Cyflwyniad i Systemau Cynhyrchu Da Byw
- Cod y Modiwl
- RG10810
- Teitl y Modiwl
- Cyflwyniad i Systemau Cynhyrchu Da Byw
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 2 Dysgwyd dros 2 semester
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Manod Williams
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
RD10810 neu RD10810 neu RD10810
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Dr Manod Williams
- Dr Ruth Wonfor
- Dr Pip Nicholas-Davies
- Dr Ifat Shah
Dulliau Asesu
|
Math o Assesiad |
Manylion Assesiad |
Hyd Assesiad |
Cyfran |
|---|---|---|---|
| Arholiad Ailsefyll | Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl. | 1 Awr | 60% |
| Arholiad Semester | 1 Awr | 60% | |
| Asesiad Ailsefyll | Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl. | 40% | |
| Asesiad Semester | Adroddiad technegol ar gynhyrchu anifeiliaid. | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- 1. Disgrifio'r systemau pwysig o gynhyrchu a ddefnyddir yn y diwydiannau cynhyrchu cig eidion, defaid, llaeth, moch, brwyliaid ac wyau
- 2. Adnabod y prif rwystrau i gynhyrchiant ar gyfer pob un o'r systemau hyn
- 3. Cymharu effeithiolrwydd gwahanol ddulliau o gynhyrchu ar gyfer pob system
- 4. Trafod cymhwyso ymchwil wyddonol i gynhyrchu anifeiliaid
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hwn yn gyflwyniad i brif systemau cynhyrchu anifeiliaid fferm (cig eidion, defaid, llaeth, moch, brwyliaid ac wyau) a'u cynllun yng nghyd-destun amaethyddiaeth y DU a'r byd. Cyfeirir yn benodol at rwystrau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol i gynhyrchu, a phwysigrwydd iechyd a lles anifeiliaid. Tynnir sylw at y cwmpas ar gyfer cymhwyso gwybodaeth ac ymchwil wyddonol fel sylfaen ar gyfer modiwlau dilynol.
Cynnwys
1. Ar gyfer pob un o'r prif systemau cynhyrchu anifeiliaid (cig eidion, defaid, llaeth, moch, brwyliaid ac wyau), cyflwyniad i:
a. Y gwahanol systemau o gynhyrchu a'r heffeithiolrwydd, cryfderau a gwendidau perthnasol
b. Cyd-destun economaidd a deddfwriaethol cyfredol pob system
c. Iechyd a rhwystrau eraill i gynhyrchu ym mhob system
2. Cymhwyso'r ymchwil i gynhyrchu anifeiliaid, gan gynnwys biotechnoleg
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig effeithiol drwy'r arholiad a'r aseiniad, lle caiff y rhain eu hasesu. Rhoddir adborth ar gyfer yr aseiniad. |
| Datrys Problemau | Ceir elfen o ddatrys problemau yn yr aseiniad. Caiff hyn ei asesu yn yr aseiniad a rhoddir adborth arno. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio deunyddiau, rheoli amser a chyrraedd dyddiadau cau ar gyfer yr aseiniad a'r arholiad, a hynny y tu allan i oriau cyswllt ffurfiol. Bydd myfyrwyr yn medru adolygu a monitro eu cynnydd a chynllunio ar gyfer gwella perfformiad personol. Rhoddir adborth ar gyfer yr aseiniad. |
| Rhifedd | Bydd elfen o drafod rhifau yn perthyn i'r aseiniad. Caiff hyn ei asesu yn rhan o'r aseiniad a rhoddir adborth. |
| Sgiliau pwnc penodol | Datblygir ac asesu cysyniadau sy'n benodol i'r pwnc sy'n ymwneud â chynhyrchu anifeiliaid yn yr arholiad a'r aseiniad. Rhoddir adborth ar gyfer yr aseiniad. |
| Sgiliau ymchwil | Bydd gofyn i'r myfyrwyr ymchwilio i bynciau ehangach na chwmpas y darlithoedd ar gyfer yr aseiniad a'r arholiad. Defnyddir gwybodaeth o amryw ffynonellau. Asesir sgiliau ymchwil drwy'r arholiad a'r aseiniad. Rhoddir adborth ar gyfer yr aseiniad. |
| Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio'r we ar gyfer ffynonellau gwybodaeth dibynadwy a defnyddio cronfeydd data i ganfod testunau wrth baratoi ar gyfer yr aseiniad a'r arholiad. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4
Life Sciences,Aberystwyth University, Edward Llwyd Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622315 : +44 : +44 (0)1970 622021
ibtstaff@aber.ac.uk: ibtstaff@aber.ac.uk
