Theatr a Chyd-Destun 1
- Cod y Modiwl
- TC11020
- Teitl y Modiwl
- Theatr a Chyd-Destun 1
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 1
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Roger Owen
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
TP11020
Mae TC11020 yn gyfeitihiad o TP11020 - Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Dr Gareth Evans
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Portffolio Ysgrifenedig: Crynodeb - 750 o eiriauAseiniad Myfyrio Beirniadol - 750 o eiriau 1500 o eiriau | 50% |
| Asesiad Semester | Traethawd Ysgrifenedig: Bydd yn rhaid i fyfyrwyr ysgrifennu traethawd yn seiliedig ar gwestiwn a ddewisir o restr 1500 o eiriau | 50% |
| Asesiad Ailsefyll | Traethawd Ysgrifenedig: Bydd yn rhaid i fyfyrwyr ysgrifennu traethawd yn seiliedig ar gwestiwn a ddewisir o restr 1500 o eiriau | 50% |
| Asesiad Ailsefyll | Portffolio Ysgrifenedig: Crynodeb - 750 o eiriauAseiniad Myfyrio Beirniadol - 750 o eiriau 1500 o eiriau | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Dangos dealltwriaeth briodol o fframweithiau a methodolegau damcaniaethol allweddol sy'n berthnasol i ddadansoddi arferion theatr a pherfformio hanesyddol a chyfoes.
- Disgrifio, dehongli a gwerthuso amrywiaeth o destunau, arferion a ffurfiau theatr a pherfformio.
- Dangos gallu priodol i ddadansoddi perfformiad theatrig fel digwyddiad byw o fewn amrywiaeth o gonfensiynau a genres arddulliol.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hwn yn cynnig cyflwyniad cynhwysfawr i gyfnodau canolog o hanes theatr gan ganolbwyntio ar theatr gyfoes a'i chyd-destunau hanesyddol cyn yr 20fed ganrif. Mae'r darlithoedd yn cyflwyno unedau pynciol fesul pythefnos, gan archwilio'r 'hen' a'r 'newydd'. Bydd darlith yr wythnos gyntaf yn archwilio enghraifft 'hanesyddol' o theatr a bydd darlith yr ail wythnos yn archwilio ei hetifeddiaeth gyfoes tra hefyd yn codi cwestiynau ynglŷn â pherthynas â enghraifft hanesyddol. Bydd y modiwl yn arfogi myfyrwyr â chysyniadau dadansoddol allweddol o ddrama, cymeriad, y corff, gofod ac amser. Bydd hefyd yn rhoi cyflwyniad iddynt i'r dadansoddiad o ddigwyddiadau theatr/perfformio byw.
Nod
Bydd astudio Theatr a Chyd-Destun 1 yn rhan greiddiol o ddarpariaeth Rhan 1 ddiwygiedig yr Adran. Bydd yn rhoi cyflwyniad cyffredin i holl fyfyrwyr Rhan 1 ar draws y cynlluniau gradd Drama, Theatr a Pherfformio i gysyniadau allweddol wrth astudio theatr a pherfformio cyfoes, yn ogystal â chanolbwyntio ar sgiliau darllen, ymchwil ac ysgrifennu academaidd craidd. Ynghyd ag Astudio Theatr 2 bydd y modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr Rhan 1 i ddatblygu dealltwriaeth gadarnach o natur gydgysylltiedig astudio mewn Drama, Theatr a Pherfformiad.
Nodau'r modiwl arfaethedig yw:
* Cyflwyno cysyniadau allweddol, ymarferwyr blaenllaw a ffurfiau canolog o’r 20fed ganrif ynghyd ag ymarfer theatr a pherfformio cyfoes.
* Datblygu diffiniadau o theatr a pherfformio fel ymarfer esthetig a digwyddiad byw.
*Darparu cyflwyniad i theori ac estheteg theatr.
* Cyflwyno dulliau methodolegol o ddadansoddi perfformiad byw a’u cymhwysiad.
Cynnwys
Mae'r modiwl yn cynnig cyfres o ddarlithoedd ar brif ffurfiau, genres, hanesion a damcaniaethau theatr a pherfformio. Bydd y pynciau a drafodir yn y modiwl yn cael eu strwythuro fesul pythefnos. Ochr-yn-ochr â'r darlithoedd bydd seminar dwy awr wythnosol dan arweiniad tiwtor, a fydd yn helpu i ddyfnhau ymgysylltiad myfyrwyr â'r eirfa a'r damcaniaethau beirniadol a gyflwynir yn y darlithoedd ac yn rhoi ffyrdd i fyfyrwyr gymhwyso'r rhain i ddadansoddiad o berfformiad byw.
Cynnwys enghreifftiol y darlithoedd:
* Diffiniadau o 'theatr', 'drama' a 'pherfformiad'
* Trasiedi Groeg (Oedipus Rex)
* Addasiadau cyfoes o drasiedi Groeg
* Theatr ganoloesol (Medieval theatre (The Chester Mystery Plays, The Castle of Perseverance)
* Achosion cyfoes o'r Oesoedd Canol (Mistero Buffo)
* Hamlet Shakespeare a genedigaeth y goddrych modern.
* Pensaernïaeth Hamlet (Heiner Muller, Robert Lepage)
* Neo-glasuriaeth (Racine, Moliere)
* Amlygiadau cyfoes o'r neo-glasurol (Kane, Wertenbaker, van Hove)
* Astudio'r hanesyddol a'r cyfoes
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cydlynu ag erail | Ymdrinnir â gwaith grŵp effeithiol drwy drafod syniadau a barn drwy'r seminarau. Mae trafodaethau seminarau'n mynnu bod y sgiliau angenrheidiol yn cael eu defnyddio i gynnal gweithgareddau cydweithredol. |
| Cyfathrebu proffesiynol | Mae'r gallu i gyfleu syniadau'n effeithiol yn cael ei ddatblygu yn y seminarau a'i asesu'n uniongyrchol drwy Asesiad 1 a 2. |
| Datrys Problemau Creadigol | Mae datrys problemau dadansoddol, adnabod canlyniadau ac adnabod strategaethau a gweithdrefnau priodol yn cael eu hannog a'u hasesu drwy gydol y modiwl. |
| Gallu digidol | Mae'r gallu i ddefnyddio technoleg gwybodaeth wrth ymchwilio a chyflwyno aseiniadau ysgrifenedig yn cael ei asesu'n uniongyrchol yn Asesiadau 1 a 2. |
| Synnwyr byd go iawn | Mae hunanreoleiddio, cymhelliant a sgiliau rheoli amser yn cael eu datblygu drwy'r modiwl a gofynnir i’r myfyrwyr gwblhau eu haseiniadau yn llwyddiannus. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4
Theatre, Film and Television Studies,Aberystwyth University, Parry-Williams Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622828 : +44 : +44 (0)1970 622021
tfts@aber.ac.uk: tfts@aber.ac.uk
