Technegau Labordy ar gyfer Ffisegwyr Arbrofol a Pheirianwyr (30 Credyd)
- Cod y Modiwl
- FG15000
- Teitl y Modiwl
- Technegau Labordy ar gyfer Ffisegwyr Arbrofol a Pheirianwyr (30 Credyd)
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 1 Dysgwyd dros 2 semester
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Rachel Cross
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Rhagofynion
-
Safon Uwch Ffiseg a Mathemateg neu gyfatebol - Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
FG15510 neu FG15720 neu FG15720 neu PH15030 neu PH15510 neu PH15720 neu PH15720
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Cyflwyniad llafar: Cyflwyniad llafar 10 Munud | 15% |
| Asesiad Semester | Portffolio o Ddyddiaduron Labordy: Dyddiaduron Lab Ysgrifenedig. Asesir y myfyrwyr ar ansawdd y cymryd nodiadau yn ystod arbrawf gosod. Mae pob arbrawf yn unigryw, ac mae hyd y geiriau sydd eu hangen yn wahanol. Yr isafswm yw 200 gair fesul arbrawf. 500 o eiriau | 60% |
| Asesiad Semester | Gweithdy gyrfaoedd: 4 Awr 4 Awr | 10% |
| Asesiad Semester | Adroddiad ffurfiol: Adroddiad Lab Ysgrifenedig ar arbrawf penodedig. 1000 o eiriau | 15% |
| Asesiad Ailsefyll | Asesiad atodol: 8 Awr Fel y penderfynir gan Fwrdd Arholi yr Adran. | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Dangos cymhwysedd ymarferol a chywirdeb wrth gyflawni gweithdrefnau arbrofol gan gynnwys mesur, defnyddio offer gwyddonol a chofnodi canlyniadau
- Cynhyrchu adroddiad gwyddonol clir ar brosesydd geiriau gan gynnwys cefndir damcaniaethol, disgrifiad arbrofol, cyflwyno a dadansoddi canlyniadau, a dehongli a gwerthuso.
- Trafod gwaith mewn cyflwyniad llafar.
- Adnabod mathau o ansicrwydd mewn arbrawf a phennu lledaeniad gwall.
- Dadansoddi data gan ddefnyddio taenlen i wneud cyfrifiadau.
- Arddangos y gallu i weithio gydag eraill mewn ffordd ystyriol a chydweithredol, gan barchu a chydnabod eiddo deallusol eraill. Cydnabod amrywiaeth, moeseg a chynaliadwyedd yn y gwyddorau ffisegol.
- Cymryd rhan mewn gweithdy sgiliau gyrfa; cynhyrchu CV a chymryd rhan mewn gweithgaredd canolfan asesu ffug.
Disgrifiad cryno
Mae arbrofi yn rhan sylfaenol o broses y gwyddorau ffisegol. Mae'n ein galluogi i ddeall y byd o'n cwmpas, i ddatblygu damcaniaethau ac i brofi'r damcaniaethau hynny. Yn y modiwl hwn byddwch yn dysgu technegau sylfaenol perfformio arbrofion, cymryd mesuriadau, rhoi cyfrif am ansicrwydd yn eich mesuriadau, dadansoddi canlyniadau a'u cymharu â theori.
Trefnir modiwlau arbrofol y cynlluniau gradd fel bod myfyrwyr yn datblygu o ddilyn set o gyfarwyddiadau manwl tra yn perfformio arbrofion syml ar y cychwyn, i gynnal ymchwiliad i mewn i destun a ddyfeisio eu harbrofion a’u hymchwiliadau eu hunain yn eu prosiectau blwyddyn olaf.
Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno israddedigion i arferion labordy mewn meysydd allweddol o'r gwyddorau ffisegol y gellir eu defnyddio i ddeall y byd o'n cwmpas. Rhoddir pwyslais ar gywirdeb tra yn cymryd nodiadau. Bydd disgwyl i israddedigion gadw dyddiadur labordy wrth gynnal yr arbrofion. Yn ogystal â’r nodiadau a gedwir yn y dyddiadur, bydd disgwyl i fyfyrwyr ysgrifennu lan un o’r arbrofion fel adroddiad ffurfiol a chyflwyno un fel cyflwyniad llafar. Bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i ddulliau o gasglu a chyflwyno data gan ddefnyddio dyfeisiau electronig a phecynnau cyfrifiadurol. O fewn y modiwl, bydd sgiliau cyflogadwyedd yn cael eu pwysleisio gan Wasanaeth Gyrfaoedd y brifysgol, gyda sesiynau wedi'u teilwra ar yrfaoedd, sgiliau trosglwyddadwy a pharatoi ar gyfer cyflogaeth neu astudiaeth bellach.
Cynnwys
Mae'r arbrofion yn seiliedig ar bynciau craidd yn y gwyddorau ffisegol, gan gwmpasu meysydd allweddol trwy ymchwiliad ymarferol.
Cadw nodiadau cywir ar gweithdrefnau arbrofol, arsylwadau, a chanlyniadau mewn dyddiadur labordy strwythuredig.
Dadansoddiad gwall sylfaenol.
Casglu a dadansoddi data digidol gan ddefnyddio taenlenni.
Paratoi adroddiad gwyddonol ffurfiol gan ddefnyddio pecyn prosesu geiriau.
Paratoi cyflwyniad llafar gwyddonol gan ddefnyddio pecyn cyflwyno.
Rhaglen ymwybyddiaeth o sgiliau a gyrfaoedd gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd.
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cydlynu ag erail | Yn gyffredinol, bydd myfyrwyr yn gwneud arbrofion mewn grwpiau o ddau, a byddem yn annog cydweithredu i ddatrys problemau modelu. Bydd myfyrwyr yn cydweithio yn y gweithdy gyrfaoedd. |
| Cyfathrebu proffesiynol | Bydd myfyrwyr yn cynhyrchu adroddiad ffurfiol ar brosesydd geiriau, gan ddefnyddio dadansoddiad a chyflwyniad data gan ddefnyddio pecynnau meddalwedd priodol. Bydd myfyrwyr yn cynhyrchu cyflwyniad byr o arbrawf gan ddefnyddio meddalwedd priodol. |
| Gallu digidol | Bydd myfyrwyr yn dod yn gyfarwydd â phecynnau meddalwedd priodol ac yn cynhyrchu gwaith gyda nhw. Mae dadansoddi data modern yn dibynnu ar y defnydd o gyfrifiaduron. Mewn rhai arbrofion, mae myfyrwyr yn defnyddio pecyn cyfrifiadurol i ddadansoddi data a bydd disgwyl iddynt wneud adroddiad labordy ar brosesydd geiriau. |
| Meddwl beirniadol a dadansoddol | Bydd myfyrwyr yn cymhwyso technegau datrys problemau yn ystod arbrofion ac wrth drin data sy'n deillio o arbrofion. |
| Myfyrdod | Bob wythnos mae'r adborth a ddarperir ar gyfer dyddiaduron y labordy yn annog y myfyrwyr i wella eu gallu i gymryd nodiadau a myfyrio ar eu gwaith. |
| Sgiliau Pwnc-benodol | Defnydd o offer penodol. Perfformio arbrofion. Ysgrifennu dull gwyddonol. Dadansoddiad o ansicrwydd arbrofol. Bydd myfyrwyr yn cadw dyddiaduron labordy ac yn ysgrifennu adroddiadau ar arbrofion. Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn parau a grwpiau bach, gan drafod eu canfyddiadau arbrofol. Yn y bôn, mae'r gwyddorau ffisegol yn seiliedig ar y defnydd o fathemateg a mesuriadau arbrofol. Mae cymhwyso rhif yn rhan ganolog o'r modiwl hwn. |
| Synnwyr byd go iawn | Bydd myfyrwyr yn cynhyrchu CV ac yn cymryd rhan mewn gweithdy arddull canolfan asesu. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4
Physics,Aberystwyth University, Physical Sciences Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622802 : +44 : +44 (0)1970 622021
phys@aber.ac.uk: phys@aber.ac.uk
