Y Gymraeg yn y Gweithle

Cod y Modiwl
CY25600
Teitl y Modiwl
Y Gymraeg yn y Gweithle
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Semester
Semester 1 Dysgwyd dros 2 semester
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Dr Rhianedd Jewell
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Rhagofynion
CY12720
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
DG31020
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dr Bleddyn Huws
Dr Rhianedd Jewell
Dr Llewelyn Hopwood

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Portffolio o dasgau: 4000 o eiriau 100%
Asesiad Ailsefyll Portffolio o dasgau: 4000 o eiriau 100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. dangos ymwybyddiaeth o’r defnydd o’r iaith Gymraeg yng ngweinyddiaeth rhai o sefydliadau cyhoeddus a phreifat Cymru.
  2. dangos dealltwriaeth o brif ofynion Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, gyda golwg ar weithredu Cynllun Iaith y Gymraeg.
  3. Myfyrio ar y gwahanol gyd-destunau gweinyddol lle defnyddir yr iaith yn y gymdeithas.
  4. Cloriannu’r defnydd o’r Gymraeg mewn sefydliadau gan sylwi ar gryfderau a gwendidau, a gwahaniaethau rhwng arferion da a gwael.
  5. Meithrin agwedd hyderus wrth weinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg gan droi llaw at lunio dogfennau, eu golygu a’u cyfieithu.
  6. bod yn ymwybodol o’r prif gynorthwyon printiedig ac electronig a ddefnyddir gan sefydliadau sy’n gweinyddi’ bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg.
  7. cynhyrchu portffolio proffesiynol ei ddiwyg a’i gynnwys ar sail eu cyfnod profiad gwaith.
  8. trafod yn hyderus a graenus ganlyniadau eu hymchwiliadau yn ysgrifenedig.
  9. Gweithredu fel unigolyn cyfrifol ac fel aelod llawn o dîm yn y dosbarth ac yn y gweithle.

Disgrifiad cryno

Mae’r modiwl yn ychwanegiad gwerthfawr at ddarpariaeth academaidd a galwedigaethol yr Adran ac yn fodd i ganolbwyntio meddyliau’r myfyrwyr ar y defnydd cynyddol a wneir o’r Gymraeg yn y byd gwaith yng Nghymru. Bydd yn bont effeithiol rhwng y ddarlithfa a’r byd tu allan, ac yn rhoi i’r myfyrwyr brofiad ymarferol o weld yr iaith ar waith, gyda golwg ar eu cyfeirio at ymgymryd â swyddi gweinyddol ar ôl graddio.

Nod

Mae’r modiwl hwn yn creiddiol i fyfyrwyr Q5P0 ar Lefel 2 ac yn rhan o’r arlwy ar y radd Cymraeg Proffesiynol. Maer modiwl yn gosod sylfaen alwedigaethol gref i Rhan 2 Q5P0 (Cymraeg Proffesiynol) ac yn bwysig i agenda cyflogadwyedd yr Adran.

Cynnwys

Gogwydd galwedigaethol sydd i’r modiwl hwn. Gwelir yn gynyddol yr angen am baratoi’r myfyrwyr ar gyfer gwasanaethu’r gymdeithas ygn Nghymru, lle y mae galw mawr am raddedigion a all drin y Gymraeg yn hyderus mewn pob math o sefydliadau a busnesau. Bydd y cwrs yn cyflwyno’r myfyrwyr i anghenion cyflogwyr yn y sector preifat a chyhoeddus yn sgil gofynion Deddf yr Iaith 1993, gan ganolbwyntio’n bennaf ar weinyddiaeth.
Edrychir yn benodol ar y defnydd o’r iaith yng ngweinyddiaeth rhai o sefydliadau preifat a chyhoeddus Cymru, a bydd lleoli’r myfyrwyr ar brofiad gwaith yn rhai ohonynt yn eu galluogi i ddysgu’n uniongyrchol sut y defnyddir y Gymraeg yn y gweithle.
Semester 1
1. Cyflwyniad i’r modiwl
2. Llunio CV
3. Y Gymraeg yn ein sefydliadau 1
4. Y Gymraeg yn ein sefydliadau 2
5. Cyfieithu a Deddfwriaeth Iaith Gymraeg
6. Gweinyddu trwy’r Gymraeg
7. Cyfathrebu yn y Gweithle : dibenion a chynulleidfaoedd
8. Iaith yn y gweithle
9. Gweithredu Cynllun Iaith Gymraeg 1
10. Gweithredu Cynllun Iaith Gymraeg 2.

Semester 2
1. Golygu a phrawf-ddarllen testun print.
2. Dysgu Cymraeg i Oedolion.
3. Sut i wneud cyflwyniad llafar.
4. Dylunio gwefan lwyddiannus
5. Cyflwyniadau llafar myfyrwyr 1.
6. Cyflwyniadau llafar myfyrwyr 2.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cyfathrebu Cyfathrebu’n broffesiynol ac mewn cywair addas ar lafar ar yn ysgrifenedig, yn y gwahanol leoliadau gwaith ac yn y portfolio.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae’r modiwl yn ei gynnig ei hun ar gyfer myfyrwyr sydd am ddatblygu gyrfa ym maes gweinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg yn y sector cyhoeddus a phreifat. Disgwylir i bob myfyriwr lunio CV a’i gynnwys yn y portffolio.
Datrys Problemau Elfen hanfodol o’r gwaith o baratoi ar gyfer y cyfnod o brofiad gwaith a hefyd o’r dyletswyddau a cgyflawnir yn ystod y cyfnod hwnnw. Bydd gofyn datrys problemau trwy gyd-drafod a rhannu profiadau.
Gwaith Tim Bydd gofyn ymddwyn fel aelod o dîm wrth weithio â chydweithwyr yn y gweithle.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae’r portffolio a asesir yn gyfle i fyfyrwyr fyfyrio’n feirniadol ar berfformiad unigol yn ystod ac ar ôl y cyfnod o brofiad gwaith.
Rhifedd amherthnasol
Sgiliau pwnc penodol Mae’r modiwl yn ymwneud yn uniongyrchol â sgiliau gweinyddu trosglwyddadwy.
Sgiliau ymchwil Chwilio am ffynonellau printiedig ac ymchwilio i’r defnydd o’r Gymraeg mewn gweinyddiaeth, gan ymgyfarwyddo â ffynonellau gwybodaeth electronig.
Technoleg Gwybodaeth Ymgyfarwyddo â safleoedd perthnasol ar y we a’r meddalwedd a ddefnyddir gan weinyddwyr CYmraeg eu hiaith. Prosesu geiriau wrth baratoi’r portffolio.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5