Cyflwyniad i Ddadansoddiad Rhifiadol a'i Gymwysiadau

Cod y Modiwl
MT25220
Teitl y Modiwl
Cyflwyniad i Ddadansoddiad Rhifiadol a'i Gymwysiadau
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Semester
Semester 2 Dysgwyd dros 2 semester
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Dr Tudur Davies
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Rhagofynion
MA11110 neu MT11110
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
MA25220
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)

Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
CC24520 neu CS24520
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dr Tudur Davies

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Gwaith Cwrs: Taflenni Gwaith Semester 1 (30%) Aseiniadau Semester 2 (20%) 50%
Arholiad Semester Arholiad Ysgrifenedig: 2 Awr 2 Awr 50%
Asesiad Ailsefyll Gwaith Cwrs: Taflen Waith Atodol 50%
Arholiad Ailsefyll Arholiad Ysgrifenedig: 2 Awr 2 Awr 50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Arddangos gallu i ysgrifennu rhaglenni byr yn Python
  2. Arddangos ymwybyddiaeth o ymarfer da wrth ddatblygu rhaglenni cyfrifiadurol ar gyfer cyfrifiant rhifiadol
  3. Llunio polynomial neu sblein sy'n rhyngosod set o ddata
  4. Deillio a chymhwyso dulliau rhifiadol safonol ar gyfer integru, a dadansoddi cyfeiliornad y dulliau yma
  5. Darganfod israddau hafaliad aflinol gan ddefynyddio dulliau rhifiadol safonol, ac arddangos ymwybyddiaeth o drefn cydgyfeiriant y dulliau yma
  6. Cyfrifo brasamcanion rhifiadol o ddatrysiadau i broblemau gwerth cychwynnol gan ddefynddio dulliau un cam, ac arddangos ymwybyddiaeth o gydgyfeiriant a sefydlogrwydd y dulliau yma.

Disgrifiad cryno

Yn aml, mae'n amhosib darganfod datrysiad manwl gywir i broblem fathemategol gan ddefnyddio technegau arferol. Yn yr achosion hyn, yr unig beth amdani yw defnyddio technegau rhifiadol a chyfrifiadur. Mae dadansoddiad rhifiadol yn ymwneud a datblygu a dadansoddi'r dulliau ar gyfer datrysiadau rhifiadol i broblemau ymarferol. Bydd y cwrs hwn yn cynnig cyflwyniad i'r iaith raglennu Python, ac yn fwy eang, y stac Python Gwyddonol. Bydd yna’n cyflwyno technegau o amcancyfrif rhifiadol mewn problemau mathemategol yn ogystal â dadansoddiad o’r technegau, gan ddefnyddio Python er mwyn cynnig cymhwysiadau ymarferol o’r dulliau rhifiadol.

Nod

I addysgu sgiliau rhaglennu i fyfyrwyr ac eu cyflwyno i ddadansoddiad rhifiadol a’i gymwysiadau.

Cynnwys

Semester 1:

1. CYFLWYNIAD I PYTHON: Mathau, newidynnau, gosodiadau “if”, “for” a “while”. Y dehonglydd ac enrhifiad o fynegiadau syml. Golygu, arbed a llwytho cod.

2. STRWYTHURAU DATA YN PYTHON: Rhestrau ac araeau numpy.

3. FFWYTHIANNAU YN PYTHON. Diffinio a galw ffwythiant.

4. TREFNU COD PYTHON. Cynhyrchu dogfennaeth, darganfod a delio ag eithriadau, trefnu cod i fodiwlau.

5. PLOTIO YN PYTHON: Trin data a plotio canlyniadau

Semester 2:

1. RHYNGOSODIAD POLYNOMIAL: Fformiwla Lagrange. Fformiwla Newton a gwahaniaethau rhaniedig. Fformiwla gwahaniaethau ymlaen. Cyfeiliornad rhyngosodiad. Rhyngosodiad sblein giwbig.

2. INTEGRU RHIFIADOL: Rheol trapesoidaidd. Rheol Simpson. Rheolau integru cyfansawdd. Cyfeiliornad integru rhifiadol. Integru Romberg. Rheolau integru math Gauss.

3. DATRYSIAD I HAFALIADAU AFLINOL MEWN UN NEWIDYN: Dull dwyrannu. Dulliau pwynt sefydlog a mapiadau cyfangu. Dull Newton. Trefn cydgyfeiriant.

4. PROBLEMAU GWERTH CYCHWYNNOL: Bodolaeth ac unigrywedd datrysiadau. Dull Euler. Cyfeiliornad blaendoriad lleol. Cysondeb. Cydgyfeiriant. Sefydlogrwydd. Dulliau un-cam cyffredin. Dull trapesoidaidd. Dulliau rhagfynegi a chywiro

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cyfathrebu Mae'n rhaid i atebion ysgrifenedig i ymarferion a dogfennaeth cod fod yn glir ac wedi'i strwythuro'n dda. Mae sgiliau gwrando da yn hanfodol i gynnydd llwyddiannus yn y cwrs.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd cwblhau tasgau (taflenni gwaith a thaflenni problemau) erbyn y dyddiadau cau yn hybu datblygiad personol. Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau rhaglennu sydd â galw mawr amdanynt.
Datrys Problemau Bydd ymarferion yn cael eu gosod a'u marcio. Bydd y rhain yn cynnwys deillio a cymhwyso dulliau rhifiadol a gwerthuso'u cyfeilornad.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd disgwyl i fyfyrwyr ddatblygu eu dull eu hunain tuag at reoli amser er mwyn cwblhau gwaith mewn pryd, ac er mwyn gwneud y gwaith paratoi angenrheidiol rhwng darlithoedd a gweithdai. Dylent weithredu ar adborth, er enghraifft yr adborth yn y gweithdai ymarferol a roddir gan arddangoswyr ac adborth y darlithwyr wrth farcio gwaith.
Rhifedd Angenrheidol trwy gydol y modiwl.
Sgiliau pwnc penodol Sgiliau rhaglennu, sgiliau dadfygio, sgiliau rhifedd, sgiliau dadansoddi rhifiadol.
Sgiliau ymchwil Defnyddio cyfrifiadur. Chwilio trwy ddogfennaeth iaith a’r llyfrgell.
Technoleg Gwybodaeth Gosodir ymarferion i fyfyrwyr mewn gweithdai sy'n cynnwys datblygu cod cyfrifiadurol. Bydd angen iddynt allu defnyddio cyfrifiaduron a chyfleusterau'r llyfrgell drwy gydol y modiwl.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5