Llunio Hanes
- Cod y Modiwl
- HA20120
- Teitl y Modiwl
- Llunio Hanes
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 1
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Professor Iwan Morus
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
HY20120
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Professor Iwan Morus
- Dr Yi Li
- Dr Arddun Arwyn
- Dr Eryn White
- Dr Rhun Emlyn
- Dr Steve Thompson
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Traethawd ysgrifenedig 1: 2000 o eiriau | 50% |
| Asesiad Semester | Traethawd ysgrifenedig 2: 2000 o eiriau | 50% |
| Asesiad Ailsefyll | Traethawd ysgrifenedig 2: 2000 o eiriau | 50% |
| Asesiad Ailsefyll | Traethawd ysgrifenedig 1: 2000 o eiriau | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Asesu sut a pham y daeth hanes yn ddisgyblaeth academaidd modern ac adnabod prif nodweddion hanesyddiaeth proffesiynol.
- Arddangos ymwybyddiaeth o’r modd y mae haneswyr wedi mynd i’r afael â chwestiynau a phroblemau hanesyddol gwahanol.
- Ystyried ysgrifau hanesyddol a ddefnyddir ar fodiwlau eraill mewn cyd-destun ehangach.
- Arddangos eu bod yn gyfarwydd â thueddiadau pwysig yn yr astudiaeth o hanes dros amser a dylanwad haneswyr ac ysgolion o feddwl penodol.
- Arddangos gallu i ystyried amrywiaeth o dystiolaeth wrth drafod hanesyddiaeth a defnyddio’r dystiolaeth i lunio dadleuon effeithiol
Disgrifiad cryno
Mae hanes fel disgyblaeth wedi newid yn gyson, gyda sawl athroniaeth, agwedd a methodoleg yn datblygu ymysg ymchwilwyr ac awduron. Bwriad y modiwl yw archwilio’r datblygiadau hyn trwy ystyried nifer o gwestiynau allweddol y mae haneswyr wedi ceisio eu hateb. Ystyrir sut mae cymdeithasau’r gorffennol wedi gweld hanes, yr amrywiol ysgolion o feddwl hanesyddol a’r modd y maent wedi ceisio ateb cwestiynau neu broblemau hanesyddol penodol.
Nod
Bwriad y modiwl yw gosod hanes academaidd modern yn ei gyd-destun deallusol a chymdeithasol. Anogir myfyrwyr i ystyried sut mae haneswyr yn mynd ati i ymchwilio ac ysgrifennu hanes, gan osod sylfaen i’w gwaith mewn modiwlau sy’n fwy penodol yn eu cyfnod o astudiaeth. Ystyrir nifer o heriau y mae haneswyr wedi eu hwynebu a’r modd y mae haneswyr wedi ceisio ateb cwestiynau gwahanol. Nod y modiwl yw datblygu ymwybyddiaeth myfyrwyr hanes o gyd-destun ehangach eu disgyblaeth a’u hannog i gymhwyso’r ymwybyddiaeth hwn ar gyfer gweddill eu hastudiaethau hanesyddol.
Yn y gorffennol dysgwyd y darlithoedd yn Saesneg gyda seminarau Cymraeg. Y dymuniad yw sicrhau y dysgir y modiwl yn gyfangwbl yn Gymraeg a newid y dulliau dysgu fod bod llai o ddarlithoedd a mwy o gyfle i fyfyrwyr ystyried y prif gysyniadau mewn modd ymarferol mewn gweithdai.
Cynnwys
Darlithoedd
Ceir deuddeg darlith yn y modiwl hwn; gallant amrywio o flwyddyn i flwyddyn ond byddant yn dilyn patrwm penodol. Bwriad y ddarlith gyntaf yw cyflwyno’r syniad o hanesyddiaeth. Ystyrir beth yw hanesyddiaeth a pham fod ei astudio’n bwysig. Yna ceir dwy ddarlith yn ystyried sut mae cymdeithasau’r gorffennol wedi gweld, ac wedi defnyddio, hanes wrth i’r term a’r dulliau o astudio’r pwnc ddatblygu dros amser. Ffurfia’r rhain gefndir ar gyfer cyfres o saith o ddarlithoedd a ystyria sut mae haneswyr wedi ceisio ateb cwestiynau neu broblemau hanesyddol penodol. Bydd y gyfres hon yn astudio ysgolion o feddwl hanesyddol (megis haneswyr Marcsaidd), datblygiad ffyrdd gwahanol o edrych ar y gorffennol (megis hanes merched neu rhywedd), a dulliau gwahanol a ddefnyddir gan haneswyr (megis hanes llafar). Ar ddiwedd y modiwl bydd darlith yn edrych yn benodol ar hanesyddiaeth Cymru cyn y ddarlith olaf fydd yn cloi’r modiwl.
Gweithdai a Phanel Drafod
Bydd chwech gweithdy yn y modiwl, pob un yn trafod un o’r ffyrdd y mae haneswyr wedi ceisio ateb un o’r cwestiynau neu broblemau a drafodwyd yn y darlithoedd. Bydd ffocws penodol ym mhob un ar sut mae’r syniadau wedi effeithio ar gyfnod neu bwnc penodol, ac felly gweld y cysyniadau hanesyddiaethol ar waith yn ymarferol.
Cynhelir y panel drafod ar ddiwedd y semester. Rhoddir cyfle i haneswyr amrywiol, gan gynnwys myfyrwyr ymchwil, sôn am sut maent wedi mynd i’r afael â phroblem neu gwestiwn hanesyddiaethol yn eu gwaith. Rhoddir cyfle i fyfyrwyr weld y syniadau a drafodwyd yn y modiwl ar waith gan yr haneswyr hyn.
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Trwy drafodaeth mewn gweithdai a throsglwyddo gwybodaeth yn ysgrifenedig mewn traethawd ac arholiad |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu sgiliau trosglwyddadwy megis sgiliau rheoli amser, sgiliau cyfathrebu a sgiliau dadansoddi. |
| Datrys Problemau | Disgwylir i fyfyrwyr fedru trin a thrafod problemau hanesyddol ac ymgymryd ag ymchwil briodol wrth baratoi ar gyfer gweithdau a gwaith ysgrifenedig. |
| Gwaith Tim | Cymryd rhan mewn gweithgareddau gweithdy, deall sut i weithredu ar y cyd gydag aelodau eraill o’r grŵp a gwerthuso eu cyfraniad. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Datblygu sgiliau trefnu drwy reoli amser a chyflwyno gwaith yn brydlon. Gwneud defnydd o adborth ar waith a gyflwynir er mwyn gwella’r perfformiad |
| Sgiliau pwnc penodol | Datblygu ymwybyddiaeth o’r modd y mae haneswyr wedi trafod hanes yn y gorffennol a dylai hyn eu cynorthwyo wrth iddynt ddarllen ar gyfer modiwlau eraill. |
| Sgiliau ymchwil | Defnyddio amryw o destunau gwahanol a’u hasesu er mwyn ffurfio barn feirniadol ar gyfer y traethawd a’r arholiad. |
| Technoleg Gwybodaeth | Caiff myfyrwyr eu hannog i ddarganfod deunydd priodol arlein ac ar systemau a geir drwy’r llyfrgell. Bydd disgwyl iddynt baratoi eu gwaith ar gyfrifiadur a defnyddio Blackboard. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5
History and Welsh History,Aberystwyth University, International Politics Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 621917 : +44 : +44 (0)1970 622021
history-enquiries@aber.ac.uk: history-enquiries@aber.ac.uk
