Dadansoddiad Cymhlyg
- Cod y Modiwl
- MT21510
- Teitl y Modiwl
- Dadansoddiad Cymhlyg
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 2
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Adil Mughal
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Rhagofynion
-
MA11110 neu MT11110
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
MA21510
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Dr Adil Mughal
- Dr Tudur Davies
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad ysgrifenedig | 100% |
| Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad ysgrifenedig | 100% |
Canlyniadau Dysgu
- Ar ôl cwblhau’r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru: 1. cyfrifo’n effeithiol gyda rhifau cymhlyg; 2. nodi a defnyddio hafaliadau Cauchy-Riemann; 3. penderfynu a yw ffwythiant gwerth-cymhlyg yn ddadansoddol; 4 enrhifo integrynnau amlinol; 5 nodi theorem Cauchy a disgrifio’i ganlyniadau; 6 enrhifo integrynnau gan ddefnyddio fformiwla integru Cauchy; 7. ehangu ffwythiannau dadansoddol fel cyfres Taylor a chyfres Laurent; 8. enrhifo integrynnau real gan ddefnyddio’r theori gweddillion.
Disgrifiad cryno
Astudiaeth o ffwythiannau sy’n cymryd gwerthoedd cymhlyg yw dadansoddiad cymhlyg. Ar yr un llaw mae’n bwnc ffrwythlon mewn mathemateg bur sy’n arddangos llawer o ganlyniadau cain ac annisgwyl, ac ar y llaw arall gellir cymhwyso’r theori mewn sawl cangen o fathemateg a pheirianneg. Mae rôl pwysig dadansoddiad cymhlyg mewn mathemateg gymhwysol, er enghraifft, yn rhannol ddyledus i’r defnydd o’r theori gweddillion mewn enrhifo integrynnau real a’r cymhwysiad o fapiadau cydffurf yn hydrodynameg a phroblemau mewn theori potensial.
Cynnwys
1. Adolygu priodweddau elfennol rhifau cymhlyg.
2. Hafaliadau Cauchy-Riemann. Ffwythiannau dadansoddol. Amodau angenrheidiol a digonol ar gyfer ffwythiant i fod yn ddadansoddol.
3. Integru amlinol. Theorem sylfaenol integru.
4. Theorem Cauchy. Fformiwla integru Cauchy, yn cynnwys y fersiwn cyffredinol.
5. Cyfres Taylor.
6. Cyfres Laurent.
7. Theori gweddillion.
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Na |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Ychwanegiad defnyddiol i bortffolio mathemategol myfyriwr |
| Datrys Problemau | Cynhenid mewn unrhyw fodiwl mathemateg. |
| Gwaith Tim | Na |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Dod yn gyfarwydd a phwnc newydd mewn Mathemateg |
| Rhifedd | Cynhenid mewn unrhyw fodiwl mathemateg. |
| Sgiliau ymchwil | Na |
| Technoleg Gwybodaeth | Na |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5
Mathematics,Aberystwyth University, Physical Sciences Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622802 : +44 : +44 (0)1970 622021
maths@aber.ac.uk: maths@aber.ac.uk
