Lleoli Gwleidyddiaeth
- Cod y Modiwl
- DA23020
- Teitl y Modiwl
- Lleoli Gwleidyddiaeth
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 2
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Rhys Dafydd Jones
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
GS23020
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Dr Hywel Griffiths
- Professor Rhys Jones
- Rhys Dafydd Jones
- Dr Cerys Jones
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Asesiad diwedd modiwl: | 50% |
| Asesiad Semester | Traethawd: 2000 o eiriau | 50% |
| Asesiad Ailsefyll | Traethawd: 2000 o eiriau | 50% |
| Asesiad Ailsefyll | Asesiad diwedd modiwl: | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Adnabod, disgrifio, ac asesu dadleuon cyfoes mewn daearyddiaeth wleidyddol.
- Ystyried yn feirniadol ystod o ffynonellau a thestunau o ddiddordeb i ddaearyddwyr gwleidyddol, yn amrywio o destunau academaidd i ddogfennau polisi.
- Dangos tystiolaeth o ddyfnder darllen mewn daearyddiaeth wleidyddol.
- Mynegi dadl ar ffurf ysgrifenedig am arwyddocâd ymchwil academaidd mewn maes penodol o ddaearyddiaeth wleidyddol.
- Cymhwyso a gwerthuso cysyniadau daearyddol gwleidyddol yng nghyd-destun enghreifftiau ac astudiaethau achos a dynnir o astudio annibynnol.
Disgrifiad cryno
Darpara’r modiwl gyda gyflwyniad i faes pwysig daearyddiaeth wleidyddol i fyfyrwyr yr ail flwyddyn. Gan dynnu’n benodol ar ymchwil sydd ar waith yn y grŵp ymchwil Daearyddiaethau Gwleidyddol Newydd a thu hwnt, cyflwyna’r modiwl ddadleuon academaidd allweddol yn y maes i fyfyrwyr, gan nodi eu cymhwysedd tu hwnt i’r academi drwy ddefnydd polisi ac astudiaethau achos eraill.
Cynnwys
Mae'r cwrs wedi'i rannu'n ddwy ran. mae rhan 1, ‘Cysyniadau allweddol mewn daearyddiaeth wleidyddol’, yn canolbwyntio ar
(ond heb fod yn gyfyngedig i) themâu gan gynnwys; y wladwriaeth; y genedl; y rhanbarth; Ymerodraeth, a; gwladychiaeth ’. Bydd Rhan
2, ‘dadleuon cyfredol mewn daearyddiaeth wleidyddol’ yn cynnwys deunydd sy’n canolbwyntio ar (ond heb fod yn gyfyngedig i);
daearwleidyddiaeth feirniadol; globaleiddio; defnydd; tirweddau pŵer; dinasyddiaeth, a; daearyddiaethau etholiadol ’
Bydd y modiwl hefyd yn cynnwys sesiwn sefydlu, sesiwn yn y Llyfrgell Genedlaethol ac elfen adolygu.
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Datblyga’r modiwl fedrau cyfathrebu ysgrifenedig wrth gwblhau’r traethawd ac wrth gwblhau’r arholiad ysgrifenedig. |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd y modiwl yn cefnogi myfyrwyr wrth iddynt ddatblygu ystod o sgiliau trosglwyddadwy. Bydd y traethawd yn profi gallu myfyrwyr i drafod natur gymwysedig daearyddiaeth wleidyddol. |
| Datrys Problemau | Bydd y modiwl yn datblygu medrau datrys problemau myfyrwyr mewn nifer o ffyrdd. Bydd gofyn i fyfyrwyr ddadansoddi ystod o ffynonellau a thestunau, a chwblhau arferion datrys problemau bychain yn ystod y darlithoedd. |
| Gwaith Tim | Bydd y darlithoedd yn cynnwys gweithgareddau datrys problemau a thrafodaethau a fydd yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr feithrin sgiliau gwaith tîm ac i rannu eu syniadau gyda’r dosbarth. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Dyluniwyd strwythur y modiwl er mwy darparu adborth cyson drwy gydol y flwyddyn academaidd, a dylai hwn ddarparu myfyrwyr gyda’r cyfle i wella’u dysgu a’u perfformiad. |
| Rhifedd | Heb ei dargedu’n benodol yn y modiwl hwn. |
| Sgiliau pwnc penodol | Bydd y traethawd yn datblygu a phrofi gallu myfyrwyr i weld sut gall syniadau a dadleuon o ddaearyddiaeth wleidyddol gael eu cyfosod i astudiaethau achos empeiraidd. |
| Sgiliau ymchwil | Gofynna’r arholiad, traethawd, ac astudiaeth annibynnol i fyfyrwyr ymchwilio i astudiaethau achos yn annibynnol, ac mae hyn yn galw am gyfosod ystod o ddeunydd academaidd ac anacademaidd. |
| Technoleg Gwybodaeth | Gofynna’r arholiad, traethawd, ac astudiaeth annibynnol i fyfyrwyr gyflawni ymchwil annibynnol o astudiaethau achos. Bydd y modiwl yn caniatáu i fyfyrwyr ymestyn eu doniau ymchwil ac arfer eu medrau TG wrth ysgrifennu’r traethawd. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5
Geography and Earth Sciences,Aberystwyth University, Llandinam Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622606 : +44 : +44 (0)1970 622021
dgostaff@aber.ac.uk: dgostaff@aber.ac.uk
