Algebra a Hafaliadau Differol
- Cod y Modiwl
- FG16210
- Teitl y Modiwl
- Algebra a Hafaliadau Differol
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 1
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Professor John Gough
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Rhagofynion
-
Mathemateg Safon Uwch neu gyfatebol - Cyd-Ofynion
-
MP10610 neu MT10610
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
MA10510
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
MT10510
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
MA11210
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
MT11210
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Professor John Gough
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Prawf Arlein 2: | 15% |
| Asesiad Semester | Prawf Arlein 1: | 15% |
| Arholiad Semester | Arholiad Ysgrifenedig: 2 Awr | 70% |
| Arholiad Ailsefyll | Arholiad Ysgrifenedig: 2 Awr | 100% |
Canlyniadau Dysgu
- Ar ddiwedd y modiwl, dylai myfyriwr fedru: 1. Trin rhifau cymhlyg a defnyddio theorem DeMoivre. 2. Defnyddio algorithm rhannu ar gyfer polynomialau. 3. Deillio unfathiannau sy'n cynnwys gwreiddiau polynomial a'i gyfernodau. 4. Darganfod trefn, homogenedd, llinoledd a chymeriad cyffredin/rhannol hafaliadau differol. 5. Adnabod strategaethau addas i ddatrys mathau cyffredin o hafaliadau differol cyffredin. 6. Datrys hafaliadau differol cyffredin sy'n wahanadwy a llinol-homogenedd a hafaliadau differol cyffredin llinol sydd â chyfernodau cyson.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl yn cyflwyno'r algebra sylfaenol sydd ei angen i astudio cysyniadau a phrosesau ffisegol yn feintiol. Mae hefyd yn cyflwyno hafaliadau differol cyffredin, sy'n gynsail i destunau megis acwsteg a mecaneg cwantwm.
Nod
Mae'r modiwl yn darparu myfyrwyr gyda chysyniadau algebra megis rhifau cymhlyg, polynomialau, a ffwythiannau, sydd eu hangen i ddeall cysyniadau ffisegol ac i
ddatrys problemau ffisegol. Mae'n cyflwyno'r cysyniad o hafaliadau differol cyffredin, a strategaethau datrys sylfaenol ar gyfer yr hafaliadau yma mewn gwahanol gyd-destunau ffisegol.
Cynnwys
Rhifau cymhlyg: Cynrhychiolaeth geometrig, theorem DeMoivre.
Polynomialau: Rhannu polynomial, ffwythiannau cymesurol, perthynas rhwng gwreiddiau polynomial a'i gyfernodau.
Ffwythiannau newidyn real: Graffiau o ffwythiannau elfennol (polynomia, esbonyddol, logarithmig, trigonometrig, hyperbolig ayyb), ffwythiannau cyfnodol, od- ac eil-ffwythiannau. Gweithrediadau ar ffwythiannau: adio, lluosi, rhannu, cyfansoddiad. Asymptotau. Ffwythiannau gwrthdro.
Cyfresi: Cydgyfeiriant cyfres. Cyfres Pwer.
Dosbarthu hafaliadau differol: Trefn, cyffredin/rhannol, homogenedd, llinoledd.
Hafaliadau trefn un gyntaf gyda newidynnau gwahanadwy. Dadfeiliad ymbelydrol. Amodau terfyn (e.e. gwerthoedd cychwynol)
Hafaliadau lliniol trefn un homogenaidd. Dull ffactor integru. Trefn uwch. Disgyn yn rhydd
Hafaliadau anhomogenaidd. Ffwythiant neilltuol. Osgiliadau gorfod. Achosion arbennig: rhan heterogenaidd yn datrys hafaliad homogenaidd.
Hafaliad differol cyffredin llinol gyda chyfernodau cyson. Polynomial nodweddiadol. Achosion arbennig: Gwreiddiau dirywiedig. Tonnau unfan.
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Bydd angen i'r myfyrwyr fynegi diffiniadau termau mathemategol yn gryno. |
| Datrys Problemau | Datrysir problemau mathemategol yn y gweithdai. |
| Gwaith Tim | Mae cyfle i waith grwp yn y gweithdai ac anogir myfyrwyr i gydweithio yno i ddatrys problemau a dysgu oddi wrth ei gilydd. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae cyfle i ddysgu o adborth yn y gweithdai ac felly i wella perfformiad. |
| Rhifedd | Cymhwysir rhifau mewn engreifftiau |
| Sgiliau pwnc penodol | Mynegir problemau Ffiseg yn nhermau hafaliadau a modelau mathemategol |
| Sgiliau ymchwil | Datblygir sgiliau ymchwil drwy ddarllen am gefndir testunau y modiwl. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4
Physics,Aberystwyth University, Physical Sciences Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622802 : +44 : +44 (0)1970 622021
phys@aber.ac.uk: phys@aber.ac.uk
