Prosiect (20 Credyd)
- Cod y Modiwl
- FG35620
- Teitl y Modiwl
- Prosiect (20 Credyd)
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 2
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Chris Finlayson
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Rhagofynion
-
FG15510 neu FG15720 neu PH15510 neu PH15720
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
PH35620
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Professor Huw Morgan
- Dr Chris Finlayson
- Professor Andrew Evans
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Cynnydd Prosiect: | 10% |
| Asesiad Semester | Adolygiad Llenyddiaeth: 500 o eiriau | 15% |
| Asesiad Semester | Chwiliad Llenyddiaeth a Chynllun Prosiect: 500 o eiriau | 15% |
| Asesiad Semester | Cyflwyniad Llafar (Yn Gymraeg): | 15% |
| Asesiad Semester | Adroddiad Terfynol: | 45% |
| Asesiad Ailsefyll | Adolygiad Llenyddiaeth: 500 o eiriau | 15% |
| Asesiad Ailsefyll | Cyflwyniad Llafar (Yn Gymraeg): | 15% |
| Asesiad Ailsefyll | Cynnydd Prosiect: | 10% |
| Asesiad Ailsefyll | Adroddiad Terfynol: | 45% |
| Asesiad Ailsefyll | Chwiliad Llenyddiaeth a Chynllun Prosiect: 500 o eiriau | 15% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Ymchwilio problem wyddonol benodol sy'n berthnasol i ffiseg.
- Adnabod, gwerthuso a chrynhoi y llenyddiaeth wyddonol mewn maes dewisol.
- Llunio a gweithredu cynllun prosiect gan adnabod yr adnoddau sydd eu hangen.
- Crynhoi eu canfyddiadau mewn adroddiad cynhwysfawr.
- Cyflwyno ac amddiffyn y gwaith ar lafar..
Disgrifiad cryno
Prosiect yw'r modiwl hwn lle mae myfyrwyr yn ymchwilio i broblem o dan oruchwyliaeth aelod o'r staff academaidd. Gall natur y broblem fod yn arbrofol, damcaniaethol, dadansoddi data, offer neu fodelu cyfrifiadurol. Mae'r modiwl ar gael i fyfyrwyr sy'n dilyn Anrhydedd Cyfun a Chynlluniau Gradd Prif bwnc/Is-bwnc.
Mae'r myfyrwyr fel arfer yn gweithio mewn parau neu ar eu pen eu hunain. Bydd pob myfyriwr yn rhoi cyflwyniad ac adroddiad. Mae anghenion labordy, cyfrifiadura, dadansoddi ayb y gwahanol brosiectau yn wahanol, ond fel canllaw dylai cyfanswm yr amser ar y prosiect fod yn 200 awr.
Cynnwys
Nod y modiwl hwn yw rhoi cyfle i fyfyrwyr gynnal ymchwiliad penagored o bwnc Ffiseg penodol. Dylai hyn ganiatau i'r myfyrwyr gymhwyso gwybodaeth a thechnegau y maent wedi'u dysgu yn y cwrs hyd yma. Rhoddir pwyslais ar ddeall a chymhwyso egwyddorion ffiseg sylfaenol.
Disgwylir i fyfyrwyr gynllunio a rheoli rhaglen astudio annibynnol, gydag arweiniad gan eu Goruchwylydd, ac i ysgrifennu adroddiad gwyddonol ffurfiol.
Bydd cyflwyniad llafar yn cael ei roi ar ddiwedd y modiwl i ddangos dealltwriaeth o egwyddorion sylfaenol y prosiect a'i gyd-destun ehangach.
Bydd goruchwylydd neu oruchwylydd cynorthwyol sy'n medru'r Gymraeg. Anogir y myfyrwyr i gyflawni cymaint o'r modiwl ag sy'n bosibl yn Gymraeg, ond mae disgwyl iddynt gyflwyno'r Cynllun Prosiect a'r Cyflwyniad Llafar yn Gymraeg.
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Meddwl beirniadol a dadansoddol | Critical and analytical thinking |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6
Physics,Aberystwyth University, Physical Sciences Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622802 : +44 : +44 (0)1970 622021
phys@aber.ac.uk: phys@aber.ac.uk
