Cynllunio Gyrfa a Datblygu Sgiliau Ffiseg
- Cod y Modiwl
- FG12910
- Teitl y Modiwl
- Cynllunio Gyrfa a Datblygu Sgiliau Ffiseg
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 2
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Tony Cook
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Rhagofynion
-
Gofynion mynediad ar gyfer gradd anrhydedd Ffiseg - Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
MP12910
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
PH12910
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
MT12910
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Dr Tony Cook
- Professor Simon Cox
Dulliau Asesu
|
Math o Assesiad |
Manylion Assesiad |
Hyd Assesiad |
Cyfran |
|---|---|---|---|
| Asesiad Ailsefyll | Rhaglen Ymwybyddiaeth Sgiliau. Disgwylir i fyfyrwyr wneud 4 ymarfer: 1) Cwblhau modiwl dysgu LinkedIn ar greu proffil ar-lein cryf. 2) Creu proffil LinkedIn. 3) Ysgrifennu llythyr eglurhaol ar gyfer cais swydd o’u dewis. 4) Cyfrannu at drafodaeth grŵp gyda chynghorydd gyrfaoedd. | 15% | |
| Asesiad Ailsefyll | Cyflwyniad Unigol | 20% | |
| Asesiad Ailsefyll | Taenlen | 25% | |
| Asesiad Ailsefyll | Rhaglennu Gweithdrefnol | 25% | |
| Asesiad Ailsefyll | Poster Grŵp | 15% | |
| Asesiad Semester | Poster Grŵp | 15% | |
| Asesiad Semester | Rhaglennu Gweithdrefnol | 25% | |
| Asesiad Semester | Taenlen | 25% | |
| Asesiad Semester | Cyflwyniad Unigol | 20% | |
| Asesiad Semester | Rhaglen Ymwybyddiaeth Sgiliau. Disgwylir i fyfyrwyr wneud 4 ymarfer: 1) Cwblhau modiwl dysgu LinkedIn ar greu proffil ar-lein cryf. 2) Creu proffil LinkedIn. 3) Ysgrifennu llythyr eglurhaol ar gyfer cais swydd o’u dewis. 4) Cyfrannu at drafodaeth grŵp gyda chynghorydd gyrfaoedd. | 15% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Dadansoddi data gan ddefnyddio taenlen i wneud cyfrifiadau.
- Llunio crynodebau a siartiau o'r data yn y dadansoddiad taenlen.
- Ysgrifennu rhaglen mewn iaith gyfrifiadurol weithdrefnol.
- Cymhwyso pecynnau meddalwedd i baratoi dogfennau i'w cyflwyno i gynulleidfaoedd eang.
- Adnabod gyrfaoedd i Ffisegwyr a sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol.
- Egluro testun mewn Ffiseg drwy gyflwyniad llafar.
- Cydnabod amrywiaeth, moeseg a chynaliadwyedd yn y gwyddorau ffisegol.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno'r myfyrwyr i amrywiaeth o becynnau meddalwedd: meddalwedd prosesu geiriau, meddalwedd cyflwyno, taenlenni a rhaglennu gweithdrefnol. Mae'n defnyddio syniadau mewn mathemateg a ffiseg i ddangos defnydd o'r meddalwedd a sgiliau yn y gweithle.
Yn y modiwl mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn darparu rhaglen ymwybyddiaeth o sgiliau fel canllaw ar gyfer paratoi ceisiadau am swyddi. Mae'r myfyrwyr yn gweithio mewn timau i ymchwilio gyrfaoedd sydd ar gael i raddedigion Ffiseg (rhoddir enghreifftiau o yrfaoedd gwyddonwyr o gefndiroedd amrywiol) a defnyddio'r meddalwedd a gyflwynwyd i baratoi poster ar eu canfyddiadau. Mae myfyrwyr hefyd yn paratoi ac yn rhoi cyflwyniad unigol byr ar destun mewn Ffiseg.
Cynnwys
Pecynnau prosesu geiriau (fel Word, Latex): cyflwyniad, dogfennau, fformatio, mynegiadau mathemategol, a chyfeiriadau llyfryddol.
Taenlenni (fel Excel): trosolwg, mewnbynnu a fformatio gwybodaeth, fformiwlâu a ffwythiannau, trin, delweddu set ddata (mawr).
Rhaglennu gweithdrefnol.
Pecynnau cyflwyno (megis Powerpoint): ar gyfer posteri ac ar gyfer cyflwyniadau llafar unigol.
Rhaglen ymwybyddiaeth sgiliau gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd yn dangos sut i baratoi dogfennau megis llythyr cyflwyno.
Poster grŵp i dynnu sylw at yrfaoedd sydd ar gael i raddedigion Ffiseg (rhoddir enghreifftiau o yrfaoedd gwyddonwyr o gefndiroedd amrywiol) a'r sgiliau a ddatblygir ar gyfer y rhain.
Cyflwyniad unigol ar destun mewn Ffiseg.
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Cyfathrebu ysgrifenedig yn yr aseiniadau. Cyfathrebu llafar yn y cyflwyniadau. |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Mae'r modiwl yn dangos pwysigrwydd datblygiad personol a cynllunio gyrfa ac mae'n cynnwys ymarferion ymwybyddiaeth sgiliau. |
| Datrys Problemau | Caiff sgiliau datrys problemau eu cymhwyso yn yr aseiniadau taenlen a rhaglennu gweithdrefnol ac yn y cyflwyniad ar destun mewn Ffiseg. |
| Gwaith Tim | Mae'r aseiniad poster yn weithgaredd grŵp. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Caiff ei annog drwy gydol y modiwl yma sy'n datblygu sgiliau. |
| Myfyrdod | Moeseg. Arferion da mewn: Gwyddoniaeth, Addysg a'r Gweithle. |
| Rhifedd | Defnyddir cysyniadau a thechnegau rhifyddol gyda thaenlen. |
| Sgiliau pwnc penodol | Rhaglennu gweithdrefnol. Datrys problemau mewn ffiseg ar gyfer y cyflwyniad unigol. |
| Sgiliau ymchwil | Caiff sgiliau ymchwil eu defnyddio i ymchwilio testun mewn Ffiseg a gyrfaoedd mewn Ffiseg. |
| Technoleg Gwybodaeth | Mae amrywiaeth o becynnau cyfrifiadurol yn cael eu defnyddio yn y modiwl. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4
Physics,Aberystwyth University, Physical Sciences Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622802 : +44 : +44 (0)1970 622021
phys@aber.ac.uk: phys@aber.ac.uk
