Gwyddeleg Modern (Iaith a Llên) 1+2
- Cod y Modiwl
- GC22120
- Teitl y Modiwl
- Gwyddeleg Modern (Iaith a Llên) 1+2
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 2 Dysgwyd dros 2 semester
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Ben O Ceallaigh
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Rhagofynion
-
Gwyddeleg Modern Lefel 1 - Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Ymarferion: 1500 o eiriau | 30% |
| Asesiad Semester | Prawf llafar: 10 Munud | 20% |
| Arholiad Semester | Arholiad ysgrifenedig: 2 Awr 2 Awr | 50% |
| Asesiad Ailsefyll | Tasgau: 1500 o eiriau | 30% |
| Asesiad Ailsefyll | Prawf Llafar: 10 Munud | 20% |
| Arholiad Ailsefyll | Arholiad atodol: 2 Awr 2 Awr | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Byddwch yn gallu cynnal sgwrs estynedig yn yr Wyddeleg.
- Bydd gennych wybodaeth ddigonol o ramadeg sylfaenol yr iaith, gan gynnwys ffurfiau amhersonol y ferf, y modd dibynnol, ffurfiau genidol yr enw, cymalau perthnasol, araith anuniongyrchol, ac amryw gystrawennau copiwla.
- Byddwch yn gallu dirnad darlithiau syml yn yr Wyddeleg.
- Byddwch yn gallu cymryd rhan mewn trafodaethau syml yn yr Wyddeleg.
- Byddwch yn gallu ysgrifennu traethodau syml yn yr Wyddeleg.
- Byddwch wedi darllen detholiadau o lenyddiaeth lafar y Gaeltacht ac o ryddiaith fodern.
- Byddwch yn gallu trafod cyd-destun cymdeithasol a chyd-destun llenyddol y detholiadau darllen hwn.
Disgrifiad cryno
Dosbarthiadau ieithyddol. Gramadeg yr Wyddeleg. Cyfieithu o'r Wyddeleg i'r Gymraeg a Chymraeg i'r Wyddeleg. Darllen a dehongli rhai o destunau llenyddol yr 20fed ganrif: barddoniaeth, storiau byrion. Hefyd astudiaeth o Hanes Llenyddiaeth Wyddeleg o 1600 hyd heddiw; a detholion o'r llenyddiaeth honno.
Nod
Mae'r modiwl hwn yn caniatau i ddechreuwyr ddatblygu eu rhyglder yn yr Wyddeleg.
Cynnwys
.Dosbarthiadau ieithyddol. Gramadeg yr Wyddeleg. Cyfieithu o'r Wyddeleg i'r Gymraeg a Chymraeg i'r Wyddeleg. Darllen a dehongli rhai o destunau llenyddol yr 20fed ganrif: barddoniaeth, storiau byrion. Hefyd astudiaeth o Hanes Llenyddiaeth Wyddeleg o 1600 hyd heddiw; a detholion o'r llenyddiaeth honno.
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cydlynu ag erail | Ymarfer yr iaith gyda'r tiwtor a myfyrwyr eraill. |
| Datrys Problemau Creadigol | Bydd myfyrwyr yn cymhwyso eu gwybodaeth ramadegol a geirfaol i ddatrys heriau gramadegol. |
| Gallu digidol | Prosesu geririau a defnyddio meddalwedd i baratoi a chyflwyno gwaith |
| Myfyrdod | Bydd myfyrwyr yn adfyfyrio ar eu cynnydd ieithyddol yn ystod y modiwl. |
| Sgiliau Pwnc-benodol | Gwybodaeth arbenigol o ierfa a gramadeg yr Wyddeleg |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5
Welsh and Celtic Studies,Aberystwyth University, Parry-Williams Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622137 : +44 : +44 (0)1970 622021
cymraeg@aber.ac.uk: cymraeg@aber.ac.uk
