Gloywi Iaith yr Ail Iaith

Cod y Modiwl
CY31100
Teitl y Modiwl
Gloywi Iaith yr Ail Iaith
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Semester
Semester 1 Dysgwyd dros 2 semester
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Dr Bleddyn Huws
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
CY20120
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dr Bleddyn Huws
Dr Eurig Salisbury
Professor Mererid Hopwood
Dr Llewelyn Hopwood

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Tasgau ysgrifenedig (8 Semester 1; 8 Semester 2): 1500 o eiriau 35%
Asesiad Semester Prawf lafar: Cyflwyniad llafar ar destun gosodedig gan ddefnyddio Pwerbwynt 15 Munud 30%
Arholiad Semester Arholiad: 2 Awr 2 Awr 35%
Asesiad Ailsefyll Tasg Ysgrifenedig Estynedig: 1500 o eiriau 35%
Asesiad Ailsefyll Prawf Llafar: Cyflwyniad llafar ar destun gosodedig gan ddefnyddio Pwerbwynt. 15 Munud 30%
Arholiad Ailsefyll Arholiad: 2 Awr 2 Awr 35%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. ysgrifennu Cymraeg safonol a chywir.
  2. ymgydnabod â rheolau gramadeg y Gymraeg.
  3. allu esbonio gwallau iaith yn hyderus.
  4. allu treiglo’n gywir.
  5. allu defnyddio patrymau cystrawennol amrywiol.
  6. adnabod mathau gwahanol o gymalau a’u defnyddio’n gywir mewn brawddegau.
  7. defnyddio priod-ddulliau Cymraeg yn eu gwaith ysgrifenedig eu hunain.
  8. wybod ystyr nifer o ddiarhebion Cymraeg a’u defnyddio’n naturiol mewn sgwrs ac ar bapur.
  9. ymgydnabod â chywirdeb Cymraeg llafar a ffurfiol.
  10. wybod sut i ddefnyddio cyweiriau’r iaith yn ysgrifenedig ac ar lafar.

Disgrifiad cryno

Modiwl yw hwn a fwriadwyd i feithrin gallu myfyrwyr i ysgrifennu'r Gymraeg yn safonol a chywir ac i'w llefaru'n raenus. Fe'i dysgir ar sail grwpiau dan ofal tiwtor, a gosodir tasg ysgrifenedig yn wythnosol. Yn ogystal â thrafod cynhyrchion yr wythnos flaenorol, bydd elfen o hyfforddiant ieithyddol a fydd yn annibynnol ar hynny yn wedd ar bob dosbarth hefyd. Bydd prif bwyslais y dosbarthiadau ar yr iaith ysgrifenedig, ond rhoddir peth sylw hefyd i feithrin ymwybyddiaeth o iaith raenus fel paratoad ar gyfer y Prawf Llafar a fydd yn rhan o asesiad y modiwl.

Nod

Darpara’r modiwl hwn sylfaen gref ar gyfer defnyddio’r iaith ysgrifenedig yn gywir i fyfyrwyr y mae’r Gymraeg yn ail iaith iddynt. Gan eu bod wedi derbyn cyfarwyddyd a pheth hyfforddiant gramadegol ar Lefel 1 a 2, bydd y modiwl hwn yn fwy ymestynnol am ei fod yn rhoi cyfle i’r myfyrwyr ymarfer y rhuglder a gafodd ei feithrin hyd at y flwyddyn olaf. Bydd modd iddynt ymarfer yr hyn a ddysgwyd o’r blaen drwy lunio darnau mewn Cymraeg llenyddol a ffurfiol.

Cynnwys

Dysgir y modiwl ar ffurf grŵp neu weithdy iaith wythnosol o dan ofal tiwtor. Trafodir y gwallau cyffredin sy’n ymddangos yng ngwaith y myfyrwyr o wythnos i wythnos, a chyfeirir y myfyrwyr at yr adran berthnasol yn y Gramadeg. Gosodir ymarferion iaith yn y dosbarth o bryd i’w gilydd er mwyn hyfforddi dan gyfarwyddyd.
Bydd y pynciau gramadegol penodol hyn yn cael eu trafod:
1. Orgraff
2. Cenedl Enwau
3. Treigladau
4. Cyweiriau’r iaith
5. Gwahaniaethu rhwng defnydd safonol ac ansafonol o’r iaith
6. Cystrawennau
7. Cymalau
8. Priod-ddulliau
9. Diarhebion Cymraeg
10. Cyfieithu
Yn ogystal â hyn, cynhelir gweithdy a fydd yn paratoi’r myfyrwyr ar gyfer sefyll y Prawf Llafar.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cyfathrebu Bydd disgwyl i’r myfyrwyr allu cyfathrebu yn gywir ac yn effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd mireinio eu Cymraeg ysgrifenedig a llafar yn fanteisiol i fyfyrwyr yn ystod eu gyrfa yn y brifysgol, ac wrth fynd i’r gweithle proffesiynol Cymraeg ei iaith.
Datrys Problemau Bydd myfyrwyr yn gallu cywiro gwallau gramadeg a’u hesbonio.
Gwaith Tim Bydd cyfle i gydweithio wrth wneud rhai ymarferion yn y dosbarth.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd disgwyl i’r myfyrwyr allu gweld pa wallau rheolaidd y maent yn eu gwneud a sut i’w cywiro.
Rhifedd Amherthnasol
Sgiliau pwnc penodol Trin y Gymraeg yn unol â rheolau gramadegol.
Sgiliau ymchwil Bydd gofyn i’r myfyrwyr allu chwilio am esboniadau gramadegol a defnyddio adnodd electronig megis Geiriadur Prifysgol Cymru Ar-lein.
Technoleg Gwybodaeth Bydd cyfle i ddefnyddio rhai adnoddau electronig perthnasol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6