Dadansoddiad Real
- Cod y Modiwl
- MT20110
- Teitl y Modiwl
- Dadansoddiad Real
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 1
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Robert Douglas
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Rhagofynion
-
MA11110 neu MT11110
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
MA20110
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Dr Gwion Evans
- Dr Robert Douglas
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Arholiad Semester | 2 Awr (Arholiad Ysgrifenedig) | 100% |
| Arholiad Ailsefyll | 2 Awr (Arholiad Ysgrifenedig) | 100% |
Canlyniadau Dysgu
- Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr: fod yn gallu, 1. pennu cyfresi Fourier mewn ffwythiannau integradwy a chyfnod mympwyol; 2. cymhwyso technegau cyfres Fourier, i symiant cyfresi anfeidrol; 3. disgrifio syniadau dilyniant a differadwyedd ar gyfer ffwythiannau sydd a mwy nag un newidyn; 4. penderfynnu os yw ffwythiannau sydd a dau neu fwy o newidynau yn barhaol a differadwy 5. canfod os yw cyfresi anfeidrol yn gydgyfeiriol drwy ddefnyddio profion cydgyfeiriant amrywiol; 6. disgrifio'r syniad o gydgyfeiriant unffurf mewn cyfres o ffythiannau; 7. defnyddio Weierstrass M-test i brofi cydgyfeiriant unffurf cyfresi anfeidrol mewn ffwythiannau; 8. penderfynu radiws cydgyfeiriant cyfresi pwer; 9. defnyddio theorem cydgyfeiriant safonol yngl'n a chyfresi pwer.
Disgrifiad cryno
Mae astudiaeth real o bwysigrwydd hanfodol i unryw fyfyriwr sy'n gobeithio mynd ymhellach na'r driniaeth arferol o fformwlau i ddatrys problemau safonol. Mae'r gallu i feddwl yn ddiddwythol ac i astudio enghreifftiau cymhleth yn angenrheidiol i addasu ac ymestyn cysyniadau i gyd-destynau newydd. Mae'r modiwl wedi'i anelu i ateb y gofynion yma.
Nod
Yn y modiwl yma, mae'r technegau dadansoddol, a'u datblygwyd yn MT11110, yn cael eu ymestyn i sefyllfa fwy cyffredin. Fe fydd y modiwl yn darparu'r sylfaen i ddadansoddiad glasurol mewn gosodiad cadarn, gyda phwyslais ar gymhwyso.
Cynnwys
1. CYFRES FOURIER: Theorem Cydgyfeiriant (mynegiad yn unig), cymhwysiad Cyfresi Fourier i grynhoi cyfresi anfeidrol.
2. CALCWLWS AML NEWIDYN: Dilyniadau, differadwyedd, deilliadau rhannol, graddau uwch a deilliadau rhannol cymysg.
3. THEORI CYFRES ANFEIDROL: Profi cydgyfeiriant, yn cynnwys prawf cymharol, prawf ratio, prawf integral. Cyfresi P'er, radiws cydgyfeiriant, cydgyfeiriant absoliwt. Egwyddor Cauchy o gydgyfeiriant ar gyfer cyfresi.
4. CYDGYFEIRIANT UNFFURF CYFRES O FFWYTHIANNAU: Cydgyfeiriant unffurf o gyfresi, Weierstrass M-test, Egwyddor Cauchy ar gyfer cydgyfeiriant unffurf.
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Addasrwydd a gwydnwch | Disgwylir i fyfyrwyr ddatblygu eu ffordd eu hunain o reoli amser ac i ddefnyddio'r adborth ar waith sy'n cael ei farcio er mwyn cefnogi eu dysgu. |
| Cydlynu ag erail | Anogir myfyrwyr i weithio mewn grwpiau er mwyn datrys problemau. |
| Cyfathrebu proffesiynol | Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno datrysiadau i ymarferion gosodedig sydd wedi'u hysgrifennu yn glir. |
| Datrys Problemau Creadigol | Bydd yr aseiniadau'n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr i ddangos eu creadigrwydd er mwyn darganfod datrysiadau a datblygu eu sgiliau datrys problemau. |
| Gallu digidol | Bydd defnydd o'r rhyngrwyd, Blackboard, a phecynnau mathemategol yn cael ei argymell er mwyn hybu dealltwriaeth o gynnwys y modiwl ac o'r enghreifftiau o gymwysiadau. |
| Sgiliau Pwnc-benodol | Mae'r modiwl yn datguddio myfyrwyr i bynciau mwy eang mewn mathemateg yn ogystal â chymwysiadau nad ydynt wedi dod ar eu traws o’r blaen. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5
Mathematics,Aberystwyth University, Physical Sciences Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622802 : +44 : +44 (0)1970 622021
maths@aber.ac.uk: maths@aber.ac.uk
