Cymru a'r Celtiaid
- Cod y Modiwl
- GC11820
- Teitl y Modiwl
- Cymru a'r Celtiaid
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 2 Dysgwyd dros 2 semester
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Simon Rodway
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
IR11820
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Dr Cathryn Charnell-White
- Dr Llewelyn Hopwood
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Traethawd: 1500 o eiriau | 40% |
| Asesiad Semester | Cyflwyniad: 10 Munud | 10% |
| Asesiad Semester | Arholiad Agored: Aseiniad takeaway i'w gwblhau dros 7 niwrnod. 1500 o eiriau | 50% |
| Asesiad Ailsefyll | Cyflwyniad: Gellid cyflwyno recordiad i'w asesu. 10 Munud | 10% |
| Asesiad Ailsefyll | Arholiad Agored: Aseiniad takeaway i'w gwblhau dros 7 niwrnod. 1500 o eiriau | 50% |
| Asesiad Ailsefyll | Traethawd: 1500 o eiriau | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- gwahaniaethu rhwng y ffyrdd y defnyddir y term ‘Celtaidd’ mewn nifer o ddisgyblaethau gan gynnwys ieithyddiaeth, archeoleg a hanes
- adnabod datblygiad cronolegol y term ‘Celtaidd’ ers ei ddigwyddiad cyntaf yn y ffynonellau Clasurol
- adnabod y prif gysyniadau sy’n amgylchynu’r bobl a adwaenir fel y Celtiaid, a gallu pwyso a mesur y dystiolaeth sy’n ymwneud â hwy yn feirniadol
- trafod nifer o safbwyntiau theoretig megis strwythuriaeth ac ôl-drefedigaetholaeth fel y maent yn berthnasol i’r cysyniad o ddiwylliant Celtaidd
Disgrifiad cryno
ae’r modiwl hwn yn dadansoddi a herio cysyniadau am yr hen Geltiaid a’u perthnasedd yn y byd modern. Mae’n rhoi fframwaith deallusol i ystyried pob math o gwestiynau ym maes Astudiaethau Celtaidd Dadansoddir y term ‘Celt’, a gofynnir y cwestiwn ‘Pwy oedd yr hen Geltiaid?’ Pa fathau o dystiolaeth y gellir eu defnyddio i ateb hyn, a beth yw’r problemau? A yw’r Gwyddelod a’r Cymry yn ‘Geltiaid’? Sut y datblygodd syniadau modern am y Celtiaid, a sut y maent wedi’u (camd)defnyddio? Trafodir y cwestiwn o barhad Celtaidd? Dadansoddir disgrifiadau o siaradwyr ieithoedd Celtaidd dros y canrifoedd. Yn aogystal, trafodir crefydd Geltaidd baganaidd a sefydliadau ‘Celtaidd’ honedig megis derwyddon a beirdd.
Cynnwys
• Yr ieithoedd Celtaidd I: Rhagymadrodd
• Yr ieithoedd Celtaidd II: Pryd a ble cawsant eu siarad?
• Cwestiynu Celtigrwydd a ‘Cheltosgeptigiaeth’
• Problemau Celtigrwydd: tystiolaeth iaith, archeoleg, hanes a geneteg
• Brythoniaid, Gwyddelod a Cheltiaid
• Ailddarganfod y berthynas rhwng yr ieithoedd Celtaidd
• ‘Creu’ Celtigrwydd I: etifeddiaeth yr awduron Clasurol
• ‘Creu’ Celtigrwydd II: Rhamantiaeth
• Yr Hen Geltiaid yn eu geiriau eu hun
• Y Brythoniaid a’r Gwyddelod yn eu geiriau eu hun
• Parhad Celtaidd I: fframwaith theoretig
• Parhad Celtaidd II: astudiaethau achos
• Sefydliadau Celtaidd I: crefydd Geltaidd baganaidd
• Sefydliadau Celtaidd II: derwyddon
• Sefydliadau Celtaidd III: beirdd
• Crynodeb ac adolygiad
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Ar bapur: mynegi yn glir syniadau a ddadansoddir mewn aseiniadau ysgrifenedig. Ar lafar: cyfrannu yn y dosbarth a thrafodaethau grŵp. |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Dim yn berthnasol |
| Datrys Problemau | Trwy ymwneud yn feirniadol (ar lafar ac ar bapur) â chysyniadau deallusol. |
| Gwaith Tim | Gweithio mewn grwpiau i baratoi cyflwyniadau |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Trwy ymchwil annibynnol; adborth eu tiwtoriaid ar waith ysgrifenedig a chyfraniadau llafar; ymwneud â chymheiriad yn ystod seminarau (neu gyflwyniad seminar); datblygu sgiliau trefnu amser/gwaith; myfyrio ar sgiliau cyflwyno a gwaith arall. |
| Rhifedd | Dim yn berthnasol |
| Sgiliau pwnc penodol | Ymwneud â chysyniadau cysylltiedig â Cheltigrwydd |
| Sgiliau ymchwil | Trwy gyfrwng ymchwil annibynnol ar gyfer aseiniadau ysgrifenedig (traethawd) a chyfraniadau i drafodaethau grŵp mewn darlithiau a seminarau. Hefyd trwy ddefnyddio ymchwil electronig ac adnoddau llyfryddol. |
| Technoleg Gwybodaeth | At ddibenion ymchwil (aseiniadau a chyflwyniadau); prosesu geiriau. Defnyddio ymchwil electronig ac adnoddau llyfryddol; cael mynediad i adnoddau’r modiwl ar y Bwrdd Du |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4
Welsh and Celtic Studies,Aberystwyth University, Parry-Williams Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622137 : +44 : +44 (0)1970 622021
cymraeg@aber.ac.uk: cymraeg@aber.ac.uk
