Sgiliau Uwch Mewn Ffiseg

Cod y Modiwl
FGM6420
Teitl y Modiwl
Sgiliau Uwch Mewn Ffiseg
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Semester
Semester 1
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Dr Tom Knight
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Rhagofynion

Rhaid i fyfyrwyr fod yn gyfarwydd ag iaith raglennu.
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
PHM6420
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Professor Huw Morgan

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Tasg Cyfathrebu Ysgrifenedig: 1000 Words 20%
Asesiad Semester Tasg Rifiadol: 4 Awr 20%
Asesiad Semester Tasg Cyfathrebu Llafar: 1 Awr 20%
Asesiad Semester Adroddiad ar Ddulliau Rhifiadol: 2000 Words 40%
Asesiad Ailsefyll Tasg Cyfathrebu Llafar: 1 Awr 20%
Asesiad Ailsefyll Adroddiad ar Ddulliau Rhifiadol: 2000 Words 40%
Asesiad Ailsefyll Tasg Rifiadol: 4 Awr 20%
Asesiad Ailsefyll Tasg Cyfathrebu Ysgrifenedig: 1000 Words 20%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Dangos meistrolaeth ar dechnegau rhifiadol ar gyfer modelu systemau ffisegol
  2. Defnyddio technegau uwch ar gyfer cyfrifiadura a dadansoddi gwyddonol
  3. Cyfansoddi adroddiad ysgrifenedig ar dechnegau cymhwysol a'u canlyniadau
  4. Cyflwyno syniadau cymhleth trwy drafodaeth ysgrifenedig a llafar
  5. Gwerthuso cyhoeddiadau cyfnodolion gwyddonol yn feirniadol

Disgrifiad cryno

Mae ymchwil cyfoes yn aml yn gofyn am gymhwyso dulliau rhifiadol i ddatrys problemau mewn ffiseg. Mae hefyd yn gofyn am y gallu i gyfathrebu a chyflwyno syniadau a chanlyniadau yn glir. Mae'r modiwl hwn yn cyfuno cymhwyso technegau rhifiadol a dulliau cyfathrebu i ddatblygu'r sgiliau sylfaenol.

Cynnwys

- Datrys systemau hafaliadau llinol gan ddefnyddio dadelfeniad LU(P).
- Datrys systemau gwasgarog o hafaliadau llinol gan ddefnyddio dulliau iterus
- Brasamcanu hafaliadau differol rhannol gan ddefnyddio dulliau gwahaniaeth meidraidd
- Datrys problemau gan ddefnyddio dulliau Monte Carlo
- Efelychu systemau mecanyddol ystadegol gan ddefnyddio dulliau metropolis Monte Carlo
- Cyflwyno technegau rhifiadol a chanlyniadau
- Arddulliau ysgrifennu a chyflwyniad llafar
- Dadansoddi papurau cyfnodolion ac adroddiadau

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cydlynu ag erail Trafodaeth, gwerthuso beirniadol a datrys problemau trwy gydol y modiwl
Cyfathrebu proffesiynol Drwy gydol y modiwl
Datrys Problemau Creadigol Drwy gydol y modiwl, yn enwedig o ran cymhwyso technegau rhifiadol i adeiladu modelau ffisegol
Gallu digidol Drwy gydol y modiwl
Meddwl beirniadol a dadansoddol Drwy gydol y modiwl
Myfyrdod Yn gynhenid i ddadansoddi, a chymhwyso adborth
Sgiliau Pwnc-benodol Rhaglennu, dulliau rhifiadol, cyfathrebu (ysgrifenedig a llafar), dadansoddi beirniadol

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7