Cynllunio Gyrfa a Datblygu Sgiliau Mathemategol

Cod y Modiwl
MT10700
Teitl y Modiwl
Cynllunio Gyrfa a Datblygu Sgiliau Mathemategol
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Semester
Semester 1 Dysgwyd dros 2 semester
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Dr Daniel Peck
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dr Kim Kenobi
Professor Simon Cox
Dr Tudur Davies
Dr Robert Douglas

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Bywgraffiad: Ysgifennu bywgraffiad byr o Fathemategydd 1000 Words 20%
Asesiad Semester Prawf: Gwerthuso prawf mathemategol yn feirniadol. 400 o eiriau 20%
Asesiad Semester Cynllunio Gyrfa: Paratoi CV neu broffil Linked-In ac ysgrifennu llythyr cyflwyniad ar gyfer cais am swydd 400 o eiriau 20%
Asesiad Semester Rhaglennu python: 200 o eiriau 20%
Asesiad Semester Cyflwyniad Unigol: ar bwnc mewn Mathemateg. 10 Munud 20%
Asesiad Ailsefyll Cynllunio Gyrfa: Paratoi CV neu broffil Linked-In ac ysgrifennu llythyr cyflwyniad ar gyfer cais am swydd 400 o eiriau 20%
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad Unigol: ar bwnc mewn Mathemateg. 10 Munud 20%
Asesiad Ailsefyll Prawf: Gwerthuso prawf mathemategol yn feirniadol. 400 o eiriau 20%
Asesiad Ailsefyll Rhaglennu python: 200 o eiriau 20%
Asesiad Ailsefyll Bywgraffiad: Ysgifennu bywgraffiad byr o Fathemategydd 1000 Words 20%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Gweithio’n unigol i ymchwilio a chyflwyno rhyw bwnc mewn Mathemateg.
  2. Defnyddio pecynnau meddalwedd er mwyn creu dogfennau syml fel Curriculum Vitae a chyflwyniad.
  3. Gwerthuso profion mewn Mathemateg yn feirniadol.
  4. Deall sut i ymgeisio am swydd, gan amlygu sgiliau a phrofiadau i gyflogwr posib.
  5. Ysgrifennu a dadfygio rhaglenni cyfrifiadurol er mwyn datrys problemau mathemategol a delweddu graffiau.

Disgrifiad cryno

Ar y modiwl hwn fe fydd myfyriwr yn trafod y sgiliau a’r paratoad sy’n angenrheidiol er mwyn cwblhau gradd mewn Mathemateg yn llwyddiannus. Fe fydd y rhain yn cael eu cyflwyno i bwnc pwysig o fathemateg, fel profion ffurfiol neu ddatrys problemau. Fe fydd myfyrwyr yn paratoi ac yn rhoi cyflwyniad byr ar bwnc mewn Mathemateg.

Caiff myfyrwyr eu cyflwyno i raglennu cyfrifiadurol trwy ystod o becynnau: meddalwedd prosesu geiriau, meddalwedd cyflwyniadau, taenlenni a rhaglennu ffurfiol yn Python. Byddwn yn defnyddio cysyniadau syml o fathemateg er mwyn arddangos defnydd syml o feddalwedd a’r sgiliau cysylltiedig yn y gweithle.

Bydd y Gwasanaethau Gyrfaoedd yn cynnig rhaglen ymwybyddiaeth gyrfaoedd, lle bydd pob myfyriwr yn paratoi llythyr cyflwyniad ac yn sefydlu Curriculum Vitae arlein. Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn timau er mwyn ymchwilio i’r gyrfaoedd sydd ar gael i raddedigion yn eu maes, a’r berthynas rhwng y sgiliau maent yn ei ddatblygu a’r gyrfaoedd hynny.

Cynnwys

Sgiliau Astudio ar gyfer Mathemategwyr: trafodaeth ar amgylcheddau dysgu a ffyrdd gwahanol o gyflwyno Mathemateg.

Pecynnau meddalwedd prosesu geiriau a chyflwyno (Latex, PowerPoint):
Cyflwyniad, dogfennau syml, fformatio, mynegiadau mathemategol, cyflwyniadau.

Prawf mathemategol: gwerthusiad critigol o ddulliau profi.

Cyflwyniad unigol ar bwnc mewn Mathemateg.

Rhaglen ymwybyddiaeth sgiliau, gan gynnwys cyngor ar baratoi llythyr cyflwyniad a
CV, wedi ei redeg gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd.

Taenlenni: trosolwg, mewnbynnu a fformatio gwybodaeth, fformiwlâu a ffwythiannau, trin a delweddu set ddata (mawr).

Rhaglennu: cyflwyniad sylfaenol i python ac egwyddorion rhaglennu cyfrifiadurol, gyda pheth delweddu.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cydlynu ag erail Disgwylir i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau yn ystod y gweithgareddau yn y dosbarth
Cyfathrebu proffesiynol Datblygir ac asesir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig yn yr aseiniadau ysgrifenedig a’r CV. Datblygir ac asesir sgiliau cyfathrebi ar lafar yn y cyflwyniadau.
Datrys Problemau Creadigol Datblygir sgiliau datrys problem yn y modiwl wrth ymdrin â phrofion, taenlenni a’r aseiniadau rhaglennu, ac wrth baratoi cyflwyniad ar bwnc mewn Mathemateg.
Gallu digidol Bydd myfyrwyr yn defnyddio pecynnau meddalwedd i gynhyrchu dogfennau syml, gweithio gyda thaenlen i wneud amryw o gyfrifiadau, cynhyrchu crynodebau, delweddu'r data a'r canlyniadau, ac ysgrifennu a dadfygio rhaglenni cyfrifiadurol i ddatrys problemau Mathemateg.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Mae sgiliau dadansoddol yn angenrheidiol er mwyn ymgymryd ag ymchwil ar gyfer yr aseiniad bywgraffiad a’r cyflwyniad unigol, ac wrth ymchwilio’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer swyddi gwahanol.
Sgiliau Pwnc-benodol Datblygir sgiliau mathemategol wrth werthuso profion. Bydd cysyniadau a thechnegau rhifiadol/delweddu yn cael eu hystyried mewn cysylltiad â thaenlenni a rhaglennu cyfrifiadurol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4