Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
HP37520
Teitl y Modiwl
Bywyd a Gwaith ym Meysydd Glo Prydain, 1914-1948 (Rhan 2)
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Co-Requisite
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Arholiad agored  2500 o eiriau  50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd  2500 o eiriau  50%
Asesiad Semester Arholiad agored  2500 o eiriau  50%
Asesiad Semester Traethawd  2500 o eiriau  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Dangos ymwybyddiaeth o hanes cymdeithasol, economaidd, gwleidyddol a diwydiannol cymunedau meysydd glo Prydain yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif.

Gwerthfawrogi’r gwahaniaethau a chyffelybiaethau rhwng y gwahanol feysydd glo dros y gyfnod dan sylw ac effaith gwladoli’r diwydiant yn y 1940au.

Deall a gwerthuso’n feirniadol wahanol drafodaethau a dadansoddiadau o gymunedau glofaol a geir mewn ffynonellau cyfoes a gwaith hanesyddiaethol.

Darllen, dadansoddi a gwerthuso amrywiaeth o ffynonellau hanesyddol gwreiddiol, gan gynnwys papurau newydd, delweddau, hunangofiannau, ffilmiau dogfen, a recordiadau hanes llafar.

Disgrifiad cryno

Y mae’r modiwl hwn, a’r modiwl cysylltiedig yn y semester cyntaf, yn defnyddio amrywiaeth o ffynonellau gwreiddiol i astudio hanes unigryw cymunedau meysydd glo Prydain yn y ganrif cyn gwladoliad y diwydiant ym 1947. Yn yr ail semester, bydd y modiwl yn ystyried hanes y diwydiant a’r cymunedau glofaol mewn cyfnod cythryblus pan effeithiwyd ar y berthynas rhwng cyflogwyr a glowyr gan ryfel llwyr, dirwasgiad economaidd, twf gwleidyddiaeth adain chwith, a streiciau chwerw.
Byddwn yn dechrau trwy ystyried amodau gwaith newydd yn y pwll glo, a ddaeth oherwydd y broses o fecaneiddio, a’r amodau gwaith yn y tŷ a brofwyd gan fenywod, yn ogystal â’r effeithiau o’r gwaith ar iechyd a chyflwr menywod a dynion. Byddwn yn symud ymlaen i astudio datblygiadau newydd yn y ffyrdd roedd cyflogwyr yn trin a rheoli eu gweithwyr cyn ystyried agweddau o ddiwylliant glowyr, gan gynnwys y ffyrdd y portreadwyd glowyr a’u cymunedau yn y celfyddydau. Yn olaf, byddwn yn astudio agweddau gwleidyddol y diwydiant glo, gan gynnwys streiciau, undebau llafur, gwleidyddiaeth adain chwith ac, yn olaf, gwladoli’r diwydiant yn 1947.

Nod

Y mae’r modiwl hwn, a’r modiwl cysylltiedig yn y semester cyntaf, yn cyflwyno hanes unigryw cymunedau meysydd glo Prydain yn ystod y ganrif cyn gwladoliad y diwydiant glo ym 1947. Defnyddir ystod eang o ffynonellau gwreiddiol i astudio gwaith a bywydau glowyr a’u teuluoedd yn y gwahanol feysydd glo ledled Prydain a bydd y profiadau hyn yn cael eu gosod mewn cyd-destun cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol ehangach. Bydd y modiwl hwn yn opsiwn arall i fyfyrwyr y drydedd flwyddyn sy’n gorfod dewis pwnc arbennig.

Cynnwys

Semester 2: 1914-1948

1. Dulliau Newydd Gwaith
2. Gwaith Menywod yn y Tŷ
3. Damweiniau, Clefydau ac Anabledd
4. Cyflogwyr: Tadolaeth
5. Glo a’r Celfyddydau: Ffilmiau, nofelau a dramâu
6. Cronfa Lles Glowyr
7. Undebaeth Llafur: Heriau o’r chwith a’r dde
8. Streiciau
9. Gwleidyddiaeth: Y Blaid Lafur a’r Blaid Gomiwnyddol
10. Gwladoli’r Diwydiant Glo

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Trwy drafodaeth mewn seminar a throsglwyddo gwybodaeth mewn traethawd ac arholiad
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu sgiliau trosglwyddadwy megis sgiliau rheoli amser, sgiliau cyfathrebu a sgiliau dadansoddi
Datrys Problemau Disgwylir i fyfyrwyr fedru trin a thrafod problemau hanesyddol ac ymgymryd ag ymchwil briodol wrth baratoi ar gyfer seminarau a gwaith ysgrifenedig
Gwaith Tim Cymryd rhan mewn gweithgareddau seminar a deall sut i weithredu ar y cyd gydag aelodau eraill o’r grŵp.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Datblygu sgiliau trefnu drwy reoli amser a chyflwyno gwaith yn brydlon. Gwneud defnydd o adborth ar waith a gyflwynir er mwyn gwella’r perfformiad
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Datblygu’r gallu i werthuso ffynonellau perthnasol i’r cyfnod a’r maes ynghyd â’r gallu i ymdrin yn feirniadaol â’r llenyddiaeth eilaidd.
Sgiliau ymchwil Defnyddio amryw o gyfryngau gwahanol er mwyn ffurfio barn feirniadol.
Technoleg Gwybodaeth Bydd defnydd o adnoddau arlein yn rhan hanfodol o ddulliau dysgu’r modiwl hwn a bydd felly’n rhoi cyfle i fyfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau wrth, er enghraifft, gwneud defnydd o fyrddau trafod ar Blackboard.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6