defnyddio ymchwil electronig ac adnoddau llyfryddol; cael mynediad i adnoddau’r modiwl ar y BwrddDu. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5
Welsh and Celtic Studies,Aberystwyth University, Parry-Williams Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622137 : +44 : +44 (0)1970 622021
cymraeg@aber.ac.uk: cymraeg@aber.ac.uk
