Prosiect Llai

Cod y Modiwl
FGM5920
Teitl y Modiwl
Prosiect Llai
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Semester
Semester 1
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Dr Chris Finlayson
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Cyd-Ofynion
PHM5760
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
PHM5920
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Professor Huw Morgan
Dr Chris Finlayson
Professor Andrew Evans

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Cynnydd: (bydd naill ai y goruchwylydd yn siarad Cymraeg, neu caiff aelod o staff sy'n medru'r iaith ei g(ch)lustnodi i ddarparu cefnogaeth terminoleg law-yn-llaw gyda chyfarwyddyd y goruchwylydd.) 15%
Asesiad Semester Adroddiad ffurfiol yn cynnwys adolygiad o'r llenyddiaeth: a chynllun prosiect (oddeutu 2500 gair) (Gall unigolyn gyflwyno'i adroddiad yn Gymraeg pe byddai'n dymuno) 85%
Asesiad Ailsefyll Cynnydd: (bydd naill ai y goruchwylydd yn siarad Cymraeg, neu caiff aelod o staff sy'n medru'r iaith ei g(ch)lustnodi i ddarparu cefnogaeth terminoleg law-yn-llaw gyda chyfarwyddyd y goruchwylydd.) 15%
Asesiad Ailsefyll Adroddiad ffurfiol yn cynnwys adolygiad o'r llenyddiaeth: a chynllun prosiect (oddeutu 2500 gair) (Gall unigolyn gyflwyno'i adroddiad yn Gymraeg pe byddai'n dymuno) 85%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Ymchwilio problem wyddonol benodol sy'n berthnasol i ffiseg.
  2. Gwerthuso datblygiadau diweddar yn y maes ymchwil o ddiddordeb fel a gofnodir yn y llenyddiaeth a arfarnir.
  3. Trefnu a chydlynu eu gwaith er mwyn cynllunio a gweithredu prosiect ymchwil.
  4. Dehongli a thrafod eu canlyniadau yn nhermau gwybodaeth gyfredol o'r testun
  5. Cyflwyno ac amddiffyn eu gwaith mewn adroddiad ffurfiol ysgrifenedig.

Disgrifiad cryno

Mae'r prosiect yn cynnwys ymchwil i'r llenyddiaeth a chyfnod o gynllunio sy'n cael eu dilyn gan y prif waith prosiect. Fel arfer, mae'r myfyriwr yn gwneud y prosiect dan oruchwyliaeth aelod o staff academaidd o fewn un o'r grwpiau ymchwil yn yr adran. Caiff y canlyniadau eu dehonlgi a'u trafod yng nghyd-destun y wybodaeth gyfredol ar y tesutn ymchwil a geir o'r llyfryddiaeth a arfarnwyd, a chaiff y gwaith prosiect cyfan gan gynnwys yr adolygiad llenyddiaeth ei gyflwyno mewn adroddiad ysgrfenedig ffurfiol.

Cynnwys

Mae testun ymchwil gwahanol ar gyfer pob prosiect ond fel arfer bydd ym maes arbenigedd grŵp ymchwil Ffiseg Cysawd yr Haul

Mae'r modiwl yn rhedeg drwy gydol y semester a chaiff ei gefnogi gan diwtorialau wythnosol gyda'r goruchwylydd.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cyfathrebu Caiff yr adolygiad llenyddiaeth a darganfyddiadau'r prosiect eu cyfathrebu mewn adroddiad ffurfiol ysgrifenedig.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Disgwylir cyflwyniad proffesiynol o'r canlyniadau, sy'n ymarfer hanfodol ar gyfer y datblygiad i fod yn Ffisegydd proffesiynol.
Datrys Problemau Mae datrys problemau yn hanfodol i ymateb i'r canlyniadau cychwynnol ac i addasu'r strategaeth arbrofol yn unol â hyn.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae'r myfyrwyr yn gwella eu sgiliau dysgu a pherfformiad drwy adlewyrchu ar ganlyniadau eu gwaith labordy a chynllunio gwaith pellach.
Rhifedd Mae cynhwyso rhif yn ganolog i ddadansoddi data arbrofol, yn cynnwys trin cyfeilornadau
Sgiliau pwnc penodol Oes, ond mae'r manylion yn dibynnu ar y testun neilltuol.
Sgiliau ymchwil Mae angen sgiliau ymchwil a'r gallu i ymdrin â gwybodaeth fel cefndir i ddatblygu arbrofion a phrofi damcaniaethau.
Technoleg Gwybodaeth Mae defnyddio offer a chyfrifiaduron i ddadansoddi a chyflwyno data yn hanfodol ar gyfer prosiect Ffiseg.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7