Sgiliau Ymchwil Ymarferol (10 credyd)
- Cod y Modiwl
- FG35110
- Teitl y Modiwl
- Sgiliau Ymchwil Ymarferol (10 credyd)
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 1
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Professor Huw Morgan
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Rhagofynion
-
FG15510 neu FG15720 neu PH15510 neu PH15720
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
PH25720
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
PH35110
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
FG25720
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Adolygiad llenyddiaeth: 2 dudalen (Grŵp) | 15% |
| Asesiad Semester | Poster: 1 tudalen (Grŵp) | 15% |
| Asesiad Semester | Cyflwyniad Llafar: 15 munud (Grŵp) | 15% |
| Asesiad Semester | Adroddiad Unigol: 10 tudalen (Unigol) | 40% |
| Asesiad Semester | Ymarfer – Asesiad risg: 2 dudalen (Grŵp) | 15% |
| Asesiad Ailsefyll | Fel bennir gan y Bwrdd Arholi Adrannol. | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- 1. Chwilio am wybodaeth berthnasol i'r gwaith prosiect drwy ymchwil ar-lein o bapurau ac erthyglau gwyddonol, adolygu y llyfryddiaeth yn feirniadol a chyflwyno adolygiad gan ddefnyddio meddalwedd llyfryddiaeth pwrpasol.
- 2. Trefnu a chymryd rhan mewn prosiect heb lawer o fewnbwn gan staff addysgu, gan arddangos sgiliau labordy a dadansoddi a ddatblygwyd yn ystod y cwrs.
- 3. Casglu data drwy arbrawf neu adnoddau ar-lein gan arddangos ymwybyddiaeth o weithrediad yr offerynnau a'u graddnodiad.
- 4. Dadansoddi, dehongli a gwerthuso data arbrofol.
- 5. Rhannu canlyniadau arbrawf a'i ganlyniadau mewn cyflwyniad llafar, poster ac adroddiad ffurfiol.
- 6.Ffurfio asesiad risg ar gyfer gwaith arbrofol.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl yn bont rhwng gwaith labordy blwyddyn gyntaf a phrosiectau blwyddyn olaf. Mae'n rhoi profiad i fyfyrwyr o ofynion ymchwil ffiseg ymarferol. Caiff y myfyrwyr eu cyflwyno i'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer prosiectau blwyddyn olaf a byddant yn datblygu'r rhain drwy weithio ar brosiect gosod mewn tîm bychan (o bedwar neu bump fel arfer). Bydd y myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth o gynllunio a gweithredu ar brosiect, technegau offeryniaeth a chyfrifiadura, asesu risg, chwilio'r lenyddiaeth, dadansoddi a dehongli data. Byddant yn cyfathrebu eu gwaith-prosiect a'r canlyniadau drwy boster, cyflwyniad llafar ac adroddiad ffurfiol.
Cynnwys
Caiff y myfyrwyr eu cyflwyno i:
- Chwiliadau llyfrgell a rhyngrwyd, meddalwedd cyfeiriadau, darllen ac ysgrifennu papurau gwyddonol.
- Technegau dadansoddi a chyfrifiadurol ar destunau megis prosesu delweddau, modelu ac efelychu.
- Offeryniaeth a data o adnoddau amrywiol.
- Diogelwch mewn gwaith prosiect yn cynnwys Asesu Risg ac eitemau megis COSHH, DSEAR, diogelwch laser a phelydredd.
Mae'r myfyrwyr yn gweithio mewn timau (o bedwar neu bump fel arfer) ar brosiect gosod. Mae angen iddynt gymhwyso'r sgiliau a ddatblygir yn y modiwl i ymchwilio cefndir y prosiect, cynllunio'r prosiect, datblygu strategaeth arbrofol, a dadansoddi a dehongli'r canlyniadau. Mae asesiad y gwaith prosiect yn cynnwys adolygiad llenyddiaeth, poster a chyflwyniad llafar gan y grŵp ac adroddiad ffurfiol gan yr unigolyn. Bydd y myfyrwyr hefyd yn cael eu hasesu ar ymarfer asesu risg ffurfiol.
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cydlynu ag erail | Mae myfyrwyr yn gweithio ar brosiect mewn timau bychain (o bedwar neu bump fel arfer). |
| Cyfathrebu proffesiynol | Bydd y myfyrwyr yn cyfathrebu eu gwaith prosiect drwy adolygiad llenyddiaeth, cyflwyniad llafar, poster ac adroddiad ffurfiol. |
| Datrys Problemau Creadigol | Mae datrys problemau yn sgil craidd mewn gwaith prosiect ffiseg. |
| Gallu digidol | Mae myfyrwyr yn ymchwilio i gefndir y prosiect gan ddefnyddio'r rhyngrwyd a chwiliadau llyfrgell, ac yn cyflwyno adolygiad llenyddiaeth gan ddefnyddio Endnote neu feddalwedd llyfryddiaeth tebyg. Mae'r myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfrifiadurol i ddadansoddi data ac yn defnyddio'r cyfleusterau sydd ar gael ar gyfer prosesu-geiriau a chyflwyniadau. |
| Meddwl beirniadol a dadansoddol | Disgwylir i'r myfyrwyr ymchwilio cefndir y gwaith, cyd-destun yr arbrofion a bod yn ymwybodol o'r llenyddiaeth berthnasol mwyaf diweddar. |
| Myfyrdod | Mae myfyrwyr yn datblygu a gwella eu perfformiad mewn set o sgiliau a ddefnyddir ar gyfer prosiectau blwyddyn-olaf i israddedigion. |
| Sgiliau Pwnc-benodol | Gwybodaeth o'r teclynnau ymchwil priodol e.e. rhaglennu cyfrifiadurol, offeryniaeth.Mae cymhwyso rhif yn angenrheidiol mewn dadansoddi data, yn cynnwys ansicrwydd mewn data a'u lledaeniad. |
| Synnwyr byd go iawn | Mae llawer o'r sgiliau a ddatblygir yn elfennau hanfodol o radd ffiseg ac yn y byd gwaith yn y dyfodol. Mae asesiad risg yn sgil a ellir ei drosglwyddo yn y gweithle. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6
Physics,Aberystwyth University, Physical Sciences Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622802 : +44 : +44 (0)1970 622021
phys@aber.ac.uk: phys@aber.ac.uk
