Creu Ffilmiau Byrion 1

Cod y Modiwl
TC11120
Teitl y Modiwl
Creu Ffilmiau Byrion 1
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Semester
Semester 1
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Dr Thomas Alcott
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
FM11420 neu FM11520
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dr Gareth Evans

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Prawf Camera - Theori ac Ymarfer: 1 Awr 1 Awr 10%
Asesiad Semester Traethawd Adlewyrchol Feirniadol: 1500 o eiriau 40%
Asesiad Semester Prosiect Fideo Grŵp (4-5 munud): 50%
Asesiad Ailsefyll Prawf Camera - Theori ac Ymarfer: 1 Awr 1 Awr 10%
Asesiad Ailsefyll Traethawd Adlewyrchol Feirniadol: 1500 o eiriau 40%
Asesiad Ailsefyll Prosiect Fideo Grŵp (4-5 munud): 50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Datblygu ffilm fer trwy wahanol gamau cynhyrchu (datblygu, cyn-gynhyrchu, cynhyrchu, ôl-gynhyrchu)
  2. Gallu gweithredu camera, offer sain proffesiynol a meddalwedd golygu.
  3. Gallu dewis a defnyddio cysyniadau ffilm craidd wrth ddatblygu, cynllunio a chynhyrchu eich ffilm.
  4. Gallu cynllunio a chynhyrchu eich ffilmiau mewn modd proffesiynol a diogel.
  5. Gallu gweithio'n greadigol ac yn effeithiol mewn grŵp/criw.

Disgrifiad cryno

Cynlluniwyd Creu Ffilmiau Byr 1 i roi sylfaen yn yr holl sgiliau sylfaenol y bydd eu hangen ar fyfyriwr er mwyn symud ymlaen i fodiwlau ymarferol uwch. Bydd yn helpu i ddatblygu sgiliau technegol, creadigol a logistaidd craidd sy’n ganolog i wneud ffilmiau mewn modd proffesiynol.
Bydd y modiwl hwn yn mynd â myfyrwyr drwy'r cyfnodau allweddol o wneud ffilmiau (datblygu, cyn-gynhyrchu, cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu) ac yn dangos sut mae'r camau hyn yn cysylltu â'i gilydd. Bydd myfyrwyr yn dysgu sgiliau technegol craidd megis sut i weithredu camerâu proffesiynol, cit sain a meddalwedd golygu. Yr un mor bwysig, byddant yn dysgu cysyniadau creadigol a logistaidd allweddol i'w defnyddio wrth ymdrin â ffilm o rôl Sgriptiwr, Cyfarwyddwr, Gweithredwr Camera, Golygydd neu Dechnegydd Sain.
Bydd y modiwl hwn yn helpu i ddatblygu agwedd greadigol a phroffesiynol at wneud ffilmiau er mwyn i fyfyrwyr allu eu cario i fodiwlau uwch yn y dyfodol.

Nod

Bwriad y cwrs hwn yw cyflwyno cysyniadau a sgiliau allweddol mewn cynhyrchu cyfryngau, a sefydlu'r broses feddwl sydd wrth wraidd gwaith ymarferol.

Cynnwys

Mae cynnwys y cwrs yn canolbwyntio ar y canlynol:

* Camau cynhyrchu. Pwy sy'n gwneud beth a phryd.

* Ysgrifennu ar gyfer y sgrin: ysgrifennu sgript; siapio strwythur; a thechnegau ar gyfer creu naratif.

* Gweithdrefnau ar gyfer ffilmio: methodolegau saethu a'u goblygiadau artistig.

* Creu gwahanol bortreadau o 'ofod' ar y sgrin a'u potensial mynegiadol.

* Onglau camera a meintiau saethiadau.

* Ffocysu ddelwedd.

* Iaith Lens.

* Agweddau pellach ar sinematograffi digidol.

* Cysyniadau camera allweddol wrth gyfarwyddo ar gyfer gwneud ffilmiau naratif: egwyddorion, rheolau a phryd dylid eu torri.

* Cyflwyniad i olygu; saethu ar gyfer golygu.

* Elfennau ôl-gynhyrchu.

Bydd y sesiynau uchod yn cael eu cwmpasu trwy ddarlithoedd a gweithdai am wyth wythnos gyntaf y semester. Bydd y pythefnos arall y semester yn cael ei ddefnyddio i saethu’r prosiect fideo a chymhwyso’r theori i’r ymarfer.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cyfathrebu Mae ymarferion cynhyrchu byr yn cynnwys cyfathrebu rhwng cyfarwyddwr, sinematograffydd ac actorion.Mae'r prosiect fideo yn cynnwys cyfathrebu rhwng cyfarwyddwr, sinematograffydd, tiwtor ac actorion.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae'r modiwl yn pwysleisio gwaith cynhyrchu mewn rolau a ddiffinnir yn broffesiynol fel cyfarwyddwr, sinematograffydd ac awdur. Mae hefyd yn sefydlu ar lefel sylfaenol y gweithdrefnau proffesiynol mewn cynhyrchu.Gellir ychwanegu'r prosiectau fideo at bortffolio cynhyrchu myfyrwyr fel prawf o allu.
Datrys Problemau Mae'r ymarferion wythnosol yn cynnwys problem esthetig i'w datrys trwy wneud penderfyniadau.Mae cynhyrchu asesiad fideo byr yn gofyn am ddatrys problemau mewn meysydd creadigol, deallusol, logistaidd a thechnegol.
Gwaith Tim Cynhelir ymarferion camera mewn grwpiau bach.Mae'r cynyrchiadau fideo yn cael eu gwireddu mewn grwpiau bach.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Yn ystod ymarferion camera wythnosol, mae'r tiwtor yn gofyn i fyfyrwyr werthuso eu penderfyniadau creadigol.Yn y traethawd beirniadol, mae myfyrwyr yn gwerthuso i ba raddau y maent wedi gwireddu eu nodau creadigol ar gyfer y cynhyrchiad fideo.
Rhifedd Mae defnyddio pecyn golygu a chamera yn golygu cymhwyso sgiliau rhif.
Sgiliau ymchwil Mae cyn-gynhyrchu ar gyfer prosiect fideo ac aseiniad ysgrifenedig yn cynnwys ymchwil i ddilyniannau ffilm a fydd yn llywio'r gwaith creadigol.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddir meddalwedd proffesiynol i olygu'r gwaith.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4