Prosiect Llai
- Cod y Modiwl
- MTM9720
- Teitl y Modiwl
- Prosiect Llai
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 1
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Tudur Davies
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Rhagofynion
-
Myfyrwyr MMath blwyddyn olaf yn unig all ddilyn y modiwl - Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Adroddiad Prosiect: Adroddiad ysgrifenedig (25-50 tudalen) | 100% |
| Asesiad Ailsefyll | Adroddiad Prosiect: Adroddiad ysgrifenedig (25-50 tudalen). | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Arddangos y gallu i gasglu gwybodaeth yn annibynnol, gan ddefnyddio'r llyfrgell, rhwydwaith cyfrifiaduro ac adnoddau'r rhyngrwyd;
- Arddangos y gallu i ddechrau ymchwiliadau, llunio problemau addas a'u datrys;
- Arddangos y gallu i gyflwyno adroddiad manwl ar y gwaith a wnaed wedi ei deiposod neu ei baratoi gan ddefnyddio prosesydd geiriau.
Disgrifiad cryno
Bwriad y modiwl hwn yw cynorthwyo myfyriwr MMath blwyddyn olaf i ddilyn ymchwiliadau mathemategol neu ystadegol gan weithio mor annibynnol a phosibl o gyfarwyddyd uniongyrchol, ac i baratoi adroddiad cydlynol o'r ymchwiliadau. Dewisir y testun neilltuol mewn ymgynghoriad a goruchwylydd, a bydd y myfyriwr yn cyfarfod a'r goruchwylydd am awr yr wythnos ar y mwyaf. Prif bwrpas y tiwtorialau yma yw i sicrhau nad yw datblygiad y prosiect yn cael ei amharu gan anawsterau neu gamddealltwriaeth ac i wneud awgrymiadau fel bo'n briodol.
Nod
Cynnig profiad i'r myfyriwr o astudio pwnc mewn Mathemateg neu Ystadegaeth yn annibynnol.
Cynnwys
Bydd y testun a'r deunyddiau adnoddau yn cael ei drefnu mewn ymgynghoriad a'r goruchwylydd.
Bydd y modiwl yn cynnwys sesiynau hyfforddiant ar (i) deiposod LaTeX, (ii) ysgrifennu adroddiad mathemategol a (iii) gwneud y defnydd gorau o adnoddau’r llyfrgell. Bydd myfyrwyr yn cyflwyno’u ymchwil cychwynnol mewn adroddiad interim yn gynnar yn y semester, ac yn cael y cyfle i roi cyflwyniad llafar ar y prosiect tuag at ddiwedd y semester (ill dau am asesiad ffurfiannol).
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Addasrwydd a gwydnwch | Gweithio'n annibynnol trwy ansicrwydd, gan ymateb yn adeiladol i heriau a rhwystrau. |
| Cydlynu ag erail | Gweithio'n effeithiol gyda goruchwyliwr ac eraill, gan ddefnyddio adborth i wella gwaith annibynnol. |
| Cyfathrebu proffesiynol | Cyflwyno syniadau mathemategol cymhleth yn glir ac yn gywir ar ffurf ysgrifenedig a llafar. |
| Datrys Problemau Creadigol | Datblygu a chymhwyso dulliau gwreiddiol neu addasedig i ddatrys problemau mathemategol anarferol. |
| Gallu digidol | Defnyddio offer digidol priodol i gefnogi ymchwil, dadansoddi a chyflwyno pwnc mathemategol. |
| Meddwl beirniadol a dadansoddol | Dadansoddi problemau'n drylwyr, cwestiynu rhagdybiaethau, a gwerthuso dadleuon a chanlyniadau mathemategol. |
| Myfyrdod | Myfyrio ar ddysgu a gwneud penderfyniadau i nodi cryfderau a meysydd i'w gwella. |
| Sgiliau Pwnc-benodol | Cymhwyso gwybodaeth a thechnegau mathemategol uwch i gyflawni prosiect annibynnol. |
| Synnwyr byd go iawn | Cydnabod sut mae mathemateg uwch yn berthnasol i gymwysiadau neu ymchwil. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7
Mathematics,Aberystwyth University, Physical Sciences Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622802 : +44 : +44 (0)1970 622021
maths@aber.ac.uk: maths@aber.ac.uk
