Hafaliadau Differol
- Cod y Modiwl
- MT11210
- Teitl y Modiwl
- Hafaliadau Differol
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 2
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Adam Vellender
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Rhagofynion
-
MP10610 neu MT10610
- Rhagofynion
-
MA10510 neu MT10510
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
MA11210
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Dr Gwion Evans
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Gwaith Cwrs: Marc yn seiliedig ar ymrwymiad, cyfranogiad ac aseiniadau a gyflwynir. | 20% |
| Arholiad Semester | Arholiad: 2 Awr Arholiad Ysgrifenedig 2 Awr | 80% |
| Asesiad Ailsefyll | Prawf Blackboard: | 20% |
| Arholiad Ailsefyll | Arholiad atodol: 2 Awr Arholiad Ysgrifenedig 2 Awr | 80% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Datrys hafaliadau differol gradd gyntaf ac hafaliadau differol llinol trefn dau gydag amodau cychwynnol neu ffiniedig.
- Adeiladu model mathemategol syml.
Disgrifiad cryno
Gellid dadlau mai mathemateg yw'r ffordd mwyaf effeithlon a llwyddiannus o ddisgrifio'r byd go iawn. Pwrpas y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i'r syniad o fodelu mathemategol ac i ddatblygu'r sgiliau technegol ar gyfer datrys y problemau mathemategol sy'n codi mewn cymwysiadau. Bydd y maes llafur yn cynnwys technegau o integriad, hafaliadau differol gradd gyntaf ac hafaliadau differol llinol trefn dau. Bydd enghreifftiau yn cael eu cymryd o fioleg, economeg a ffiseg.
Nod
I ddatblygu'r sgiliau technegol a'r gallu i ddefnyddio calcwlws mewn cymwysiadau.
Cynnwys
1. HAFALIADAU DIFFEROL: Hafaliadau gradd gyntaf gyda newidynnau gwahanadwy. Hafaliadau gradd gyntaf homogenaidd a llinol. Hafaliadau llinol trefn dau gyda chyfernodau cyson. Penderfynu ar integrynnau neilltuol lle mae'r term an-homogenaidd yn bolynomial, ffwythiant cylchol neu'n ffwythiant esbonyddol. Y ddull o amrywio'r paramedrau. Problemau gwerth cychwynnol a ffin. Hafaliadau llinol o radd uwch gyda chyfernodau cyson. Trafodaeth o fodolaeth ac unigrywiaeth.
2. MODELU MATHEMATEGOL: Y defnydd o fodelau mathemategol i ddisgrifio a deall y byd go iawn. Differiad a chyfraddau newid. Dyfeisio hafaliadau differol i ddisgrifio ffenomenau sy'n ddibynnol ar amser, yn cynnwys:
- dynameg elfennol yn defnyddio rheolau mudiant Newton;
- dynameg poblogaethau;
- llif o wefr o gwmpas cylchedd trydannol syml.
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Addasrwydd a gwydnwch | Bydd cwblhau tasgau (aseiniadau) i'r terfynau amser a osodir yn cynorthwyo â datblygiad personol. |
| Cyfathrebu proffesiynol | Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno datrysiadau i ymarferion gosodedig sydd wedi'u hysgrifennu yn glir |
| Datrys Problemau Creadigol | Bydd yr aseiniadau'n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr i ddangos eu creadigrwydd er mwyn darganfod datrysiadau a datblygu eu sgiliau datrys problemau. |
| Gallu digidol | Defnydd o Blackboard ac adnoddau rhyngrwyd. |
| Sgiliau pwnc penodol | Mae’r modiwl yn datguddio myfyrwyr i bynciau mwy eang mewn mathemateg. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4
Mathematics,Aberystwyth University, Physical Sciences Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622802 : +44 : +44 (0)1970 622021
maths@aber.ac.uk: maths@aber.ac.uk
