Prosiect (40 Credyd)

Cod y Modiwl
FG37500
Teitl y Modiwl
Prosiect (40 Credyd)
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Semester
Semester 1 Dysgwyd dros 2 semester
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Dr Chris Finlayson
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Rhagofynion
FG25720 neu PH25720
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
FG35620
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
PH37040
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
PH37540
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
PH35620
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
FG37040
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Professor Huw Morgan
Dr Rachel Cross
Dr Chris Finlayson
Professor Andrew Evans

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Chwiliad llenyddiaeth (Semester 1): 5%
Asesiad Semester Canlyniadau Cychwynnol (Semester 2): 5%
Asesiad Semester Cynllun Prosiect (Semester 1): 5%
Asesiad Semester Marc cynnydd (Semester 2): 10%
Asesiad Semester Cyflwyniad Llafar (Semester 2): 15%
Asesiad Semester Arolwg Llenyddiaeth (Semester 1): 15%
Asesiad Semester Adroddiad Terfynol (Semester 2): 45%
Asesiad Ailsefyll Fel bennir gan y Bwrdd Arholi Adrannol: 100%

Canlyniadau Dysgu

  1. Ar ddiwedd y modiwl, dylai'r myfyrwyr fedru: 1. Ymchwilio problem wyddonol benodol sy'n berthnasol i ffiseg. 2. Adnabod, ac adolygu'n feirniadol llenyddiaeth wyddonol mewn maes dewisol. 3. Llunio cynllun prosiect a'i weithredu ar sail dealltwriaeth dda o'r ffiseg dan sylw ac o'r llenyddiaeth cefndir. 4. Adnabod adnoddau i ymgymryd â phrosiect gwyddonol. 5. Crynhoi eu canfyddiadau mewn adroddiad cynhwysfawr. 6. Cyflwyno ac amddiffyn y gwaith ar lafar.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn ar darparu prosiect blwyddyn olaf i fyfyrwyr BSc a phrosiect canolradd i fyfyrwyr MPhys. Bydd yr holl fyfyrwyr yn ymgymryd a phrosiect a byddant yn gweithio mewn parau dan gyfarwyddyd eu goruchwylydd prosiect personol, ac yn cyflwyno eu canlyniadau mewn cyflwyniad llafar ac adroddiad prosiect terfynol unigol. Bydd goruchwylydd neu oruchwylydd cynorthwyol sy'n medru'r Gymraeg. Anogir y myfyrwyr i gyflawni cymaint o'r modiwl ag sy'n bosibl yn Gymraeg, ond mae disgwyl iddynt gyflwyno'r Cynllun Prosiect a'r Cyflwyniad Llafar yn Gymraeg. Cynlluniwyd nifer o gerrig milltir (strategaeth chwilio llenyddiaeth, adolygiad llenyddiaeth llawn, cynllun prosiect a dogfen canlyniadau rhagarweiniol) i gadw ffocws y prosiect ac i sicrhau bod y baich gwaith yn cael ei ddosbarthu'n weddol hafal drwy'r flwyddyn. Mae prosiectau gwahanol angen pwysiad gwahanol o waith labordy, cyfrifiaduro, dadansoddi, a.y.b., ond fel canllaw dylai'r cyfanswm amser ar y prosiect fod yn 400 awr.

Nod

Mae'r myfyrwyr yn dysgu i ymchwilio problem wyddonol neilltuol o'u dewis mewn dyfnder, gan wneud defnydd llawn o'r llenyddiaeth wyddonol. Maent yn gyfrifol am gynllunio a rheoli eu prosiect, a byddant yn defnyddio dulliau cyffredin o gyflwyno eu canlyniadau gwyddonol i'r gymuned ar ffurf adroddiadau llafar ac ysgrifenedig.

Cynnwys

Cyfnod chwiliad y llenyddiaeth (chwiliad llenyddiaeth ac adolygiad)
Cyfnod cynllunio (cynllun prosiect, adnoddau)
Cyfnod arbrofol (gwaith arbrofol, dogfen canlyniadau rhagarweiniol)
Cyfnod lledaenu (cyflwyniad llafar, adroddiad llafar)

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Datrys Problemau Creadigol .

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6