Systemau Cynhyrchu Da Byw
- Cod y Modiwl
- RG23400
- Teitl y Modiwl
- Systemau Cynhyrchu Da Byw
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 1 Dysgwyd dros 2 semester
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Manod Williams
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Rhagofynion
-
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Dr Manod Williams
- Dr Ruth Wonfor
- Dr Pip Nicholas-Davies
- Dr Ifat Shah
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Hyd Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|---|
| Asesiad Semester | Portffolio Dadansoddiad System Gynhyrchu: Taflen ffeithiau (fact sheet) yn seiliedig ar ddadansoddiad o system gynhyrchu defaid neu gig eidion (1000 o eiriau) ac adroddiad ymgynghorol yn ymwneud â system cynhyrchu llaeth (1000 o eiriau) 2000 o eiriau | 60% | |
| Arholiad Semester | Arholiad cwestiynau amlddewis (MCQ) a chwestiynau ateb byr: Arholiad cwestiwn amlddewis ac ateb byr yn cwmpasu'r holl ddeunydd a addysgir yn S1 ac S2. | 2 Awr | 40% |
| Asesiad Ailsefyll | Portffolio Dadansoddiad System Gynhyrchu: Taflen ffeithiau (fact sheet) yn seiliedig ar ddadansoddiad o system gynhyrchu defaid neu gig eidion (1000 o eiriau) ac adroddiad ymgynghorol yn ymwneud â system cynhyrchu llaeth (1000 o eiriau) 2000 o eiriau | 60% | |
| Arholiad Ailsefyll | Arholiad cwestiynau amlddewis (MCQ) a chwestiynau ateb byr: Arholiad cwestiwn amlddewis ac ateb byr yn cwmpasu'r holl ddeunydd a addysgir yn S1 ac S2. | 2 Awr | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Roi disgrifiad meintiol o systemau cynhyrchu anifeiliaid ac adnabod y rhyngweithio rhwng elfennau'r system
- Adnabod prif rwystrau cynhyrchiant
- Adnabod rol ymchwil yn natblygiad systemau cynhyrchu anifeiliaid
- Dadansoddi cofnodion perfformiad da byw er mwyn adnabod, egluro a chywiro perfformiad is-optimaidd
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn disgrifio trefniadaeth a rheolaeth y prif systemau cynhyrchu gwartheg godro, eidion, defaid a moch yn y DU. Cyfeirir yn benodol at y ffactorau sy'n dylanwadu ar gynhyrchiant anifeiliaid, iechyd a lles, effeithiolrwydd defnyddio adnoddau, perfformiad ariannol ac ansawdd y cynnyrch. Trafodir cymhwyso ymchwil i dwf, atgynhyrchu, llaetha, geneteg, maeth, iechyd a lles anifeiliaid ar gyfer datblygu gwell systemau cynhyrchu.
Nod
Amcan y modiwl yw darparu disgrifiad manwl o'r rhyngweithiadau biolegol cymleth sy'n bodoli mewn systemau cynhyrchu anifeiliaid a chanfyddiad o sut y medrir ymgorffori darganfyddiadau ymchwil i wella cynhyrchiant yn ogystal a darparu'r sgiliau sylfaenol fydd yn galluogi myfyrwyr i ganfod problemau a chywiro perfformiad is-optimaidd.
Cynnwys
Strwythur diwydiannau cynhyrchu eidion, defaid, llaeth a moch y DU.
Rheoli bwyd gwartheg godro, sgor cyflwr, defnyddio porfa ac anoddau bwyd eraill
Datblygiad, strwythur a swyddogaeth cadeiriau, trin cyfansoddiad llaeth
Bridio gwartheg godro
Magu heffrod a ffrwythlondeb y fuches
Iechyd gwartheg godro yn cynnwys anwylderau metabolig, cloffni, TB, Clwy'r Traed a'r Genau a Thafod Glas
Systemau cynhyrchu ar gyfer defaid mynydd, tiroedd uchel a thiroedd isel
Rheoli atgynhyrchu'r famog a'r hwrdd
Bridio defaid
Strategaethau bwydo'r famog yn ystod beichiogrwydd a'r cyfnod llaetha
Iechyd y famog feichiog a'r famog sy'n llaetha ac 'rn sy'n tyfu
Systemau cynhyrchu lloi sugno, strategaethau bwydo a rheoli atgynhyrchu
Magu lloi
Systemau cynhyrchu cig eidion llaeth dwys, lled ddwys a helaeth
Systemau cynhyrchu moch
Rheoli'r hwch gyfnewid
Strategaethau bwydo ar gyfer perfformiad oes gorau'r hwch sy'n bridio
Rheoli'r hwch drwy'r cyfnod bridio, beichiogrwydd, esgor, llaetha a'r cyfnod sych.
Rheoli'r mochyn newyddanedig, wedi'i ddiddyfnu, sy'n tyfu ac sy'n gorffen.
Iechyd a lles moch.
Sicrhau'r ansawdd cynnyrch gorau.
Cynlluniau yswiriant ffermydd a'u lles.
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Datblygir sgiliau ysgrifenedig yn yr aseiniad yn cynnwys cyfathrebu drwy eiriau, tablau a diagramau. Asesir drwy'r aseiniad a'r arholiad. |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Ymwybyddiaeth o gyfleoedd gyrfa ym maes ffermio a'r diwydiannau sy'n cefnogi'r maes hwn a datblygiad sgiliau perthnasol. |
| Datrys Problemau | Dangosir yn y darlithoedd a'r dosbarthiadau ymarferol sut y caiff problemau wrth ddatblygu systemau cynhyrchu anifeiliaid eu hadnabod a'u datrys. Bydd myfyrwyr yn meithrin sgiliau datrys problemau drwy'r aseiniadau. Asesir drwy aseiniad. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Trwy oresgyn heriau i ddysgu a deall a godir yn yr aseiniadau. Trwy astudio hunangyfeiriedig a defnyddio deunyddiau e-ddysgu. |
| Rhifedd | Dadansoddi a dehongli cyfresi data aseiniad. Dehongli ymchwil a gyhoeddwyd. Asesir yn yr asesiniadau. |
| Sgiliau ymchwil | Bydd darlithoedd, dosbarthiadau ymarferol ac aseiniadau yn datblygu ymwybyddiaeth o ddehongli a chymhwyso ymchwil i ddatblygu a gwella systemau cynhyrchu anifeiliaid. Asesir yn yr aseiniad a'r arholiad. |
| Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio prosesyddion geiriau a thaenlenni wrth baratoi aseiniadau. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5
Life Sciences,Aberystwyth University, Edward Llwyd Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622315 : +44 : +44 (0)1970 622021
ibtstaff@aber.ac.uk: ibtstaff@aber.ac.uk
