Hydrodynameg 1
- Cod y Modiwl
- MT25610
- Teitl y Modiwl
- Hydrodynameg 1
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 2
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Professor Simon Cox
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Rhagofynion
-
FG26020 neu PM26020
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
MA25610
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Professor Simon Cox
- Dr Tudur Davies
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Taflenni problemau: | 20% |
| Arholiad Semester | Arholiad Ysgrifenedig: 2 Awr | 80% |
| Arholiad Ailsefyll | Arholiad Ysgrifenedig: 2 Awr | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- 1. Egluro gofynion y syniad o gyfraddau newid lleol a darfudol. 2. Cyfrifo’r forteisedd ar gyfer llif llifydd delfrydol. 3. Enrhifo’r amod anghywasgedd ar gyfer maes cyflymder penodol. 4. Cymhwyso a datrys yr hafaliadau rheoli mewn sefyllfaoedd penodol.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno a'n datblygu'r cysyniad sylfaenol Hydrodynameg Glasurol a'n cynnig fframwaith ar gyfer gwerthfawrogiad modern o Fecaneg Hylifau.
Nod
I gynnig fframwaith sylfaenol ar gyfer gwerthfawrogiad modern o Ddynameg Hylifau. I gyflwyno cysyniad sylfaenol Hydrodynameg Glasurol. I egluro sut gall modelu mathemategol o fudiant hylif fod o gymorth er mwyn deall ffenomenau penodol yn y byd go iawn mewn meysydd megis meteoroleg ac aerodynameg.
Cynnwys
1. Cysyniadau sylfaenol: Cyflymder, cyflymiad, gwasgedd, dwysedd.
2. Adolygiad o galcwlws fector a systemau cyfesurynnol.
3. Systemau cyfeirio Euleraidd a Lagrangaidd.
4. Cinemateg mudiant hylif: llinlwybrau, llinliniau, llinreianau, forteisedd, ayyb.
5. Hafaliadau rheoli mudiant hylif sylfaenol.
6. Cymhwysiad hafaliadau Bernoulli.
7. Sylfeini hydrodynameg glasurol: Theoremau Kelvin; Llif anghylchdro.
8. Anghywasgrwydd: Llif potensial.
9. Strwythurau hydrodynameg syml mewn tri dimensiwn: tarddiadau, sinciau, dwbledi, ayyb.
10. Rhai problemau clasurol.
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Addasrwydd a gwydnwch | Disgwylir i fyfyrwyr ddatblygu eu ffordd eu hunain o reoli amser ac i ddefnyddio'r adborth ar waith sy'n cael ei farcio er mwyn cefnogi eu dysgu. |
| Cydlynu ag erail | Anogir myfyrwyr i weithio mewn grwpiau er mwyn datrys problemau. |
| Cyfathrebu proffesiynol | Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno datrysiadau i ymarferion gosodedig sydd wedi'u hysgrifennu yn glir. |
| Datrys Problemau Creadigol | Bydd yr aseiniadau'n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr i ddangos eu creadigrwydd er mwyn darganfod datrysiadau a datblygu eu sgiliau datrys problemau. |
| Gallu digidol | Bydd defnydd o'r rhyngrwyd, Blackboard, a phecynnau mathemategol yn cael ei argymell er mwyn hybu dealltwriaeth o gynnwys y modiwl ac o'r enghreifftiau o gymwysiadau. |
| Sgiliau pwnc penodol | Mae'r modiwl yn datguddio myfyrwyr i bynciau mwy eang mewn mathemateg yn ogystal â chymwysiadau nad ydynt wedi dod ar eu traws o’r blaen. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5
Mathematics,Aberystwyth University, Physical Sciences Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622802 : +44 : +44 (0)1970 622021
maths@aber.ac.uk: maths@aber.ac.uk
