Tebygoleg
- Cod y Modiwl
- MT10310
- Teitl y Modiwl
- Tebygoleg
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 1
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Alexander Pitchford
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Rhagofynion
-
Mathemateg Safon Uwch (neu gyfartal). - Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
MA10310
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Dr Alexander Pitchford
- Mr Alan Jones
- Mrs Patience Jones
- Dr Tudur Davies
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Gwaith Cwrs: Marc yn seiliedig ar ymrwymiad, cyfranogiad ac aseiniadau a gyflwynir. | 20% |
| Arholiad Semester | Arholiad semester: 2 Awr Arholiad Ysgrifenedig 2 Awr | 80% |
| Asesiad Ailsefyll | Prawf Blackboard: | 20% |
| Arholiad Ailsefyll | Arholiad atodol: 2 Awr Arholiad Ysgrifenedig 2 Awr | 80% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Defnyddio gweithrediadau a nodiant setiau i ddisgrifio digwyddiadau a mesur eu tebygolrwydd.
- Mesur tebygolrwydd yn defnyddio canlyniadau llawn mor debygol mewn gofodau sampl cyfyngedig a pharhaol.
- Defnyddio ffwythiant dosraniad cronnol (cdf) hapnewidyn i fesur tebygolrwydd a chanraddau.
- Darganfod y cdf ar gyfer trawsnewidiadau syml o egwyddorion cyntaf.
- Disgrifio y berthynas rhwng y cdf a (i) y ffwythiant mas tebygolrwydd (pmf) a (ii) y ffwythiant dwysedd tebygolrwydd (pdf).
- Braslunio a disgrifio y pmf a pdf.
- Mesur y cymedr a'r amrywiant o ddosraniadau syml a'r ffwythiannau llinellol o hapnewidyn.
- Esbonio'r syniad o debygolrwydd amodol a'i ddefnyddio i fodelu sefyllfaoedd mwy cymhlyg.
- Defnyddio'r cysyniad o annibyniaeth mewn achosion syml yn cynnwys dilyniannau diddiwedd.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hwn yn cynnig sylfaen mewn tebygoleg ac yn rhagarweiniad angenrheidiol i unrhyw astudiaeth ddilynol o ystadegau mathemategol ac ymchwil weithredol. Rhoddir pwyslais ar fodelu wir sefyllfaoedd, gan gynnwys cyfrifon tebygolrwydd wedi'u seilio ar broblemau ystadegol. Bydd y technegau mathemategol sydd eu hangen yn cael eu cyflwyno neu eu hadolygu fel rhan annatod o'r cwrs.
Nod
I gyflwyno myfyrwyr i'r technegau angenrheidiol ar gyfer modelu a deall hap ac i ddatblygu'r allu i fesur tebygolrwydd a momentau o hapnewidion.
Cynnwys
1. DIGWYDDIADAU A TEBYGOLRWYDD: Gweithrediadau set elfennol; rheolau ar gyfer disgrifio digwyddiadau gyda phwyslais ar arbrofion a gofodau sampl cysylltiol; diagramau Venn; rhaniadau, Deddfau De Morgan. Rheol adiad tebygolrwydd; tebygolrwydd y cyflenwad.
2. CANLYNIADAU YR UN MOR DEBYGOL: Diffinio tebygolrwyddau ar ofodau sampl gyda canlyniadau yr un mor debygol a'u gilydd: arwahanol a di-dor. Trynewidiadau a chyfuniadau. Ffwythiannau o hapnewidynnau (monoton yn unig).
3. TEBYGOLRWYDD AMODOL: Diffiniad a chymhwysiadau syml. Diagramau canghennog; cymhwysiadau anffurfiol o Ddeddf Cyfanswm Tebygolrwyddau a Theorem Bayes; defnydd mewn problemau cyfuniadol; samplu gyda/hef amnewid. Annibynniaeth. Treialon Bernoulli, gemau anfeirdrol.
4. DOSRANIADAU TEBYGOLRWYDD: Ffwythiannau dosraniad cronnus: defnydd er mwyn cyfrifo tebygolrwyddau; canolrifau, canraddau; trawsnewidiadau (monoton) syml.
5. DOSRANIADAU ARWAHANOL: ffwythiannau mas tebygolrwydd; braslunio; enghraifftiau yn cynnwys Binomial a Geometrig.
6. DOSRANIADAU DI-DOR: Ffwythiannau dwysedd tebygolrwydd; braslunio; enghreifftiau yn cynnwys Pareto, Esbonyddol.
7. MOMENTAU: Gwerthoedd disgwyliedig X a ffwythiannau o X; cyfrifiadau ar gyfer dosraniadau syml; cymedr ac amrywiant aX + b.
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Addasrwydd a gwydnwch | Cymhwysedd a Gwydnwch: Bydd cwblhau tasgau (aseiniadau) i'r terfynau amser a osodir yn cynorthwyo â datblygiad personol. |
| Cyfathrebu proffesiynol | Cyfathrebu Proffesiynol: Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno datrysiadau i ymarferion gosodedig sydd wedi'u hysgrifennu yn glir. |
| Datrys Problemau Creadigol | Datrys Problemau yn Greadigol: Bydd yr aseiniadau'n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr i ddangos eu creadigrwydd er mwyn darganfod datrysiadau a datblygu eu sgiliau datrys problemau. |
| Gallu digidol | Medrusrwydd Digidol: Defnydd o Blackboard ac adnoddau rhyngrwyd. |
| Sgiliau pwnc penodol | Sgiliau penodol i’r pwnc: Mae’r modiwl yn datguddio myfyrwyr i bynciau mwy eang mewn mathemateg. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4
Mathematics,Aberystwyth University, Physical Sciences Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622802 : +44 : +44 (0)1970 622021
maths@aber.ac.uk: maths@aber.ac.uk
