Graffiau a Rhwydweithiau
- Cod y Modiwl
- MT32410
- Teitl y Modiwl
- Graffiau a Rhwydweithiau
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 2
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Gwion Evans
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
MA32410
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Dr Gwion Evans
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Arholiad Semester | Arholiad Ysgrifenedig: 2 Awr 2 Awr | 100% |
| Arholiad Ailsefyll | Arholiad Ysgrifenedig: 2 Awr 2 Awr | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Ymchwilio priodweddau elfennol graffiau;
- Perfformio lluniadau graff syml;
- Cynrychioli graffiau haniaethol fel diagramau;
- Penderfynu os yw graff yn bodloni amryw o feini prawf;
- Cymhwyso algorithmau ar gyfer darganfod cydrannau;
- Disgrifio algorithmau Dijkstra a Floyd, a’u cymhwyso mewn achosion syml;
- Cymhwyso dadansoddiad llwybr critigol i brosiectau syml;
- Cymhwyso naill ai algorithm Prim neu Kruskal ar gyfer darganfod coed rhychwantol pwys optimwm;
- Cymhwyso algorithm Ford-Fulkerson i rwydwaith cludiant i ddarganfod llif macsimwm.
Disgrifiad cryno
Datblygwyd damcaniaeth graff trwy ymchwilio nifer o broblemau clasurol – Problem Pontydd Konigsberg Euler, Problem Rhwydwaith Trydanol Kirchoff, Rhifiad Cayley o Graffiau Cemegol a’r Broblem Pedwar Lliw ar gyfer Mapiau Plân. Darganfyddir datrysiad llawn i Broblem Euler ac astudir problem Hamilton perthynol. Rhoddir algorithmau llwybr byrraf a hiraf gyda chymwysiadau, er enghraifft, i amserlennu gorchwyl (PERT). Disgrifir algorithmau i ddarganfod coed rhychwantol pwys optimwm mewn graffiau pwysol. Gellir eu defnyddio, er enghraifft, i ddarganfod rhwydweithiau cludiant cysylltiedig cost leiaf. Amlinellir y damcaniaethau o lifoedd mewn rhwydweithiau cludiant, yn arbennig theorem y toriad-lleiaf-llif-mwyaf. Mae yna gymwysiadau i lifoedd cludiant a damcaniaeth cydweddu.
Nod
I gyflwyno rhai testunau mewn damcaniaeth graff clasurol. I ddisgrifio algorithmau rhwydwaith fel y rhai i ddarganfod llwybrau o hyd optimaidd, coed rhychwantol pwysau optimwm a llifoedd macsimwm, ac i’w egluro trwy gymwysiadau i achosion syml.
Cynnwys
1. Damcaniaeth graff elfennol. Graffiau arbennig. Cymwysiadau syml. Matricsau cysylltiol. Teithiau a chysylltedd. Graffiau Euleraidd a Hamiltonaidd. Coed.
2. Llwybrau a chydrannau mewn graff. Algorithm i bennu cydrannau. Algorithmau llwybrau byrraf (Dijkstra) a hiraf. Algorithm Floyd.
3. Trefniad topolegol. Dadansoddiad Llwybr Critigol.
4. Coed rhychwantol. Algorithmau Prim a Kruskal i ddarganfod coed rhychwantol pwysau optimwm.
5. Rhwydweithiau cludiant. Llifoedd, toriadau. Theorem y toriad-lleiaf-llif-mwyaf. Algorithm Ford-Fulkerson.
6. Cymwysiadau.
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Addasrwydd a gwydnwch | Disgwylir i fyfyrwyr ddatblygu eu ffordd eu hunain o reoli amser ac i ddefnyddio'r adborth ar waith sy'n cael ei farcio er mwyn cefnogi eu dysgu. |
| Cydlynu ag erail | Anogir myfyrwyr i weithio mewn grwpiau er mwyn datrys problemau. |
| Cyfathrebu proffesiynol | Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno datrysiadau i ymarferion gosodedig sydd wedi'u hysgrifennu yn glir. |
| Datrys Problemau Creadigol | Bydd yr aseiniadau'n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr i ddangos eu creadigrwydd er mwyn darganfod datrysiadau a datblygu eu sgiliau datrys problemau. |
| Gallu digidol | Bydd defnydd o'r rhyngrwyd, Blackboard, a phecynnau mathemategol yn cael ei argymell er mwyn hybu dealltwriaeth o gynnwys y modiwl ac o'r enghreifftiau o gymwysiadau. |
| Sgiliau pwnc penodol | Mae'r modiwl yn datguddio myfyrwyr i bynciau mwy eang mewn mathemateg yn ogystal â chymwysiadau nad ydynt wedi dod ar eu traws o’r blaen. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6
Mathematics,Aberystwyth University, Physical Sciences Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622802 : +44 : +44 (0)1970 622021
maths@aber.ac.uk: maths@aber.ac.uk
