Dylunio Ymchwil a Sgiliau Gwaith Maes

Cod y Modiwl
DA25400
Teitl y Modiwl
Dylunio Ymchwil a Sgiliau Gwaith Maes
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Semester
Semester 1 Dysgwyd dros 2 semester
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Dr Cerys Jones
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dr Tom Holt
Dr Ian Saunders
Dr Hywel Griffiths
Professor Rhys Jones
Dr Bethany Simmonds
Professor Geoff Duller
Dr Marie Busfield
Professor Bryn Hubbard
Dr Tristram Irvine-Fynn
Rhys Dafydd Jones
Professor Mark Whitehead
Dr Gareth Hoskins

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Gwaith cwrs: Adroddiad gwaith maes (asesiad unigol): 2000 o eiriau 50%
Asesiad Semester Gwaith cwrs: Adnabod Bwlch yn yr Ymchwil: 1200 o eiriau 30%
Asesiad Semester Asesiad Diwedd Modiwl: Cynnig Prosiect: Myfyrwyr i gwblhau ffurflen Cynnig Prosiect i adnabod prosiect traethawd estynedig posib. Mae'r aseiniad hwn yn adeiladu ar y cynnwys dylunio ymchwil a sgiliau gwaith maes a ddysgwyd trwy gydol Semestr 2. 800 o eiriau 20%
Asesiad Ailsefyll Gwaith cwrs: Adnabod Bwlch yn yr Ymchwil: 1200 o eiriau 30%
Asesiad Ailsefyll Gwaith cwrs: Adroddiad gwaith maes (asesiad unigol): 2000 o eiriau 50%
Asesiad Ailsefyll Asesiad Diwedd Modiwl: Cynnig Prosiect: Myfyrwyr i gwblhau ffurflen Cynnig Prosiect i adnabod prosiect traethawd estynedig posib. Mae'r aseiniad hwn yn adeiladu ar y cynnwys dylunio ymchwil a sgiliau gwaith maes a ddysgwyd trwy gydol Semestr 2. 800 o eiriau 20%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Nodi problemau ymchwil amserol a pherthnasol ym maes Daearyddiaeth.
  2. Dylunio strategaethau ymchwil ar gyfer casglu a dadansoddi data sy'n berthnasol i gwestiynau ymchwil penodol.
  3. Dangos hyfedredd mewn amrywiaeth o dechnegau casglu/dadansoddi data.
  4. Cyfleu canfyddiadau ymchwil.

Disgrifiad cryno

Trwy ddadansoddi themâu perthnasol ac amserol mewn daearyddiaeth ddynol, cymdeithaseg, daearyddiaeth ffisegol, gwyddor yr amgylchedd ac ar y rhyngwyneb dynol/ffisegol, bydd y modiwl yn mynd i’r afael â’r amcanion canlynol:
- Ysgogi gallu myfyrwyr i nodi problem neu gwestiwn ymchwil, a datblygu dulliau o ddatrys neu ateb hyn trwy brofi rhagdybiaethau, dylunio ymchwil a chasglu data.
- Rhoi cyfle i gymhwyso dulliau damcaniaethol, technegol a/neu ddulliau labordy gwyddonol i'r amgylchedd maes mwy cymhleth, sydd heb ei reoli, a gwerthfawrogi sut mae prosesau y gellir eu hystyried yn 'gyffredinol' yn cael eu cyfryngu gan gymeriad cymdeithasol ac amgylcheddol lle penodol.
- Ystyried agweddau moesegol prosesau ymchwil
- Ystyried diogelwch gwaith maes
- Datblygu ymdeimlad o le, ymwybyddiaeth o wahaniaeth, a goddefgarwch tuag at eraill.
- Hyrwyddo rhai sgiliau trosglwyddadwy sydd eu hangen mewn gwaith ymarferol a seminarau, gan gynnwys gwaith tîm, arsylwi, adnabod problemau

Cynnwys

Bydd amcanion y modiwl yn cael eu cyflwyno trwy gyfres o ddarlithoedd, seminarau, a gweithdai ymarferol/ymweliadau maes. Bydd y rhain yn arwain at gyfnod estynedig o waith maes. Bydd y pynciau a drafodir a’r technegau a ddatblygir yn amrywio yn ôl carfan y myfyrwyr, gan gynnwys y canlynol:
- Effeithiau pobl ar yr amgylchedd
- Peryglon naturiol
- Dehongli'r dirwedd ddynol a ffisegol, a rhyngweithiad y ddau
- Agweddau ar newid diwylliannol, gwleidyddol ac economaidd o fewn cymunedau ac sy'n amlwg mewn bywyd o ddydd i ddydd
- Newid a rheoleiddio amgylcheddol

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Addasrwydd a gwydnwch Ymateb i heriau annisgwyl sy'n ymwneud â dylunio ymchwil a gwaith maes; gweithio mewn amgylcheddau amrywiol ac anrhagweladwy; cydweithio â gwahanol dimau.
Cyfathrebu proffesiynol Mae gwaith maes yn rhyngweithiol yn ei hanfod gyda nifer uchel o oriau cyswllt rhwng staff a myfyrwyr. Mae hyn yn sicrhau bod sgiliau cyfathrebu cryf yn cael eu datblygu, gyda digonedd o gyfleoedd am drafodaethau un-i-un a thrafodaethau mewn grŵp.
Datrys Problemau Creadigol Mae datrys problemau yn faen prawf allweddol ar gyfer y cwrs hwn. Mae hyn yn cynnwys adeiladu sail resymegol ar gyfer ymchwil a chynllunio ymchwil gan gyfeirio at lenyddiaeth/dadleuon/ffynonellau data sydd eisoes yn bod
Gallu digidol Bydd disgwyl i fyfyrwyr ddefnyddio technoleg gwybodaeth i gynorthwyo â gwaith darllen pellach wrth gwblhau aseiniadau, gan gynnwys chwilio am destunau ar-lein a’u syntheseiddio, technoleg prosesu geiriau, a pharatoi ffotograffau a mapiau digidol
Meddwl beirniadol a dadansoddol Bydd y modiwl hwn yn datblygu sgiliau maes arsylwi a dehongli. Bydd sgiliau meddwl beirniadol yn cael eu datblygu drwy seminarau rhyngweithiol ac ymarferion maes.
Myfyrdod Bydd myfyrwyr yn datblygu cyfle i fyfyrio ar ddyluniad ymchwil a gwaith maes a wnaed yn rhan gyntaf y modiwl yn sail ar gyfer casglu a dadansoddi data yn ail ran/elfen gwaith maes estynedig y modiwl
Sgiliau Pwnc-benodol Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno sgiliau sy’n ymwneud â phynciau penodol gyda’r nod o wneud ein graddedigion yn gyflogadwy ar draws amrywiaeth o sectorau

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5