Sgiliau Ymchwil Ymarferol

Cod y Modiwl
FG25720
Teitl y Modiwl
Sgiliau Ymchwil Ymarferol
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Semester
Semester 2
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Professor Huw Morgan
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Rhagofynion
FG15030 neu FG15510 neu PH15030 neu PH15510
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
PH25720
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
PH35110
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
FG35110
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dr Dave Langstaff
Dr Gwenllian Williams

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Adolygiad llenyddiaeth: 2 dudalen 10%
Asesiad Semester Poster: 1 tudalen 10%
Asesiad Semester Cyflwyniad llafar: 15 Munud 10%
Asesiad Semester Ymarfer - Asesiad risg: 2 dudalen 10%
Asesiad Semester Adroddiad: 10 tudalen 30%
Asesiad Semester Ymarfer - Technegau dadansoddi: 3 tudalen 30%
Asesiad Ailsefyll Fel bennir gan y Bwrdd Arholi Adrannol: 100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. 1. ​​​Ymchwilio testunau sy'n berthnasol i'r gwaith prosiect drwy bapurau ac erthyglau ymchwil a chyflwyno adolygiad llenyddiaeth gyda llyfryddiaeth yn defnyddio Endnote neu feddalwedd tebyg.
  2. 2. Cynllunio a gweithredu prosiect heb lawer o fewnbwn gan staff addysgu, defnyddio sgiliau labordy a dadansoddi a ddatblygwyd yn ystod y cwrs
  3. 3. Casglu data naill ai drwy arbrawf neu drwy adnoddau ar-lein gan ddangos ymwybyddiaeth o weithrediad yr offerynnau a'u graddnodiad.
  4. 4. Dadansoddi a dehongli data.
  5. 5. Cyflwyno arbrawf a'i ganlyniadau mewn cyflwyniad llafar, poster ac adroddiad ffurfiol.
  6. 6. Cynnal asesiad risg ar gyfer gwaith arbrofol.

Disgrifiad cryno

​Mae'r modiwl yn bont rhwng gwaith labordy blwyddyn gyntaf a phrosiectau blwyddyn olaf. Mae'n rhoi profiad i fyfyrwyr o ofynion ymchwil ffiseg ymarferol. Caiff y myfyrwyr eu cyflwyno i'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer prosiectau blwyddyn olaf a byddant yn datblygu'r rhain drwy weithio ar brosiect gosod mewn grwpiau o bedwar neu bump. Bydd y myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth o gynllunio a gweithredu ar brosiect, technegau offeryniaeth a chyfrifiadura, asesu risg, chwilio'r lenyddiaeth, dadansoddi a dehongli data. Byddant yn cyfathrebu eu gwaith prosiect a'r canlyniadau drwy boster, cyflwyniad llafar ac adroddiad ffurfiol.​

Cynnwys

Caiff y myfyrwyr eu cyflwyno i:

Chwiliadau llyfrgell a rhyngrwyd, meddalwedd cyfeiriadau, darllen ac ysgrifennu papurau gwyddonol.

Technegau dadansoddi a chyfrifiadurol ar destunau megis prosesu delweddau, defnyddio Unix, modelu, efelychu a dadansoddi ystadegol.

Offeryniaeth a data o adnoddau amrywiol.

Diogelwch mewn gwaith prosiect yn cynnwys Asesu Risg ac eitemau megis COSHH, DSEAR, diogelwch laser a phelydredd.

Mae'r myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau o bedwar neu bump ar brosiect gosod. Mae angen iddynt gymhwyso'r sgiliau a ddatblygir yn y modiwl i ymchwilio cefndir y prosiect, cynllunio'r prosiect, datblygu strategaeth arbrofol, a dadansoddi a dehongli'r canlyniadau. Mae asesiad y gwaith prosiect yn cynnwys adolygiad llenyddiaeth, poster a chyflwyniad llafar, a hefyd adroddiad ffurfiol gan yr unigolyn. Bydd y myfyrwyr hefyd yn cael eu hasesu ar ymarferion ar asesu risg a thechnegau dadansoddi.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cyfathrebu Mae myfyrwyr yn cyfathrebu eu gwaith prosiect drwy adolygiad llenyddiaeth, cyflwyniad llafar, poster ac adroddiad ffurfiol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae llawer o'r sgiliau a ddatblygir yn elfennau hanfodol o radd ffiseg ac yn y byd gwaith yn y dyfodol. Mae asesiad risg yn sgil a ellir ei drosglwyddo yn y gweithle.
Datrys Problemau Mae datrys problemau yn sgil craidd mewn gwaith prosiect ffiseg.
Gwaith Tim Mae myfyrwyr yn gweithio ar brosiect mewn grwpiau o bedwar neu bump.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae myfyrwyr yn datblygu a gwella eu perfformiad mewn set o sgiliau a ddefnyddir ar gyfer prosiectau blwyddyn-olaf i israddedigion.
Rhifedd Mae cymhwyso rhif yn angenrheidiol mewn dadansoddi data, yn cynnwys ansicrwydd mewn data a'u lledaeniad.
Sgiliau pwnc penodol Gwybodaeth o'r teclynnau ymchwil priodol e.e. rhaglennu cyfrifiadurol, offeryniaeth.
Sgiliau ymchwil Disgwylir i'r myfyrwyr ymchwilio cefndir y gwaith, cyd-destun yr arbrofion a bod yn ymwybodol o'r llenyddiaeth berthnasol mwyaf diweddar.
Technoleg Gwybodaeth Mae myfyrwyr yn ymchwilio i gefndir y prosiect gan ddefnyddio'r rhyngrwyd a chwiliadau llyfrgell, ac yn cyflwyno adolygiad llenyddiaeth gan ddefnyddio Endnote neu feddalwedd llyfryddiaeth tebyg. Mae'r myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfrifiadurol i ddadansoddi data ac yn defnyddio'r cyfleusterau sydd ar gael ar gyfer prosesu-geiriau a chyflwyniadau.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5