Dulliau Asymptotig mewn Mecaneg
- Cod y Modiwl
- MT34210
- Teitl y Modiwl
- Dulliau Asymptotig mewn Mecaneg
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 2
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Adam Vellender
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Dr Tudur Davies
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Arholiad Semester | Arholiad Ysgrifenedig: 2 Awr 2 Awr | 100% |
| Arholiad Ailsefyll | Arholiad Ysgrifenedig: 2 Awr 2 Awr | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Arddangos dealltwriaeth o ystyr datrysiadau asymptotig yn y cyd-destun priodol a sut i ddehongli’r datrysiadau yma;
- Datrys hafaliadau differol cyffredin a rhannol llinol ac aflinol syml trwy ddefnyddio dulliau asymptotig;
- Egluro digwyddiad ffenomena asymptotig mewn mecaneg gan ddefnyddio enghreifftiau addas.
Disgrifiad cryno
Bydd nifer o broblemau mathemategol sy’n codi mewn mecaneg yn rhai y gellir eu gosod yn nhermau hafaliadau differol. Fel rheol, mae problemau o’r fath yn gosod heriau newydd o safbwynt mathemategol. Felly mae’r achos terfannol, sydd â datrysiad dadansoddol, yn hynod o bwysig. Prif amcan y dull asymptotig yw symleiddio’r broblem fathemategol sydd dan ystyriaeth.
Cynnwys
1. Sylfeini: prif syniadau a thechnegau, diffiniadau o’r symbolau Landau, dilyniannau a chyfresi asymptotig.
2. Dulliau aflonyddiad rheolaidd: polynomialau, hafaliadau differol cyffredin.
3. Dulliau aflonyddiad hynod: cydbwysedd trechol, graffiau Kruskal-Newton.
4. Brasamcan asymptoticg o integrynnau: cyfres Taylor, dull Laplace.
5. Osgiliadau aflinol: cymhelliant ffisegol, hafaliad Duffing, termau oesol, dull Linstedt-Poincare.
6. Osgiliadau gwanychol: cymhelliant ffisegol, dull dwy raddfa.
7. Dull asymptotig cymharus: technegau a chymhwysiad.
8. Dargludiad gwres mewn parthau tenau.
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6
Mathematics,Aberystwyth University, Physical Sciences Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622802 : +44 : +44 (0)1970 622021
maths@aber.ac.uk: maths@aber.ac.uk
