Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
DA11220
Teitl y Modiwl
Methodoleg Maes Amgylcheddol
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Sgript ar gyfer cyflwyniad  10%
Asesiad Ailsefyll Poster academaidd  A0  45%
Asesiad Ailsefyll Adroddiad 1  1500 gair  45%
Asesiad Semester Cyflwyniad llafar grwp  (10 munud)  10%
Asesiad Semester Adroddiad 1  1500 gair  45%
Asesiad Semester Poster academaidd  A0  45%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Trafod cyfaddasrwydd yr amryw dduliau a thechnegau sy'n allweddol i waith maes daearyddiaeth, yr amgylchedd a defnydd tir.

2. Defnyddio technegau penodol er mwyn casglu gwybodaeth yn y maes.

3. Dadansoddi a chyflwyno canlyniadau gwaith maes.

4. Deall, dehongli a gwerthuso data maes.

5. Cyflwyno canlyniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn cyflwyno egwyddorion ac arferion technegau allweddol a ddefnyddir mewn gwaith maes yn nisgyblaethau daearyddiaeth, astudiaethau amgylcheddol ac astudiaethau defnydd tir. Mae'n cynnig profiad o ddefnyddio amryw ddulliau a thechnegau gwaith maes er mwyn casglu a dadansoddi gwybodaeth mewn perthynas a daearyddiaeth, yr amgylchedd a defnydd tir.

Cynnwys

Dysgir y modiwl ar y cyd â staff o Brifysgol Bangor a Phrifysgol Abertawe. Dysgir myfyrwyr o'r ddau sefydliad hyn hefyd ar y modiwl. Dysgir y modiwl ar un penwythnos yn Aberystwyth, gan gynnwys amrywiaeth o themau o ddaearyddiaeth ffisegol a daearyddiaeth ddynol.

Amcan y modiwl hwn yw:
1.Cyflwyno egwyddorion technegau sy'n berthnasol i astudiaethau maes ar gyfer daearyddiaeth, astudiaethau'r amgylchedd a defnydd tir.
2. Cynnig profiad o ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau a thechnegau i gasglu gwybodaeth ddaearyddol, amgylcheddol ac o systemau defnydd tir.
3. Rhoi hyfforddiant mewn dadansoddi a chrynhoi canlyniadau o astudiaethau maes.
4. Meithrin dealltwriaeth o arwyddocâd canlyniadau o astudiaethau maes yng nghyd-destun systemau, amgylcheddau a chymunedau (ecolegol a dynol)
5. Rhoi profiad o gyflwyno data ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datblygir sgiliau cyfathrebu data maes yn ysgrifenedig ac ar lafar drwy drafodaethau grwp, gwaith cwrs a chyflwyniad llafar.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae’r themau a drafodir yn berthnasol i broblemau rheoli’r amgylchedd, ac felly bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau perthnasol iawn i gyflogaeth. Bydd gofyn i fyfyrwyr adlewyrchu ar lwyddiant y technegau gwaith maes a ddefnyddiwyd a’u perfformiad fel grwpiau gwaith maes.
Datrys Problemau Wedi'i ddatblygu drwy gyflawni'r gwaith maes.
Gwaith Tim Bydd gofyn i fyfyrwyr weithio’n llwyddiannus fel rhan o grwp er mwyn casglu, dadansoddi a chyflwyno data.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd gofyn i fyfyrwyr addasu er mwyn gweithio fel rhan o grwp, weithiau mewn lleoliadau a/neu dywydd heriol, gan ddatblygu gwytnwch.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Bydd sgiliau maes a dadansoddi data gan ddefnyddio meddalwedd mapio ac ystadegol yn angenrheidiol.
Sgiliau ymchwil Bydd gofyn i fyfyrwyr werthuso dulliau maes yn gritigol.
Technoleg Gwybodaeth Bydd gofyn i fyfyrwyr ddefnyddio amrywiaeth o fathau o feddalwedd cyfrifiadurol er mwyn casglu, dadansoddi a chyflwyno data.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4