Prosiect Daearyddiaeth Anrhydedd Cyfun/Prif Bwnc

Cod y Modiwl
DA34220
Teitl y Modiwl
Prosiect Daearyddiaeth Anrhydedd Cyfun/Prif Bwnc
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Semester
Semester 2 Dysgwyd dros 2 semester
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Dr Cerys Jones
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Rhagofynion

Cofrestru ar gyfer gradd gyfun neu brif bwnc mewn Daearyddiaeth, Physical Geography neu Human Geography.
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Professor Rhys Jones
Dr Cerys Jones
Professor Stephen Tooth
Dr Tristram Irvine-Fynn
Dr Gareth Hoskins

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Adroddiad prosiect terfynol o 6,000 o eiriau. 100%
Asesiad Ailsefyll Ail-gyflwynor adroddiad a fethwyd (<40%). Ni fydd modd ail-gyflwynor adroddiad os na chyflwynwyd yr adroddiad gwreiddiol oherwydd rheswm annilys 100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. 1. Cynllunio, dylunio a chyflawni darn o ymchwil neu ymholiad daearyddol trwyadl. 2. Cyflawni ymchwil empiraidd effeithiol ac addas, gan gynnwys casglu data cynradd. 3. Dadansoddi data'n drwyadl, gan ddefnyddio technegau addas a dehongli canlyniadau yng nghyd-destun gwybodaeth a theoriau sy'n bodoli. 4. Cynhyrchu adroddiad ysgrifenedig sylweddol ar yr ymchwil mewn dull academaidd addas. 5. Dangos hunangymhelliad, gallu i gynllunio a blaengarwch wrth weithio'n annibynnol.

Disgrifiad cryno

Modiwl yw hwn ar ffurf prosiect ymchwil annibynnol sy'n cael ei arwain gan fyfyriwr Daearyddiaeth gradd gyfun a phrif bwnc. Bydd pwnc addas sy'n berthnasol i'r byd daearyddiaeth yn cael ei gynnig gan y myfyriwr a'i gymeradwyo gan gyd-gysylltydd y modiwl. Ceir pedair rhan i'r prosiect: (i) dynodi pwnc ymchwil a datblygu cynllun ymchwil addas; (ii) ymchwil empiraidd i gasglu gwybodaeth o ffynonellau eilaidd, a chasglu data cynradd os oes angen, fel bo'n briodol ar gyfer y gwaith ymchwil; (iii) dadansoddi data a gwybodaeth, gan gynnwys dehongli canlyniadau yng nghyd-destun gwybodaeth a theoriau sy'n bodoli; (iv) creu adroddiad terfynol 6,000 o eiriau, i'w gyflwyno ar ddiwedd semester 1.

Cynnwys

Modiwl yw hwn ar ffurf prosiect ymchwil annibynnol sy'n cael ei arwain gan fyfyriwr Daearyddiaeth gradd gyfrun a phrif bwnc. Penodir ymgynghorydd ar gyfer pob myfyriwr a fydd yn rhoi cyngor a chyfarwyddyd ar ddatblygiad y prosiect, yn ogystal a'r ffordd y bydd yn cael ei adrodd. Derbynia myfyrwyr gefnogaeth ar gyfer eu hastudiaethau annibynnol mewn sawl cyd-destun:

(i) pedwar cyfarfod fel unigolyn gyda'u harolygydd. Galluoga'r cyfarfodydd hyn i'r arolygydd i roi adborth a chyfarwyddyd a fydd wedi ei dargedu'n benodol ar astudiaeth y myfyriwr. Bydd y cyfarfodydd hyn yn sylfaen ar gyfer y system Tiwtor Personol ar Lefel 3;
(ii) tri cyfarfod grw^p yn ystod semester 1, a fynychir gan holl fyfyrwyr gradd gyfun/prif bwnc aelod o staff. Bydd cyfle yn y cyfarfodydd hyn i drafod erthyglau a fydd yn help i'r holl fyfyrwyr hyn i gwblhau eu prosiect;
(iii) tair darlith sgiliau cyffredinol (a fydd yn cynnwys elfennau APPR arwyddocaol) ar gyfer y cwrs gradd neu ar gyfer y flwyddyn yn gyffredinol, fel y bo'n briodol. Bydd rhai o'r rhain yn sesiynau a fydd yn cefnogi'r Prosiect Gradd Gyfun/Prif Bwnc, e.e. strwythuro eich prosiect terfynol, tra bydd rhai eraill yn canolbwyntio ar faterion CPD, e.g. amgyffred sgiliau a chaffael swyddi.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cyfathrebu Datblygir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig trwy greu adroddiad ysgrifenedig. Datblygir sgiliau cyfathrebu llafar trwy: drafod yr ymchwil - fesul unigolyn ac mewn grwpiau; ac o bosib, gellir eu datblygu trwy ymchwil empiraidd lle defnyddir dulliau ymchwil geiriol (e.e. cyfweliadau a holiaduron).
Datrys Problemau Datblygir sgiliau datrys problemau trwy nodi cwestiynau ymchwil, methodoleg addas a chynllun ymchwil, a thrwy ymatebion i anawsterau a brofir yn ystod casglu'r data.
Gwaith Tim Datblygir medrau gwaith tim yn y cyfarfodydd grw^p, e.e. ar ffurf trafodaeth a gwaith grw^p. Ni fydd y medrau hyn yn cael eu hasesu'n ffurfiol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae myfyrwyr yn cael eu hannog i fyfyrio ar eu profiad o gynllunio ac ymgymryd ag ymchwil yn y trafodaethau unigol a grw^p.
Rhifedd Os yn addas i'r pwnc ymchwil a ddewisir, gall myfyrwyr ddatblygu sgiliau rhifyddol trwy gasglu, dadansoddi a chyflwyno data meintiol.
Sgiliau pwnc penodol Datblygir sgiliau datblygiad personol fel rhan o'r darlithoedd APPR a'r cyfarfodydd Tiwtor Personol sy'n rhan o'r modiwl. Yn ogystal, bydd llawer o'r sgiliau generig a ddatblygir trwy'r prosiect ymchwil yn hynod drosglwyddadwy i ystod eang o yrfaoedd.
Sgiliau ymchwil Datblygir sgiliau ymchwil trwy gasglu a dadansoddi data sy'n briodol ar gyfer ymchwilio i'r cwestiynau ymchwil.
Technoleg Gwybodaeth Bydd disgwyl i fyfyrwyr ddefnyddio adnoddau TG priodol wrth ddynodi ffynonellau data a chasglu data (e.e. y rhyngrwyd, adnoddau gwybodaeth electronig), wrth ddadansoddi data (e.e. pecynnau ystadegol) ac wrth wneud adroddiad ar y prosiect (e.e. prosesu geiriau, pecynnau GIS a mapio).

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6