Algebra a Chalcwlws Pellach

Cod y Modiwl
MT11010
Teitl y Modiwl
Algebra a Chalcwlws Pellach
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Semester
Semester 2
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Dr Alexander Pitchford
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Rhagofynion
FG16210 neu MA10510 neu MT10510
Rhagofynion
MP10610 neu MT10610
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
MP11010
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dr Alexander Pitchford
Dr Tudur Davies

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Gwaith cwrs: Marc yn seiliedig ar ymrwymiad, cyfranogiad ac aseiniadau a gyflwynir. 20%
Arholiad Semester Arholiad semester: 2 Awr Arholiad ysgrifenedig 2 Awr 80%
Asesiad Ailsefyll Prawf Blackboard: 20%
Arholiad Ailsefyll Arholiad atodol: 2 Awr Arholiad ysgrifenedig 2 Awr 80%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Datrys systemau o hafaliadau llinellol;
  2. Defnyddio lluosymiau yn unol a chyfreithiau algebra matrics;
  3. Dadansoddi determinantau lluosymiau sgwar;
  4. Mesur deilliadau rhannol ffwythiannau a sawl hapnewidyn a sefydlu unfathiannau sy'n eu defnyddio;
  5. Mesur pwyntiau critigol ffwythiannau a sawl hapnewidyn;
  6. Dadansoddi lluosrifau cyfannol mewn cyfesurynnau hirsgwar;
  7. Dadansoddi lluosrifau cyfannol yn defnyddio hapnewidion gwahanol.

Disgrifiad cryno

Nod y modiwl hwn yw astudio sefyllfaoedd ble mae ffwythiannau sawl hapnewidyn yn codi'n naturiol mewn mathemateg. Mae ffwythiannau llinellol yn arwain at dechnegau i ddatrys hafaliadau llinellol a'r ddamcaniaeth matrics elfennol. Mae ffwythiannau aflinol yn arwain at astudiaeth o ddeilliadau a lluosrifau cyfannol.

Nod

I ddatblygu dealltwriaeth eglur o dechnegau ar gyfer astudio ffwythiannau â sawl hapnewidyn a'r allu i adnabod pryd mae modd defnyddio'r technegau hyn.

Cynnwys

1. ALGEBRA MATRICS: Gweithrediadau matrics (adiad, lluosiad sgalar, lluosiad matrics, trawsddodiad, gwrthdroad). Mathau arbennig o fatricsau (sero, unfathiant, croeslinol, trionglog, cymesur, cymesur sgiw, orthogonol). Cywerthedd rhes.
2. HAFALIADAU LLINOL: Systemau o hafaliadau llinol. Matrics cyfernodau, matrics estynedig. Gweithrediadau rhes elfennol. Dileu Gaussaidd a Gauss-Jordan.
3. DETERMINANTAU: Priodweddau determinantau. Cyfrifo determinantau.
4. DEILLIADAU RHANNOL: Ffwythiannau o amryw newidynnau. Deilliadau Rhannol. Differadwyedd a llinolu. Y rheol cadwyn. Pwyntiau critigol. Newid newidynnau - y Jacobian.
5. INTEGRYNNAU LLUOSOG: Symiau Riemann ac integrynnau pendant. Integrynnau dwbl mewn cyfesurynnau petryal; arwynebeddau. Amnewid mewn integrynnau lluosog.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Addasrwydd a gwydnwch Bydd cwblhau tasgau (aseiniadau) i'r terfynau amser a osodir yn cynorthwyo â datblygiad personol.
Cyfathrebu proffesiynol Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno datrysiadau i ymarferion gosodedig sydd wedi'u hysgrifennu yn glir.
Datrys Problemau Creadigol Bydd yr aseiniadau'n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr i ddangos eu creadigrwydd er mwyn darganfod datrysiadau a datblygu eu sgiliau datrys problemau.
Gallu digidol Defnydd o Blackboard ac adnoddau rhyngrwyd.
Sgiliau pwnc penodol Mae’r modiwl yn datguddio myfyrwyr i bynciau mwy eang mewn mathemateg.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4