Gwyddeleg Modern: Cyflwyniad
- Cod y Modiwl
- GC10100
- Teitl y Modiwl
- Gwyddeleg Modern: Cyflwyniad
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 1 Dysgwyd dros 2 semester
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Ben O Ceallaigh
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Ymarferion: Pecyn o ymarferion wythnosol. | 30% |
| Asesiad Semester | Arholiad Llafar: Arholiad llafar (10 munud). | 20% |
| Arholiad Semester | Arholiad: 2 Awr Arholiad 2 awr. | 50% |
| Asesiad Ailsefyll | Arholiad Llafar: Arholiad llafar (10 munud). | 20% |
| Asesiad Ailsefyll | Ymarferion: Pecyn o ymarferion wythnosol. | 30% |
| Arholiad Ailsefyll | Arholiad: 2 Awr Arholiad 2 awr. | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- 1. Byddwch yn gallu defnyddio'r ferf 'bod' yn yr Wyddeleg yn yr amser presennol, yr amser gorffennol, a'r amser dyfodol. 2. Byddwch yn gallu defnyddio'r enw yn y cyflwr enwol a'r cyflwr dadiol.
- 3. Byddwch yn gallu defnyddio'r rhagenwau personol yn gywir. 4. Byddwch yn gallu defnyddio'r ferf reolaidd a'r ferf afreolaidd yn yr amser presennol, gorffennol a dyfodol.
- 5. Byddwch yn gallu defnyddio rhifolion a dweud yr amser. 6. Byddwch yn gallu defnyddio rhai o gystrawennau'r berfenw.
- 7. Byddwch yn gallu defnyddio ambell gystrawen gypladol. 8. Byddwch yn gallu cynnal sgwrs syml yn yr Wyddeleg gan ddefnyddio'r pwyntiau gramadegol a chystrawennol uchod.
Disgrifiad cryno
Cyflwynir teithi sylfaenol Gwyddeleg Modern gan bwysleisio ynganiad Conamara. Bydd myfyrwyr yn cyrraedd safon A2 (CEFR; Common European Framework of Reference for Languages).
Cynnwys
1. Cystrawen sylfaenol y frawddeg
2. Y ferf ‘bod’: presennol; gorffennol; dyfodol
3. Berfau rheolaidd/afreaolaidd: presennol; gorffennol; dyfodol
4. Cystrawen yr enw a’r ansoddair
5. System treigliadau’r Wyddeleg
6. Yr arddodiaid; defnydd o’r arddodiaid pwysicaf, ynghyd â’r ffurfiau personol.
7. Y cyplad a’i gystrawen.
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Trafod materion gramadegol yn y gweithdai ; medru egluro gwallau gramadegol yn yr aseiniadau ac yn yr arholiad. |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd y gweithdai yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod ymarferion iaith a darnau i’w cyfieithu; bydd y pecyn o dasgau yn caniatáu i fyfyrwyr fesur eu perfformiad a’u datblygiad personol. |
| Datrys Problemau | Ymateb i heriau technegol y rheolau gramadegol a’r ymarferion gramadegol unigol; anelu at gywirdeb gramadegol. |
| Gwaith Tim | Ceir cyfle i drafod mewn grŵp yn ystod gweithdai. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd y gweithdai yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod ymarferion iaith a darnau i’w cyfieithu; bydd y pecyn o dasgau yn caniatáu i fyfyrwyr fesur eu perfformiad a’u datblygiad personol. |
| Rhifedd | Amherthnasol. |
| Sgiliau pwnc penodol | Mae’r sgiliau gramadegol a ddatblygir yn rhai trosglwyddadwy a fydd o ddefnydd i fyfyrwyr yn y brifysgol ac yn y gweithle. |
| Sgiliau ymchwil | Ymchwilio er mwyn atgyfnerthu’r rheolau gramadegol a ddysgir yn y dosbarth. |
| Technoleg Gwybodaeth | Defnyddir rhaglen prosesu geiriau i gynhyrchu’r tasgau. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4
Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Welsh and Celtic Studies,Aberystwyth University, Parry-Williams Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622137 : +44 : +44 (0)1970 622021
cymraeg@aber.ac.uk: cymraeg@aber.ac.uk
Welsh and Celtic Studies,Aberystwyth University, Parry-Williams Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622137 : +44 : +44 (0)1970 622021
cymraeg@aber.ac.uk: cymraeg@aber.ac.uk
