Sgiliau Ymchwil Ymarferol
- Cod y Modiwl
- FG25720
- Teitl y Modiwl
- Sgiliau Ymchwil Ymarferol
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 2
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Professor Huw Morgan
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Rhagofynion
-
FG15030 neu FG15510 neu PH15030 neu PH15510
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
PH25720
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
PH35110
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
FG35110
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Dr Dave Langstaff
- Dr Gwenllian Williams
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Adolygiad llenyddiaeth: 2 dudalen | 10% |
| Asesiad Semester | Poster: 1 tudalen | 10% |
| Asesiad Semester | Cyflwyniad llafar: 15 Munud | 10% |
| Asesiad Semester | Ymarfer - Asesiad risg: 2 dudalen | 10% |
| Asesiad Semester | Adroddiad: 10 tudalen | 30% |
| Asesiad Semester | Ymarfer - Technegau dadansoddi: 3 tudalen | 30% |
| Asesiad Ailsefyll | Fel bennir gan y Bwrdd Arholi Adrannol: | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- 1. Ymchwilio testunau sy'n berthnasol i'r gwaith prosiect drwy bapurau ac erthyglau ymchwil a chyflwyno adolygiad llenyddiaeth gyda llyfryddiaeth yn defnyddio Endnote neu feddalwedd tebyg.
- 2. Cynllunio a gweithredu prosiect heb lawer o fewnbwn gan staff addysgu, defnyddio sgiliau labordy a dadansoddi a ddatblygwyd yn ystod y cwrs
- 3. Casglu data naill ai drwy arbrawf neu drwy adnoddau ar-lein gan ddangos ymwybyddiaeth o weithrediad yr offerynnau a'u graddnodiad.
- 4. Dadansoddi a dehongli data.
- 5. Cyflwyno arbrawf a'i ganlyniadau mewn cyflwyniad llafar, poster ac adroddiad ffurfiol.
- 6. Cynnal asesiad risg ar gyfer gwaith arbrofol.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl yn bont rhwng gwaith labordy blwyddyn gyntaf a phrosiectau blwyddyn olaf. Mae'n rhoi profiad i fyfyrwyr o ofynion ymchwil ffiseg ymarferol. Caiff y myfyrwyr eu cyflwyno i'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer prosiectau blwyddyn olaf a byddant yn datblygu'r rhain drwy weithio ar brosiect gosod mewn grwpiau o bedwar neu bump. Bydd y myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth o gynllunio a gweithredu ar brosiect, technegau offeryniaeth a chyfrifiadura, asesu risg, chwilio'r lenyddiaeth, dadansoddi a dehongli data. Byddant yn cyfathrebu eu gwaith prosiect a'r canlyniadau drwy boster, cyflwyniad llafar ac adroddiad ffurfiol.
Cynnwys
Caiff y myfyrwyr eu cyflwyno i:
Chwiliadau llyfrgell a rhyngrwyd, meddalwedd cyfeiriadau, darllen ac ysgrifennu papurau gwyddonol.
Technegau dadansoddi a chyfrifiadurol ar destunau megis prosesu delweddau, defnyddio Unix, modelu, efelychu a dadansoddi ystadegol.
Offeryniaeth a data o adnoddau amrywiol.
Diogelwch mewn gwaith prosiect yn cynnwys Asesu Risg ac eitemau megis COSHH, DSEAR, diogelwch laser a phelydredd.
Mae'r myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau o bedwar neu bump ar brosiect gosod. Mae angen iddynt gymhwyso'r sgiliau a ddatblygir yn y modiwl i ymchwilio cefndir y prosiect, cynllunio'r prosiect, datblygu strategaeth arbrofol, a dadansoddi a dehongli'r canlyniadau. Mae asesiad y gwaith prosiect yn cynnwys adolygiad llenyddiaeth, poster a chyflwyniad llafar, a hefyd adroddiad ffurfiol gan yr unigolyn. Bydd y myfyrwyr hefyd yn cael eu hasesu ar ymarferion ar asesu risg a thechnegau dadansoddi.
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Mae myfyrwyr yn cyfathrebu eu gwaith prosiect drwy adolygiad llenyddiaeth, cyflwyniad llafar, poster ac adroddiad ffurfiol. |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Mae llawer o'r sgiliau a ddatblygir yn elfennau hanfodol o radd ffiseg ac yn y byd gwaith yn y dyfodol. Mae asesiad risg yn sgil a ellir ei drosglwyddo yn y gweithle. |
| Datrys Problemau | Mae datrys problemau yn sgil craidd mewn gwaith prosiect ffiseg. |
| Gwaith Tim | Mae myfyrwyr yn gweithio ar brosiect mewn grwpiau o bedwar neu bump. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae myfyrwyr yn datblygu a gwella eu perfformiad mewn set o sgiliau a ddefnyddir ar gyfer prosiectau blwyddyn-olaf i israddedigion. |
| Rhifedd | Mae cymhwyso rhif yn angenrheidiol mewn dadansoddi data, yn cynnwys ansicrwydd mewn data a'u lledaeniad. |
| Sgiliau pwnc penodol | Gwybodaeth o'r teclynnau ymchwil priodol e.e. rhaglennu cyfrifiadurol, offeryniaeth. |
| Sgiliau ymchwil | Disgwylir i'r myfyrwyr ymchwilio cefndir y gwaith, cyd-destun yr arbrofion a bod yn ymwybodol o'r llenyddiaeth berthnasol mwyaf diweddar. |
| Technoleg Gwybodaeth | Mae myfyrwyr yn ymchwilio i gefndir y prosiect gan ddefnyddio'r rhyngrwyd a chwiliadau llyfrgell, ac yn cyflwyno adolygiad llenyddiaeth gan ddefnyddio Endnote neu feddalwedd llyfryddiaeth tebyg. Mae'r myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfrifiadurol i ddadansoddi data ac yn defnyddio'r cyfleusterau sydd ar gael ar gyfer prosesu-geiriau a chyflwyniadau. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5
Physics,Aberystwyth University, Physical Sciences Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622802 : +44 : +44 (0)1970 622021
phys@aber.ac.uk: phys@aber.ac.uk
